Mae’r paragraffau canlynol yn rhoi enghreifftiau o’r geiriau yr hoffech eu defnyddio yn eich ewyllys efallai. Bydd y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni’n barod i roi cyngor pellach ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Ym mhob achos, rydym yn argymell bod y geiriau a ddefnyddir yn eich ewyllys yn cael eu hadolygu’n ofalus gennych chi a’ch cyfreithiwr.
Rhoddir y testun yma fel arweiniad yn unig ac nid ei fwriad yw disodli cyngor cyfreithiol neu broffesiynol arall.
Ariannol
Rhoddaf i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG y swm o £………. (yn ddi-dreth)* ar gyfer ei dibenion cyffredinol (NEU i ddibenion……. ) ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Cofrestrydd y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr.
* Cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni am eiriad posibl pe baech yn dymuno gwarchod eich Cymynrodd Ariannol rhag chwyddiant, drwy ei chysylltu â’r Mynegai Pris Manwerthu.
Penodol
Rhoddaf i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG…. (rhowch ddisgrifiad clir o’r eitem/au i’w cymynroddi) neu elw eu gwerthu, os gwerthir erbyn adeg fy marwolaeth, gyda phŵer llawn i sylweddoli’r cyfryw asedion ac i ddefnyddio’r elw at ddibenion cyffredinol y Brifysgol (NEU i ddibenion…… ) ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Is-ganghellor y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr
Gweddillol
Rwy’n rhoi cymynnu a becweddu i Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG (nodwch ‘y cyfan’ neu pa bynnag gyfran o’ch ystâd y dymunwch ei rhoi) o weddill fy ystâd yn llwyr i’w defnyddio ar gyfer dibenion cyffredinol y Brifysgol (NEU i ddibenion….. ) gyda phwer llawn i wario cyfalaf yn ogystal ag incwm ac rwy’n cyfarwyddo bod derbyniad Cofrestrydd y Brifysgol neu swyddog awdurdodedig arall bryd hynny yn y Brifysgol yn gyflawniad llawn a digonol i’m hymddiriedolwyr.
Refersiynol
Mae’r ffordd yr ymdrinnir â threth gyda chymynroddion refersiynol yn gymhleth. Felly, dylech drafod eich cynlluniau gyda gweithwyr proffesiynol ym maes cyllid a’r gyfraith, a all roi cyngor i chi ynghylch geiriad priodol eich ewyllys.
Diwygio ewyllysiau presennol – ysgrifennu codicil
Os oes gennych ewyllys eisoes, bydd aelod o’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn barod iawn i egluro sut y gellir gwneud newid syml drwy ddefnyddio codisil. Mae enghraifft i'w gweld .