Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol effeithiol a all helpu i warchod y bobl a鈥檙 sefydliadau hynny y dymunwch eu cefnogi. Trwy wneud ewyllys byddwch yn sicrhau bod eich cyfoeth oes yn parhau i ddarparu ar gyfer eraill.
Pan fyddwch yn penderfynu gwneud ewyllys dylech ymgynghori 芒 chyfreithiwr a fydd yn rhoi cymorth proffesiynol i chi er mwyn sicrhau y bydd eich cynlluniau鈥檔 rhoi鈥檙 budd ariannol mwyaf posibl i鈥檆h buddiolwyr. Mae鈥檔 bwysig eich bod yn diweddaru eich ewyllys i gymryd i ystyriaeth newidiadau mewn amgylchiadau.
Dyma鈥檙 pedwar prif fath o gymynrodd y gellwch ei adael yn eich ewyllys:
Ariannol: Rhodd o swm penodol o arian.
Mae gwerth rhodd o鈥檙 fath yn gostwng gyda chwyddiant o鈥檙 adeg yr ysgrifennir yr ewyllys. Gellir osgoi hyn drwy ei gysylltu 芒鈥檙 Mynegai Pris Manwerthu (Retail Price Index) neu neilltuo canran o鈥檆h yst芒d (gweler Cymynrodd Gweddillol).
Penodol: Rhodd o eiddo neu ased penodol.
Mae enghreifftiau鈥檔 cynnwys: eiddo, stociau a chyfranddaliadau, darluniau a pethau gwerthfawr eraill.
Gweddillol: Rhodd o weddill eich yst芒d neu gyfran ohoni.
Unwaith y byddwch wedi gwneud eich rhoddion ariannol a phenodol bydd gweddill eich yst芒d ar 么l. Gellwch roi鈥檙 cyfan o鈥檙 gweddill i berson neu sefydliad neilltuol, neu gellwch ei rannu rhwng nifer o fuddiolwyr. Mantais y math yma o gymynrodd yw na fydd yn cael herydu gan chwyddiant.
Refersiynol: Rhoi asedion i fuddiolwr o鈥檆h dewis, ond gan roi y buddion ohonynt i unigolyn penodedig yn ystod ei (h)oes.
Er enghraifft, gallai rhodd o鈥檙 math yma alluogi i gymar barhau i fyw mewn t欧 sy鈥檔 eiddo i chi nes bydd ef/hi yn marw, gyda鈥檙 cyfalaf wedyn yn dod yn eiddo i鈥檙 Brifysgol.
Awgrymiadau ar gyfer聽.