Ymchwil ymddygiadol i helpu i leihau'r defnydd o wrthfiotigau yng Nghymru
Mae Dr Emily Holmes, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd gwerth 拢352,254 i gynnal Ymchwil Gwrthfiotig yng Nghymru.
Nod y Gymrodoriaeth hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yw datblygu gallu mewn ymchwil iechyd trwy gefnogi unigolion i ddod yn ymchwilwyr annibynnol ac i ymgymryd 芒 phrojectau ymchwil o ansawdd uchel.
Bydd Dr Holmes yn cynnal project ymchwil 5 mlynedd i archwilio 鈥淓conomeg Diagnosteg Cyflym i leihau Rhagnodi Gwrthfiotigau yn GIG Cymru (TRaDe)鈥. Bydd y project TRaDe yn casglu barn y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ar brofion cyflym a hawdd y gellir eu cyflawni yn ystod apwyntiad clinig (e.e. pigo'r bys) a helpu i weld a oes angen gwrthfiotigau ar glaf. Bydd yn asesu sut mae barn ac ymddygiad pobl yn effeithio ar werth (cost-effeithiolrwydd) y profion hyn ac yn gwneud argymhellion ar y ffordd orau i drefnu gwasanaethau profi i leihau rhagnodi gwrthfiotigau yn GIG Cymru.
Mae nifer cynyddol o heintiau, fel niwmonia, yn mynd yn anodd eu trin, wrth i'r gwrthfiotigau a ddefnyddir i'w trin fynd yn llai effeithiol. Mae hyn yn arwain at gyfnodau hirach yn yr ysbyty, costau meddygol uwch a rhagor o bobl yn marw. Mae ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae tua 3 o bob 10 presgripsiwn sy'n cael eu dosbarthu mewn gofal sylfaenol ar gyfer gwrthfiotig, ond gall dros 20% o'r rhain fod yn ddiangen. Mae lleihau rhagnodi diangen yn hanfodol ond gall fod yn anodd adnabod haint bacteriol. Mae Cynllun Gweithredu'r DU i ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd, a ddatblygwyd ar y cyd 芒 gweinyddiaethau datganoledig, yn manylu ar yr angen brys i gefnogi mynediad at brofion diagnostig cyflym ar bwynt gofal (Llywodraeth EM 2019). Trwy ddysgu mwy am ddewisiadau pobl o ran cael profion a defnyddio gwrthfiotigau, gallwn ddarganfod y ffordd orau i wneud profion tra'n sicrhau gwerth da am arian i'r GIG.
Dywedodd Dr Emily Holmes:
鈥淢ae bygythiad ymwrthedd gwrthfiotig (AMR) yn bryder iechyd byd-eang. Mae angen brys i gefnogi gwneud penderfyniadau gwrthfiotig ac i wneud hyn mae'n rhaid i ni ddeall ymddygiad pobl. Mae'r dirwedd lle rydym yn darparu gofal iechyd ac ymchwil wedi newid ers dechrau covid-19 ac mae ymwybyddiaeth gynyddol o ddylanwad ymddygiad pobl ar feddygaeth fodern. Mae angen tystiolaeth fanwl arnom ar sut mae ymddygiad y claf a鈥檙 rhagnodwr yn dylanwadu ar werth profion diagnostig i leihau defnyddio gwrthfiotigau yng Nghymru, fel y gallwn sicrhau鈥檙 adenillion gorau ar fuddsoddiad.鈥
Dywedodd yr Athro Dyfrig Hughes, Cyd-gyfarwyddwr CHEME:
鈥淢ae'r Gymrodoriaeth hon yn dwyn ynghyd raglenni ymchwil y Ganolfan mewn perthynas 芒 dylanwad ymddygiad pobl ar ddefnyddio meddyginiaethau a modelu cost-effeithiolrwydd. Bydd y Gymrodoriaeth hon yn cynhyrchu tystiolaeth ymddygiadol o safon a fydd, ynghyd 芒 thystiolaeth glinigol, yn helpu i leihau rhagnodi amhriodol a chyfrannu at y defnydd gorau o feddyginiaethau yng Nghymru.鈥
Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
鈥淩oedd safon y ceisiadau yn uchel iawn eleni. Rydym yn falch o'r amrywiaeth o ddyfarniadau yr oeddem yn gallu eu gwneud, a bydd pob un ohonynt yn cyflwyno tystiolaeth ddefnyddiol ar draws amryw o feysydd blaenoriaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd buddsoddi yn yr ymchwil hwn, a'r ymchwilwyr sy'n gwneud y gwaith, yn cyfrannu at iechyd a ffyniant yng Nghymru.鈥
Bydd Cymrodoriaeth Dr Holmes wedi'i lleoli yng Ngr诺p Ymchwil Economeg Fferyllol, Polisi a Rhagnodi (PEPPER) Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor. I gael rhagor o wybodaeth am y project TRaDe, cysylltwch ag Emily yn: e.holmes@bangor.ac.uk