Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu thema ymchwil sy'n dod i'r amlwg yn canolbwyntio ar ddeall ac ymdrin â'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag anafiadau i’r ymennydd cysylltiedig â chwaraeon.
Caiff cyflwr trawma i’r ymennydd cysylltiedig â chwaraeon ei nodweddu gan nam ar weithrediad niwrolegol, gan arwain at symptomau amrywiol megis poen, cyfog, pendro, gwendid, dryswch, trafferthion cofio, newidiadau emosiynol, a phroblemau cysgu. Er bod y symptomau fel rheol yn cilio o fewn 7-10 diwrnod, mae rhai unigolion yn profi symptomau parhaus am sawl mis, cyflwr a elwir yn syndrom ôl-gyfergyd. Ar ben hynny, mae tystiolaeth yn dod i'r amlwg sy’n awgrymu risg hirdymor o glefydau niwroddirywiol yn gysylltiedig â thrawma ailadroddol i’r ymennydd.Ìý
Mae angen ymchwil i fynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth am risg cyfergyd cysylltiedig â chwaraeon mewn chwaraeon llawr gwlad, y diffyg offer diagnostig gwrthrychol ar gyfer cyfergyd a’r diffyg cydlyniant wrth reoli’r math hwn o anaf er mwyn ymdrin â’r heriau a wynebir gan y byd chwaraeon. Ìý
Ìý
I ddelio â rhai o’r problemau a’r heriau mae tair menter ymchwil wedi’u sefydlu:
Synnwyr Pen: Atal trawma i’r ymennydd cysylltiedig â chwaraeon yn sector addysg gogledd Cymru
Nod y project yw asesu nifer yr achosion o drawma i’r ymennydd cysylltiedig â chwaraeon yn sector addysg gogledd Cymru a chydweithio â rhanddeiliaid addysg, cyrff llywodraethu chwaraeon, a gwasanaethau gofal iechyd i ddatblygu strategaethau ataliol wedi'u teilwra. Y nod yn y pen draw yw sefydlu llwybrau dychwelyd-i-addysg effeithiol ar gyfer unigolion yr effeithir arnynt.
Taclo Cur Pen Rygbi’r Undeb: Dilysrwydd dyfais law feddygol ar gyfer asesu a gwerthuso achosion ysgafn o Anaf Trawmatig i'r Ymennydd (mTBI)
Mewn partneriaeth â thîm rhanbarthol Rygbi’r Undeb (Rygbi Gogledd Cymru), mae dau bwrpas i’r Ìýproject hwn. Yn gyntaf, ei nod yw asesu effeithiolrwydd dyfais newydd i ganfod cyfergyd er mwyn gwneud diagnosis cyflym a gwrthrychol ar ochr y cae yn Rygbi’r Undeb. Yr ail fwriad yw edrych ar yr effaith a gaiff tymor o rygbi lefel uchel ar weithrediad yr ymennydd a metabolaeth.
Monitro Anafiadau yn Rygbi Ieuenctid Merched Cymru
Mae hwn yn broject ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar roi sylw i’r diffyg gwybodaeth sydd ar gael am risg anafiadau i chwaraewyr rygbi ieuenctid merched, yn enwedig ar lawr gwlad. Trwy ddarparu data meincnod ar gyfraddau cyfergyd yn y boblogaeth hon, nod y project yw taflu goleuni ar faint y broblem.
Meddai Dr Julian Owen, ymchwilydd blaenllaw mewn gwyddorau chwaraeon ac ymarfer sy'n gysylltiedig â'r projectau hyn, "Mae hwn yn ddatblygiad ymchwil cyffrous iawn rhwng yr Adrannau Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor. Mae gennym enw da rhyngwladol am ymchwil i ddelweddu'r ymennydd ym Mhrifysgol Bangor Ìýynghyd ag ymchwil sy’n datblygu i atal anafiadau mewn chwaraeon, yn enwedig mewn rygbi'r undeb, bydd y projectau ymchwil hyn yn adeiladu ar y gwaith blaenorol hwn. Mae cyfergyd cysylltiedig â chwaraeon yn amserol ac yn ddadleuol iawn yn dilyn adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynglÅ·n â diogelwch chwaraeon. Felly, rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau’r projectau hyn yn cael effaith yn y byd go iawn, yn enwedig o fewn chwaraeon llawr gwlad, sydd yn draddodiadol wedi cael eu hesgeuluso yn y maes ymchwil hwn.â€
Ìý
Wythnos Ymwybyddiaeth Anafiadau i’r Ymennydd: Projectau Ymchwil Prifysgol Bangor sy'n ymdrin â Thrawma i’r Ymennydd Cysylltiedig â Chwaraeon
Mae trawma i’r ymennydd cysylltiedig â chwaraeon, a elwir hefyd yn gyfergyd cysylltiedig â chwaraeon, wedi dod yn broblem gyffredin mewn chwaraeon cyswllt a chwaraeon digyswllt, yn enwedig ymysg plant a phobl ifanc. Fel un o’r anafiadau a adroddir amlaf, mae’n peri heriau sylweddol i’r gymuned chwaraeon.Ìý