Rydym i gyd yn ymwybodol o鈥檙 pryder ymysg y gymuned sy鈥檔 caru rygbi ar hyn o bryd am anafiadau cyswllt a chyfergyd yn benodol, ond fe all anafiadau digyswllt hefyd gael effaith fawr ar lwyddiant chwaraewyr a thimau.
Ond beth yw鈥檙 ffordd orau i baratoi athletwyr am anghenion y gystadleuaeth y maent yn ei hwynebu? Cyn bob tymor, mae chwaraewyr fel arfer yn dilyn cyfnod hyfforddi sydd fel rheol yn cynnwys tuag wyth wythnos neu fwy o hyfforddiant dwys. Ehangu perfformiad yw prif nod y cyfnod yma, ond nod pwysig arall yw lleihau鈥檙 risg o anafiadau yn ystod y tymor.
Fodd bynnag, ychydig iawn a wyddom am effaith hyfforddi yn ystod y cyfnod cyn y tymor cystadleuol ar anafiadau dilynol.
Gan mai anafiadau digyswllt wrth redeg yw ail achos mwyaf cyffredin dros anaf mewn Rygbi Undeb, bu gwyddonwyr chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio sut y mae cyfanswm y llwyth hyfforddi cyn y tymor cystadleuol yn dylanwadu ar risg yn ystod camau gwahanol y tymor cystadleuol.
Fel yr esboniodd Seren Evans, myfyrwraig PhD a wnaeth ,
鈥淢ae ein canfyddiadau yn awgrymu y dylai timau a hyfforddwyr geisio cyflawni mwy o lwythi hyfforddi yn y cyfnod cyn y tymor cystadleuol, boed drwy gynyddu amlder neu hyd sesiynau hyfforddi neu gynyddu鈥檙 dwysedd er mwyn paratoi athletwyr yn well i wynebu gofynion chwarae gemau.鈥
鈥淢ae hyn oherwydd bod mwy o risg i athletwyr sydd wedi profi llwythi hyfforddi cyffredinol isel yn y cyfnod cyn y tymor cystadlu brofi anaf di-gyffwrdd tuag at ddiwedd y tymor, o鈥檜 cymharu 芒鈥檙 rhai a fu鈥檔 dilyn llwythi hyfforddi cymedrol cyn y tymor cystadleuol.
鈥淔e wnaethom ni ganfod hefyd, fod pobl efo hanes o anaf, yn ogystal 芒 llwyth hyfforddi cyn-dymhorol isel, yn fwy tebygol fyth o brofi anaf di-gyffwrdd.鈥
Dywedodd Dr Julian Owen, darlithydd mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer, a phrif ymchwilydd yr astudiaeth,
鈥淩ydym yn awgrymu bod hyfforddwyr yn parhau 芒鈥檙 arfer o fonitro hyfforddiant chwaraewyr yn ystod y cyfnod cyn-dymor a chyfrifo cyfanswm y llwyth hyfforddiant yn y cyfnod cyn-dymor.听 Gall hyn gynorthwyo hyfforddwyr a thimau meddygol yn y gamp i bennu a yw athletwr neu athletwraig wedi paratoi鈥檔 ddigonol ar gyfer anghenion cystadleuol y tymor.
鈥淢ae monitro hyfforddiant chwaraewyr yn agos yn bwysig gan fod y data yn awgrymu bod trothwy i鈥檙 hyfforddi cyn-dymor, ac os na chyrhaeddir hwn, yna fe all gynyddu鈥檙 risg o anaf听 yn ystod y tymor cystadlu. Mae鈥檙 risg yn cael ei gynyddu ymhellach mewn unigolion sydd 芒 hanes o anafiadau a hefyd os yw hyfforddwyr yn ceisio cynyddu鈥檙 hyfforddiant ar ddechrau鈥檙 cyfnod cystadlu i wneud yn iawn am ddiffyg hyfforddiant yn y cyn-dymor.鈥
鈥淢ae mwy nag un ffactor yn achosi anafiadau ac mae angen ymdriniaeth gyfannol i atal y risg anafiadau hyn. Byddai sgrinio am hanes anafiadau blaenorol hefyd yn gymorth i roi strategaethau cyn sefydlu penodol mewn lle er mwyn lleihau鈥檙 risg o anafiadau pellach. Bydd hyn hefyd yn lleihau鈥檔 sylweddol gostau meddygol anafiadau i鈥檙 unigolyn ac i鈥檙 t卯m.鈥