Fe wnaeth Postgrad Solutions Ltd, y cwmni y tu 么l i鈥檙 porth addysg 么l-radd byd-eang , gyhoeddi safleoedd ar gyfer yr adrannau seicoleg yr oedd y galw mwyaf amdanynt yn y Deyrnas Unedig ar gyfer cyrsiau 么l-radd yn 2023/2024.
Yn bumed yn y Deyrnas Unedig, mae adran seicoleg Prifysgol Bangor wedi profi i fod yn ddewis gwych i fyfyrwyr 么l-radd, gan gadarnhau ymhellach ei henw da am ddarparu addysg o ansawdd uchel a chyfleoedd ymchwil ym maes seicoleg.
Dywedodd Yr Athro Dave Richardson, Pennaeth yr Ysgol, 鈥淢ae cyrraedd y pum safle uchaf yn adlewyrchu cryfder ein hymchwil, y rhaglenni 么l-radd arloesol a gynigiwn ac ymroddiad ein t卯m. Mae'n braf gweld bod myfyrwyr 么l-radd yn cydnabod hyn ac yn chwilio am gyfleoedd ym Mangor."
Casglwyd y data y tu 么l i'r safleoedd hyn gan ddefnyddio algorithm pwrpasolPostgrad.com, sy'n cyfuno sawl metrig i ganfod lefel y diddordeb gan ddarpar fyfyrwyr 么l-radd. Roedd y ffactorau allweddol a ddylanwadodd ar y safleoedd yn cynnwys:
- Amledd termau chwilio o flwch chwilio Postgrad.com
- Traffig uniongyrchol i restrau adrannau seicoleg o chwiliadau organig
- Cyfanswm nifer y weithiau yr edrychwyd ar broffil pob prifysgol ar Postgrad.com dros y 12 mis diwethaf
Mae'r safleoedd hyn yn unigryw gan eu bod yn deillio'n gyfan gwbl o safbwynt myfyrwyr 么l-radd. Mae hyn yn cyferbynnu 芒 thablau cynghrair prifysgolion traddodiadol, sy鈥檔 tueddu i ganolbwyntio ar raglenni israddedig. Trwy flaenoriaethu data 么l-radd-benodol, mae safleoedd Postgrad.com yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar y galw presennol am adrannau seicoleg a'u rhaglenni 么l-radd ledled y Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth Rob Houghton, Cyd-sylfaenydd Postgrad Solutions, dynnu sylw at bwysigrwydd y canfyddiadau hyn, 鈥淢ae seicoleg yn parhau i fod yn ddewis 么l-radd o鈥檙 radd flaenaf, ac mae myfyrwyr yn awyddus i ddod o hyd i鈥檙 cwrs perffaith. Rydym yn gyffrous i dynnu sylw at ganlyniadau ein hymchwil gyda'r pum ysgol hyn, y rhai y chwiliwyd amdanynt fwyaf yn gyson ar Postgrad.com. Mae gan bob adran gryfderau unigryw ac amrywiaeth wych o gyrsiau, sy'n darparu ar gyfer y maes hwn sy'n esblygu'n barhaus."
I ddysgu mwy am Seicoleg ewch i'r wefan a'r rhifyn diweddaraf o Y Meddwl a鈥檙 Corff, newyddlen yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon.