Podlediad yn rhannu profiadau bywyd y tu hwnt i ddiagnosis o ddementia
Mae podlediad newydd yn y gyfres Am Iechyd gan Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhannu profiadau o fywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia o safbwyntiau gwahanol.
Bydd y podlediad yn cael ei lansio鈥檙 swyddogol ar ddydd Mercher, 28 o Fehefin mewn yn Galeri, Caernarfon.
鈥淵 gobaith yw y bydd y podlediad yn agoriad llygad i bawb, ac yn annog rhagor o bobl i fod yn fwy agored am ddementia a sut i gael y gefnogaeth sydd mor bwysig,鈥 meddai Dr. Catrin Hedd Jones, sy鈥檔 ddarlithydd ar gwrs meistr mewn Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth Glenda Roberts o ardal Pwllheli at y meddyg teulu yn 56 wedi i'w theulu sylweddoli fod rhywbeth o鈥檌 le o ran ei chof a nifer o bethau eraill, gan gynnwys y ffordd yr oedd hi鈥檔 siarad. Fel rhan o鈥檙 podlediad, mae鈥檔 dweud,
鈥淧am mae rhywun yn cael y diagnosis o ddementia, mae鈥檔 goblyn o sioc, yn enwedig os ydach chi鈥檔 ifanc fel oeddwn i.
鈥淢ae o鈥檔 lot mwy na anghofio lle da chi wedi rhoi eich pwrs. Mae鈥檆h synhwyrau chi i gyd yn newid, a dydi rhywun ddim yn gwybod pam, os nad ydy rhywun yn deud wrtha chi fod hynny鈥檔 bosib o ddigwydd.
鈥淥s fyswn i eisiau croesi鈥檙 l么n, fedra i ddim deud os ydi car yn dod yn agos ata i, pa mor gyflym mae o鈥檔 mynd, ydi o鈥檔 mynd i stopio i adael i mi groesi鈥檙 l么n. Mae鈥檙 holl ganolbwyntio鈥檔 gallu blino rhywun yn ofnadwy.鈥
Mae cael y gefnogaeth iawn gan gynnwys gofalwyr proffesiynol wedi bod yn hollbwysig i Glenda fedru mynd allan a mwynhau bywyd wrth fyw efo鈥檙 cyflwr, ac erbyn hyn y mae hi鈥檔 cydweithio ag ysgolion a鈥檙 Brifysgol ym Mangor i s么n am ei phrofiad fel person sy鈥檔 byw gyda dementia, ac yn helpu i ddatblygu adnoddau i roi gwybodaeth ddefnyddiol i unigolion wedi iddynt dderbyn deiagnosis.
Mae mam Rhian Green hefyd yn byw gyda dementia ac mae鈥檙 teulu, yn enwedig ei thad, yn cefnogi ei mam i fyw gyda鈥檙 cyflwr. Yn y podlediad, mae hi鈥檔 ymhelaethu ar brofiadau鈥檙 teulu, gan ddweud:
鈥淒a ni鈥檔 trio fel teulu, gyda chymorth ffrindiau a gwasanaethau, gwneud yn si诺r ei bod hi鈥檔 cael bywyd cystal 芒 phosib - y nod pennaf yw gwneud yn si诺r ei bod hi鈥檔 hapus, mor aml ag sy鈥檔 gorfforol bosib.鈥
Wedi profi dementia ei mam, mae Emma Quaeck 聽bellach yn arwain cynllun Dementia Cyngor Gwynedd, gan gynnig gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl gyda dementia, ac yn y podlediad mae hi鈥檔 ymhelaethu ar y ddarpariaeth sydd ar gael.
鈥淒ros y saith, wyth mlynedd 鈥榙a ni wedi bod yn rhedeg y cynllun yma, dwi wedi dysgu cymaint am ddementia trwy fod efo pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia - yr unigolion ond hefyd y bobl sy鈥檔 eu cefnogi. Mae hynny wedi bod mor werthfawr, ac wedi arwain ni at gynnal y rhaglen Dementia Actif sy鈥檔 trio helpu pobl i fyw mor dda a fedra nhw efo dementia, yn eu cymunedau.鈥
Y neges fwyaf a ddaw o鈥檙 drafodaeth ar y podlediad yw鈥檙 angen i geisio di-stigmateiddio鈥檙 cyflwr a siarad yn agored am sut i gefnogi pobl sy鈥檔 byw gyda dementia.
Meddai Rhian Green, 鈥淢ae鈥檔 andros o beth anodd cydnabod a dygymod 芒鈥檙 posibilrwydd bod bywyd yn mynd i newid yn sgil deiagnosis o ddementia, ond o fod yn agored mae鈥檔 helpu di-stigmateddio鈥檙 holl beth ac yn ei wneud o鈥檔 fwy 鈥榥ormal鈥. Mae gan bawb efo dementia hawl i gael eu gweld, hawl i gael eu clywed a hawl i gael eiriolaeth a sefyll ochr-yn-ochr 芒 phawb arall mewn cymdeithas a chael boddhad a phleser o fywyd.鈥
Un ffordd mae Glenda yn gwneud hyn yw cynnig cyngor 聽am sut i wella mannau cyhoeddus a siopau a鈥檜 gwneud yn fwy dementia-gyfeillgar.
鈥淢a na ffordd rownd rhan fwyaf o bethau,鈥 meddai. 鈥淯nwaith 鈥榙a chi鈥檔 agor un drws, ma 鈥榥a ddrws arall yn agor. Ma 鈥榥a rwystra鈥 a gwaith i鈥檞 wneud, ond peidiwch byth 芒 meddwl eich bod chi ar ben eich hun.鈥
Mae llawlyfr am beth gall wneud bywyd ychydig yn haws ar ol derbyn diagnosis o dementia ar gael yma