Mae鈥檙 Gymrodoriaeth hon yn garreg filltir arwyddocaol, nid yn unig i mi, ond i Brifysgol Bangor hefyd, gan ei bod yn nodi鈥檙 tro cyntaf i grant o鈥檙 fath gael ei ddyfarnu i鈥檙 sefydliad. Bydd yn caniat谩u inni ganolbwyntio ar wella gofal sgrinio serfigol i ferched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rywiol. Trwy weithio gyda鈥檔 partneriaid, yn lleol ac yn rhyngwladol, ein nod yw sicrhau bod pob merch yn cael mynediad at y gofal ataliol hanfodol hwn.
Dywedodd yr Athro Julie Green, sef Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, 鈥淢ae hwn yn gyflawniad gwych ac yn cynnig cyfle anhygoel i Dr Davies yrru'r maes ymchwil hwn yn ei flaen, gan ganolbwyntio ar iechyd merched. Yn ogystal 芒 hynny, bydd y Gymrodoriaeth yn cefnogi datblygiad Dr Davies fel arweinydd ymchwil yn y dyfodol.鈥
Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnwys mentoriaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y maes. Caiff y gefnogaeth hon ei hategu ymhellach gan raglen hyfforddi a ariennir a lleoliadau gwaith sy'n canolbwyntio ar economeg iechyd a gofal.
Eglurodd Helen Weatherly, sy鈥檔 Athro Economeg Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Efrog, ac yn un o fentoriaid academaidd Dr Davies, 鈥淢ae canser gwddf y groth yn glefyd y gellir ei atal, a gwyddom fod merched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rywiol yn llai tebygol o fynd i apwyntiad sgrinio serfigol yn rheolaidd. Mae angen ymchwil pellach yn y maes hwn i sicrhau bod pob merch yn gallu cael mynediad at apwyntiadau sgrinio serfigol.鈥
Dywedodd Rhiannon Tudor Edwards, sy鈥檔 Athro mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae ystyriaethau tegwch yn rhan bwysig o economeg iechyd cyhoeddus ac ataliol. Bydd gwaith Dr Davies yn darparu tystiolaeth i wella ansawdd gofal, i arbed arian i'r GIG, ac i wella iechyd a lles y merched hyn.鈥
Dywedodd yr Athro Deborah Fitzsimmons o Brifysgol Abertawe, 鈥淢ae gwaith Dr Davies yn gyfle amserol a phwysig i ddeall sut y gallwn ddarparu strategaethau atal iechyd cyhoeddus cynaliadwy i wella bywydau merched o grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu鈥檔 ddigonol.鈥
Ychwanegodd Sion Williams, sy鈥檔 Ddarllenydd mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淏ydd y cyflawniad hwn yn galluogi Dr Davies i weithio tuag at fod yn arweinydd ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal 芒 galluogi Cymru i barhau i arwain ymchwil o safon fyd-eang mewn economeg iechyd a gofal.鈥
Ychwanegodd yr , sef Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, 鈥淎r ran y Gyfadran, mae鈥檔 bleser gennyf longyfarch y gr诺p dawnus hwn ar eu dyfarniadau. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr i ymchwilwyr o bob cefndir ac ar bob cam fel y gallant wneud cynnydd ystyrlon wrth symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ymchwil o fewn eu meysydd.鈥