Mae John Parkinson, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol ac Athro Seicoleg Ymddygiad ym Mhrifysgol Bangor, yn rhan o gr诺p sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar wyddoniaeth ymddygiad drwy'r pandemig a thu hwnt i hynny.
Yn fwyaf diweddar, cyflwynodd y gr诺p adroddiad wedi iddynt arsylwi nifer o ddigwyddiadau peilot yng Nghymru, er mwyn hysbysu a chefnogi'r Llywodraeth yn ystod y broses 'ailagor' ehangach. Bu'r gr诺p hefyd yn cynnig cyngor ar agweddau ymddygiadol o gwmpas cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog am , wrth i Gymru gymryd y camau nesaf tuag at聽ddyfodol gyda llai o gyfyngiadau Covid.
Yn ei r么l fel gwyddonydd arbenigol ar yr Is-gr诺p ar Hysbysu am Risg a Deall Ymddygiad, a gafodd ei sefydlu fel rhan o'r ymateb i'r Coronafeirws, mae John Parkinson wedi bod yn cynnig mewnbwn yn seiliedig ar ei brofiad academaidd ym maes ymddygiad a chymhelliant. Mae'r gr诺p wedi ysgrifennu sawl adroddiad sydd wedi eu cyflwyno i'r Llywodraeth er mwyn cyfrannu at yr ymateb cyffredinol i'r Coronafeirws.
Meddai John, "Gyda'n gilydd, rydym wedi profi, ac yn dal i brofi, cyfnod o ansicrwydd a newid mawr yn ein bywydau wrth i ni geisio delio gyda'r pandemig Coronafeirws. Mae hyn yn cynnwys popeth o ddelio gyda chyfyngiadau sydd i weld yn newid o ddydd-i-ddydd, a'r angen i brosesu gwybodaeth o sawl ffynhonnell a chyfeiriad, gan gynnwys teulu a ffrindiau, a'r cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol.
"Fy r么l i, fel seicolegydd ymddygiadol, yw cynghori'r Llywodraeth am sut orau i gyfathrebu'r risgiau mae'r cyhoedd yn eu hwynebu, a sut fedrwn ni gefnogi pobl i wneud penderfyniadau deinamig wrth iddynt wynebu sefyllfaoedd gwahanol. Mewn geiriau eraill, dyfarnu pa ymddygiad sy'n ddiogel a pha ymddygiadau sydd ddim wrth fyw ein bywydau beunyddiol. Beth mae gwyddoniaeth ymddygiadol wedi ei ddysgu i ni yw bod llawer o'n hymddygiad cymdeithasol yn cael ei yrru gan brosesau'r isymwybod, er enghraifft cop茂o'r hyn y mae eraill yn ei wneud fel ffordd sydyn a syml o wybod beth i'w wneud. Mae hyn yn medru arwain at fwlch rhwng y bwriad a'r weithred, ble rydym yn llawn fwriadu ymddwyn yn ddiogel o ran rheolau Covid ond yn methu oherwydd rhesymau鈥檔 ymwneud 芒'r sefyllfa sydd ohoni.
"Er enghraifft, mae ymddygiadau amddiffynnol allweddol megis cadw pellter, golchi dwylo, gwisgo masg, glanweithdra resbiradol a sicrhau awyriad yn y t欧 i gyd wedi bod yn bwysig iawn o ran lleihau'r nifer o heintiadau. Ond, tydi gweithredu'r holl fesurau yma ddim o hyd wedi bod yn hawdd i bobl, nid oherwydd bod unigolion ddim yn gweld y budd, mae'r rhan helaeth yn gweld budd, ond oherwydd fod ffactorau cymdeithasol, economaidd neu emosiynol eraill yn milwrio鈥檔 erbyn y bwriad yma i wneud y peth iawn.
Mae sut mae risg ac ansicrwydd yn gael ei gyfathrebu i'r cyhoedd hefyd yn cael effaith sylweddol ar ymddygiad, yn enwedig yn y tymor canolig i'r tymor hir.
Yn gyffredinol, tydi pobl ddim yn hoffi ansicrwydd am gyfnodau hir iawn, felly mae sicrhau bod yr elfen o ansicrwydd yn y neges yn cael ei gydnabod, ond wedyn dangos pa gamau sy'n cael eu cymryd i leihau'r ansicrwydd, o gwmpas brechu yn arbennig, wedi bod ac am barhau i fod yn bwysig.
Yn yr un modd, mae atgyfnerthu'r ffaith bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn y canllawiau yn llawer mwy defnyddiol na rhoi gormod o bwyslais ar y lleiafrif sydd ddim yn cadw atynt.
Tu hwnt i'w r么l ymgynghorol, mae John hefyd wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal astudiaethau i gefnogi ymdrechion y Llywodraeth i gadw Cymru'n ddiogel. Mae arsylwi ymddygiad mewn digwyddiadau prawf wedi bod yn gyfle i roi cyngor ar 'ailagor' a deall patrwm ymddygiad mewn digwyddiadau o'r fath, a pha mor dda mae unigolion yn cadw at y canllawiau.
Meddai John, "Roedd y digwyddiadau鈥檔 amlygu pwysigrwydd bod yn glir gyda'r gynulleidfa am ddisgwyliadau'r trefnwyr o ran ymddygiad, modelu-r么l ac amgylchiadau unigryw. Roedd hefyd yn dangos bod treigl amser yn effeithio unigolion a'u hymddygiad. O ganlyniad, roedd yn bosib cynnig rhestr o argymhellion, wedi'i gwreiddio mewn gwyddor ymddygiad, y byddai modd i'r Llywodraeth ystyried wrth ddatblygu polisi.
Yn yr wythnosau nesaf, bydd y gr诺p tasg yn cynnig cyngor o ran Cynllun Rheoli'r Coronafeirws a symud i lefel rhybudd 0. Bydd hyn yn cynnwys sut i fewnosod ymddygiadau positif yn yr hir-dymor, sut i dawelu meddyliau鈥檙 rhai sy'n dioddef o or-bryder am Covid, a sut i adeiladu capasiti mewn gwyddor ymddygiad er mwyn cefnogi cyfathrebu ac ymyriadau yn y dyfodol.