Adroddiad newydd ar sut y gall byw mewn cartref oer effeithio ar ein hiechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor wedi cyhoeddi ar bwysigrwydd cynhesrwydd tai i鈥檔 hiechyd a鈥檔 llesiant.
Mae鈥檙 adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth bod byw mewn cartref oerach (ar dymheredd is na 18掳C) yn gysylltiedig ag effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant, yn enwedig ar gyfer pobl h欧n neu鈥檙 rhai sydd 芒 chyflyrau iechyd neu anableddau. Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys set o argymhellion ar y drefn wresogi foddhaol yng Nghymru.
Mae鈥檙 adroddiad yn argymell, er mwyn diogelu iechyd, y dylem gynhesu ein cartrefi (neu o leiaf ardaloedd byw a ddefnyddir yn gyffredin), i dymheredd cyfforddus nad yw鈥檔 is na 18掳C. Gallai fod angen i gartrefi 芒 phreswylwyr h欧n neu鈥檙 rhai 芒 chyflyrau iechyd neu anableddau wresogi eu cartrefi i dymheredd uwch na 18掳C.
Mae鈥檙 argymhellion yn seiliedig ar waith ar y cyd a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae鈥檔 cynnwys adolygiad o鈥檙 dystiolaeth ar gartrefi oer ac arolwg cartrefi gyda dros ddwy fil o drigolion Cymru yn archwilio cynhesrwydd tai yn ystod y gaeaf.
Roedd gan wyth o bob deg o gyfranogwyr yr arolwg (79%) thermostat ystafell weithio neu reolydd tymheredd digidol yn eu cartref. O鈥檙 rhai a nododd dymheredd thermostat ystafell, dywedodd un o bob deg (10.7%) fod eu thermostat wedi鈥檌 osod ar dymheredd islaw 18掳C, sy鈥檔 arwydd o gartref oerach. Roedd y rhai a oedd yn rhentu eu cartrefi'n breifat ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn byw mewn cartref oerach na pherchnogion tai. Roedd unigolion a oedd yn byw mewn cartrefi oerach dros ddwywaith yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gyndyn o wahodd gwesteion i'w cartref oherwydd anawsterau i'w gadw'n gynnes na'r rhai a oedd yn byw mewn cartrefi cynhesach.
Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn lleihau maint eu prydau bwyd neu鈥檔 hepgor prydau bwyd oherwydd cost gwresogi鈥檙 cartref, roedd: aelwydydd 芒 phreswylydd anabl neu incwm isel, ac unigolion 芒 chyflyrau iechyd, a oedd yn iau, yn byw ar eu pen eu hunain neu gydag o leiaf un plentyn, a'r rhai nad oedd yn berchen ar eu cartref.
Dywedodd naw o bob deg (89%) eu bod yn teimlo cysur thermol (teimlo鈥檔 gyfforddus o gynnes) yn eu prif fan byw. O'r rhai a nododd anghysur thermol, dywedodd dros saith o bob deg (71%) fod hyn oherwydd ei fod yn costio gormod i gadw'r gwres ymlaen.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn bwysig oherwydd eu bod yn dangos effaith costau gwresogi ar allu pobl i wresogi eu cartrefi'n ddigonol yn ystod y gaeaf.
Dywedodd Dr Rebecca Hill, Iechyd Cyhoeddus Cymru, 鈥淢ae ein hargymhellion yn seiliedig ar y dystiolaeth helaeth y gall tymheredd cartrefi o dan 18掳C fod yn niweidiol i iechyd a llesiant. Rydym yn cydnabod bod pobl sy鈥檔 h欧n neu sydd 芒 chyflyrau iechyd neu anableddau mewn perygl arbennig o gael canlyniadau iechyd a llesiant negyddol mewn cartrefi oer. Fodd bynnag, dylid cydnabod y bregusrwydd ehangach i gartrefi oer; er enghraifft, roedd aelwydydd incwm isel a'r rhai nad oeddent yn berchen ar eu cartref mewn mwy o berygl o adrodd am y canlyniadau negyddol a fesurwyd.听
O鈥檙 herwydd, dylid diweddaru canllawiau gwresogi cartrefi dros amser wrth inni ddysgu mwy am sut a pha bobl sy鈥檔 agored i gartrefi oer a sut, drwy ddefnyddio鈥檙 wybodaeth bwysig hon, y gallwn geisio mynd i鈥檙 afael ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd sy鈥檔 deillio o hynny.鈥
Dywedodd Dr Kat Ford, Prifysgol Bangor, 鈥Cynhaliwyd ein harolwg cartrefi ar adeg pan oedd costau ynni a hanfodion eraill y cartref yn dechrau cynyddu, ond cyn yr uchafbwynt mewn biliau ynni. Mae鈥檔 debygol y gallai mwy o bobl yng Nghymru y gaeaf hwn听
ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi yn ddigonol. Felly, mae鈥檔 bwysig bod aelodau鈥檙 cyhoedd yn gallu cyrchu gwybodaeth a chyngor ar gadw鈥檔 iach ac yn ddiogel gartref yn y gaeaf.鈥
听