Testun cyflwyniad ar gyfer y daith
Mae penrhyn Llŷn yn ymwthio allan o Massiff Eryri ac mae’r dirwedd iseldirol hon yn cael ei nodweddu gan ambell gopa gwenithfaen folcanig dramatig, sydd wedi cael eu defnyddio dros filoedd o flynyddoedd fel deunydd adeiladu. Saif un o’r copaon gwenithfaen trawiadol hyn a oedd yn ganolbwynt ar gyfer chwarela helaeth yn y cyfnod modern ar arfordir gogleddol Pen Llŷn, ychydig i’r de-orllewin o bentref Trefor (SH37147). Mae gweithfeydd Gwenithfaen Trefor ar Garn Fôr, un o fryniau’r Eifl yn y lleoliad arfordirol trawiadol hwn, yn parhau i fod yn nodwedd amlwg mewn tirwedd sy’n llawn cyfoeth archaeolegol (eistedda bryngaer Tre’r Ceiri ar ben dwyreiniol Yr Eifl). Agorwyd Chwarel Trefor yn 1867 gan y Welsh Granite Co. Ltd i fanteisio ar y gwenithfaen i’w ddefnyddio i gynhyrchu cerrig sets a oedd yn cael eu defnyddio i greu palmentydd mewn trefi a dinasoedd diwydiannol Prydain a oedd yn tyfu. Dechreuodd y chwarel fasnachol fodern gyntaf o amgylch Trefor yn y 1840au, cyn i bentref Trefor ei hun fodoli, gyda’r brydles chwarelyddol gyntaf yn 1844 ar gyfer safle chwarel bas yr ‘Hen Ffolt’. Sefydlwyd y Welsh Granite Company yn ddiweddarach yn 1949/50. Derbyniodd y Welsh Granite Company 1849-1864 brydles ym mis Mai 1854 i agor chwarel newydd wrth ymyl Hen Ffolt o’r enw Mynydd Garn Fôr, ochr yn ochr â thramffordd 2 troedfedd o led newydd i gludo’r gwenithfaen tua 2km i’r arfordir yn Nhraeth y Gwydir, yn ogystal â phentref newydd sbon ar gyfer y gweithlu a oedd yn rhedeg ar hyd y dramffordd hon. Enwyd y pentref hwn yn Trefor ar ôl Trefor Jones, y fforman cyntaf yng ngwaith newydd Mynydd Garn Fôr.
Mae llawer o’r gwaith a welwch yma heddiw yn dyddio i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif – er enghraifft, adeiladwyd y Sied Gynhyrchu sy'n debyg i gaer yn 1930. Dyma’r drydedd fersiwn o chwareli ar yr wyneb hwn o Garn Fôr. Mae’r lleill bellach wedi’u claddu o dan y tomenni gwastraff. Erbyn 1931, roedd dros filiwn o dunelli o gerrig sets, sef cerrig palmant wedi cael eu cynhyrchu gan y chwarel hon, cyn i’r sylw symud i gerrig mâl, sgleiniog wrth i’r galw am gerrig sets ddirywio. Y cynnyrch olaf a gynhyrchodd y chwarel hon oedd Meini Cwrlo, a defnyddiwyd Gwenithfaen Trefor ar gyfer Meini Cwrlo Gemau Olympaidd Gaeaf Salt Lake City 2002.
Lleoliad 1 – ‘Trosolwg ac Adeiladu’r Chwarel’
Yma gallwch weld ehangder Chwarel Trefor, gyda’r Sied Gynhyrchu sy’n debyg i gaer, a adeiladwyd yn 1930, a’r graig greithiog o dros gant mlynedd o gynhyrchu gwenithfaen. Dyma’r drydedd fersiwn o chwareli ar yr wyneb hwn o Garn Fôr. Mae’r lleill bellach wedi’u claddu o dan y tomenni gwastraff. Agorwyd Chwarel Trefor yn 1867 gan y Welsh Granite Co. Ltd i fanteisio ar y gwenithfaen i’w ddefnyddio i gynhyrchu cerrig sets a oedd yn cael eu defnyddio i greu palmentydd mewn trefi a dinasoedd diwydiannol Prydain a oedd yn tyfu. Cafodd y llethr hir y gallwch ei weld yn arwain i lawr o’r sied gynhyrchu i’r môr ei adeiladu hefyd yn 1867 ar gyfer y dramffordd 2 troedfedd o led a oedd yn gwasanaethu’r safle. Erbyn 1931, roedd dros filiwn o dunelli o gerrig sets wedi cael eu cynhyrchu gan y chwarel hon, cyn i’r sylw symud i gerrig mâl, sgleiniog wrth i’r galw am gerrig sets ddirywio. Y cynnyrch olaf a gynhyrchodd y chwarel hon oedd Meini Cwrlo, a defnyddiwyd Gwenithfaen Trefor ar gyfer Meini Cwrlo Gemau Olympaidd Gaeaf Salt Lake City 2002.
Lleoliad 2 – ‘Y Prif Lethr i lawr i Drefor’
Yma gallwch weld y llethr disgyrchiant hir a wasanaethodd y chwarel nes iddo gau. Fe’i hadeiladwyd yn 1867, ac roedd yn cludo tramffordd 2 troedfedd o led a oedd yn parhau i weithredu’n gyson tan 1959 pan godwyd y rheiliau a’i throi’n ffordd er mwyn cludo traffig moduron. Yn y gwaelod mae pentref Trefor, a enwyd ar ôl fforman cyntaf y chwarel – Trefor Jones – a adeiladwyd gan berchnogion y chwarel ar gyfer y gweithwyr, ac erbyn 1899 roedd tua 900 ohonyn nhw.
Lleoliad 3 – ‘Adeilad y Chwarel’, ‘Yr Adeilad o’r Awyr’, ‘Y Tu Mewn i'r Adeiladau Segur’, ‘Uwchben yr Adeilad’ a'r ‘Adeilad o Ochr yr Arfordir’
Yr adeilad a welwch yma yw’r brif sied gynhyrchu a adeiladwyd yn 1930 gan gwmni Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd – gweithredwyr y chwarel ar yr adeg hon. Cafodd ei adeiladu wrth i’r gwaith cynhyrchu symud o gerrig sets i gerrig mâl a sgleiniog, a byddai’r adeilad hwn wedi cadw'r peiriannau ar gyfer cynhyrchu o’r fath. Roedd yn dal i gael ei ddefnyddio nes i’r chwarela ar raddfa fawr ddod i ben yn Nhrefor yn 1971.
Lleoliad 4 – ‘Wal gyda thyllau i lawr i’r traeth’
Mae’r adfeilion hyn yn y lleoliad yn fras lle dangosir tanciau storio/dŵr ar Fap OS 1920. Maen nhw hefyd wrth ymyl rhan o’r dramffordd fewnol a fu’n croesi’r chwarel gyfan ar un tro.
Lleoliad 5 – ‘Ail Lefel yn y Chwarel’
Datblygodd y chwarel dros y 100 mlynedd y bu’n gweithredu, gyda lefelau newydd a oedd yn newid o hyd. Roedd llethrau mewnol, a gâi eu pweru gan ddisgyrchiant neu gytiau weindio, yn symud wagenni’r dramffordd rhwng y lefelau hyn.
Lleoliad 6 – ‘Siediau Gwaith neu Siediau Offer’
O’ch blaen mae gweddillion siediau a adeiladwyd fel rhan o gynllun cwmni Penmaenmawr & Welsh Granite Co. Ltd. i symud o gynhyrchu cerrig sets i wenithfaen mâl neu sgleiniog. Byddai’r siediau hyn wedi bod yn fannau storio neu’n fannau gwaith a oedd yn cael eu defnyddio yn y cynhyrchiad hwn. Roedden nhw hefyd yn cael eu gwasanaethu gan y dramffordd fewnol.
Lleoliad 7 – ‘Uwch i Fyny’r Chwarel’
Mae’r llun hwn o’r awyr yn dangos graddfa enfawr chwarela ar y safle, yn ogystal â’r lefelau niferus a’r wynebau chwarel a ddefnyddiwyd drwy gydol ei hanes.
Lleoliad 8 – ‘Prif Lawr y Chwarel’ a'r ‘Meini Cwrlo’
Mae’r lleoliad hwn yn dangos gweithfeydd bach olaf y chwarel – gallwch weld y darnau o wenithfaen sydd wedi cael eu defnyddio i gynhyrchu Meini Cwrlo. Yn wir, gwenithfaen Trefor a gloddiwyd o’r fan hon a ddefnyddiwyd i wneud y meini cwrlo ar gyfer Gemau Olympaidd Gaeaf Salt Lake City 2002.