Trosolwg
Yn 2022, dyfarnwyd buddsoddiad o £3 miliwn i ni o gronfa Cynllun Twf y Gogledd, trwy , Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym yn defnyddio’r cyllid hwn i wella ein seilwaith ymchwil, ar ffurf offer arbenigol iawn.Ìý
Amcanion
Amcan cyffredinol project Cynllun Twf y Gogledd yw gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil. Trwy wneud hynny, ein nod yw gwella ein gallu i gasglu rhagor o gyllid ymchwil, creu mwy o gyfleoedd i gydweithio â diwydiant a sefydliadau academaidd, datblygu atebion unigryw i gwmnïau ar draws y sector digidol, ac annog mewnfuddsoddiad sylweddol i ogledd Cymru. Ìý
Mae gennym bum amcan gwariant penodol yr ydym yn anelu at eu cyflawni erbyn 2031, sy'n cyd-fynd ag amcanion . Y rhain yw:Ìý
-  Annog arloesi a masnacheiddio trwy drosglwyddo gwybodaeth o’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol i’r economi ehangach, trwy weithio ar 70 o brojectau/cydweithrediadau erbyn 2031. Ìý
-  Sefydlu’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol fel canolfan gydnabyddedig, gan gyfrannu at amcanion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cyflwyno 5G. Ìý
-  Creu 10 swydd gynaliadwy, gwerth uchel yn uniongyrchol yn y sector digidol trwy ragoriaeth ymchwil a chefnogi 30 o swyddi yn anuniongyrchol. Ìý
-  Cynyddu Gwerth Ychwanegol Gros o £11 miliwn i £13 miliwn. Ìý
-  Sicrhau £12.5m o fuddsoddiad pellach trwy ennill grantiau a chyfraniadau gan y sector preifat. Ìý
Buddion
Prif fudd y project yw creu swyddi newydd.  Trwy wella ein gallu ymchwil, byddwn yn gallu manteisio ar gyfleoedd ariannu pellach, gan arwain at greu swyddi uniongyrchol trwy recriwtio ymchwilwyr newydd i weithio ar ymchwil, datblygu ac arloesi projectau. Bydd swyddi anuniongyrchol hefyd yn cael eu creu yn y diwydiant ehangach, yn sgil y cynnydd mewn cyfleoedd ymchwil, datblygu ac arloesi fydd yn deillio o brojectau cydweithredol y byddwn yn gallu gweithio arnynt gyda phartneriaid. Ìý