Byddwn yn croesawu Tim Haines i Brifysgol Bangor i draddodi darlith gyhoeddus o’r enw “Making Monsters” fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Bangor.
Dechreuodd Tim weithio fel newyddiadurwr cyn mynd i weithio fel cynhyrchydd ar “Tomorrow's World” a “Horizon”.
Yn y BBC, creodd gyfres nodedig a enillodd nifer o wobrau BAFTA ac Emmy, sef “Walking with Dinosaurs”, ym 1998, ac yna’r gyfres ddilynol “Walking with Beasts” a’r ddrama “The Lost World”. Sefydlwyd Impossible Pictures yn 2002 dan arweiniad Tim ac mae wedi mynd ymlaen i greu amrywiaeth fawr o raglenni ffeithiol a drama arbenigol boblogaidd i’r BBC, Channel 4, Sky, Discovery a Nat Geo yn cynnwys “Sea Monsters”, “Prehistoric Park”, “Primeval”, “Space Odyssey”, “Sinbad” a “Blitz Street”. Yn 2013, gwnaed Tim yn gyfarwyddwr creadigol ITV Studios Drama yn gyfrifol am “Beowulf” a “The Loch”. Fel cyfarwyddwr creadigol “Immersive Escapes”, cynhyrchodd Tim hefyd y profiad trochol “Dinosaurs in the Wild” ac yna yn 2019 sefydlodd Loud Minds, cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu sydd ar hyn o bryd yn gwneud cyfres wyddoniaeth nodedig i NBCU o’r enw “Surviving Earth”.
Graddiodd Tim Haines o Brifysgol Bangor ym 1981 gyda BSc mewn Sŵoleg Gymhwysol.Yn 2002, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.
Noddir Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn hael gan Gronfa Waddol Tom a Raj Parry Jones. Sefydlwyd y Gronfa yn 2002 i annog pobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd ac entrepreneuriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Mae'r gronfa yn cefnogi rhaglenni ar draws y Brifysgol, gan gynnwys yr Ŵyl Wyddoniaeth hon.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg