Bydd y cyflwynydd teledu a fforiwr, Steve Backshall yn dod i Brifysgol Bangor i siarad am fenwm a’r wyddoniaeth y tu ô i docsinau ofnadwy mewn natur mewn sgwrs yn Saesneg, ‘Venom; the science of terrible toxins in nature’ fel rhan o rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Bangor.!
**Bydd tocynnau ar gael o wefan Pontio neu trwy ffonio'r linell docynnau ar 01248 38 28 28 o 1pm dydd Gwener 23 Chwefror**
Ymunwch â’r fforiwr, naturiaethwr a’r seren deledu Steve Backshall am daith gyfareddol i fyd hudolus gwenwyn.
Gyda’i ddawn a’i angerdd nodweddiadol, bydd yr enillydd gwobr BAFTA sydd yn uwch ddarlithydd anrhydeddus ym Mhrifysgol Bangor, yn ymchwilio i’r dirgelion y tu ôl i’r tocsinau grymus sy’n cael eu defnyddio gan rai o greaduriaid mwyaf diddorol y byd, o nadroedd gwenwynig a phryfed cop i’r organebau morol mwyaf peryglus.
Bydd Steve yn archwilio arwyddocâd esblygiadol gwenwyn, gan ddatgelu sut mae'r cymysgeddau cryf hyn wedi esblygu fel arfau dyfeisgar ar gyfer goroesi. Bydd yr awdur enwog yn defnyddio ei brofiadau ei hun i ddatrys y wyddoniaeth y tu ôl i gemeg gymhleth gwenwyn ac yn egluro beth sy’n gwneud y tocsinau hyn mor aruthrol o rymus, a’r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn y byd naturiol.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg
Mae Steve Backshall MBE yn un o gyflwynwyr, naturiaethwyr, awduron ac anturiaethwyr byd natur mwyaf adnabyddus y byd teledu. Mae’n ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn dysgu myfyrwyr Bangor am gadwraeth, sŵoleg a’r diwydiant ffilmio bywyd gwyllt. Mae darlithoedd Steve ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ac mae cynlluniau ar y gweill i wneud ffrydiau byw o leoliadau ffilmio a theithiau maes Steve. Derbyniodd radd anrhydeddus am wasanaethau i addysg ym mis Gorffennaf 2023.Â