Lakes: The Sentinels of Climate Change, by Dr Iestyn Woolway
Public lecture, NERC Independent Research Fellow, School of Ocean Sciences.
Llynnoedd: gwylwyr y newid yn yr hinsawdd
Mae dadansoddiad newydd mawr o dymheredd llynnoedd yn cynnig tystiolaeth bellach o rywfaint o'r newid tymhorol. Mae ymchwil Iestyn Woolway a gyhoeddwyd yn Nature Communications, yn defnyddio data yngl欧n 芒 thymheredd llynnoedd yn hanesyddol ac yn fodelau weld pryd y mae amodau gwanwyn neu hydrefol nodweddiadol yn digwydd mewn llynnoedd ledled y byd, i ddangos yn union faint mae鈥檙 tymhorau wedi newid mewn gwahanol ranbarthau o鈥檙 byd ac amcangyfrif sut y bydd tymhorau鈥檔 newid yn y dyfodol.
Ers 1980, cyrhaeddodd tymereddau鈥檙 gwanwyn a鈥檙 haf yn llynnoedd hemisffer y gogledd yn gynharach (2.0 - 4.3 diwrnod yn gynharach bob degawd yn y drefn honno) a daeth yr hydref yn hwyrach (1.5 diwrnod y degawd) ac estynnwyd tymor yr haf (5.6 diwrnod y degawd). Y ganrif hon, mewn senario o allyriadau nwyon t欧 gwydr uchel, bydd y gwanwyn a'r haf yn cyrraedd yn gynharach fyth (3.3 a 8.3 diwrnod y degawd, yn y drefn honno), a bydd tymereddau'r hydref yn cyrraedd yn hwyrach (3.1 diwrnod y degawd) a bydd tymor yr haf yn ymestyn ymhellach (12.1 diwrnod y degawd).
Er o bosib y byddai pawb yn falch o weld gwanwyn cynnar a haf hir a chynnes, byddai鈥檙 fath ymateb yn or-syml. Gallai鈥檙 canlyniadau fod yn drychinebus i fyd natur. Yn y llynnoedd hwythau, mae rhywogaethau dyfrol yn ymateb i giwiau thermol tymheredd y llyn. Mewn hinsawdd sefydlog, bydd digwyddiadau tymhorol fel silio鈥檔 digwydd yr un pryd ac yn cyd-daro 芒 digwyddiadau eraill a allai gynnig ffynhonnell fwyd, er enghraifft.
听
Gwybodaeth am y siaradwr
Mae Dr Iestyn Woolway yn Gymrawd Ymchwil Annibynnol NERC ac yn Ddarllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor.
Gwybodaeth Archebu Lle
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn y cnawd ac ar-lein. Mae angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn os ydych yn bwriadu ymuno ar-lein.
Os ydych yn ymuno 芒'r digwyddiad yn y cnawd, cynhelir y sgwrs ym Mhrif Ddarlithfa'r Celfyddydau, y prif adeilad, Prifysgol Bangor, LL57 2DG.
Os ydych chi'n ymuno 芒'r digwyddiad ar-lein, bydd yn cael ei gynnal ar Zoom, a bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu cynnwys yn eich e-bost cadarnhau.听
Archebu
Os nad ydych eisoes wedi mewngofnodi i'n gwefan, fe'ch anogir i fewngofnodi. Cr毛wch gyfrif gwefan os nad ydych yn aelod ac nad ydych wedi mewngofnodi o'r blaen. Os ydych yn aelod ac nad ydych wedi mewngofnodi i'n gwefan ers 17 Awst, ailosodwch/cr毛wch eich cyfrinair drwy glicio ar 'Forgot password'.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cymorth gyda'ch archeb, e-bostiwch events@rgs.org
听
Main Arts Building, 麻豆传媒高清版, LL57 2DG
Main Arts Building
Main Arts Lecture Theatre
Top College
麻豆传媒高清版
LL57 2DG