Aelodau o'r Bwrdd
Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol:
Cyfarfodydd
Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor (7 Hydref 2024) a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Prifysgol Bangor. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol Bangor; Cyngor Gwynedd; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); Storiel; Cadeirlan Bangor; Canolfan Dysgu Morwrol Bangor, Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica (NWAS), Mantell Gwynedd, Menter Iaith Bangor, Grŵp Llandrillo Menai.
Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; ar ran y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, darparodd Alan Edwards drosolwg o brofiad Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol. Cyflwynodd Danielle Williams, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol Bangor, ddiweddariad ar gynnydd cais Siarter Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol. Cyflwynodd Darren Morley Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor sy'n agor yn ddiweddarach y mis hwn. Rhoddodd Dr Nia Jones, ar ran Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, drosolwg o'r Ysgol Feddygaeth i'r grŵp. Cafwyd rhagor o ddiweddariadau gan Ganolfan Dysgu Morwrol Bangor, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Mantell Gwynedd.
Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned, gan gynnwys llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol. Nodwyd bod y digwyddiad IWA terfynol wedi'i gynnal ar 3 Hydref yn Pontio a bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn cynllunio digwyddiadau eu hunain yn gynnar y flwyddyn newydd. Disgwylir i'r Gronfa Gymunedol gael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd partneriaeth ranbarthol newydd, gyda chefnogaeth MEDR, yn gweld Prifysgol Bangor yn cydweithio â Phrifysgol Wrecsam, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria ar gyfres o weithgareddau dros y 12 mis nesaf.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2025.
Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol BangorÌý(17 Fehefin 2024) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol Bangor; Cyngor Gwynedd; Adra; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); Cyngor Dinas Bangor; Storiel; Cadeirlan Bangor; Cyngor Tref Porthaethwy.
Materion dan sylw:ÌýGyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; Martin Hanks - trosolwg o waith Cyngor Dinas Bangor; Ingrid Pedersen – Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol Prifysgol Bangor ar gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus dros y misoedd nesaf. Derbyniwyd diweddariadau pellach gan Gorff Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor, Cyrsiau Byr Prifysgol Bangor, Canolfan Bedwyr, The Bangor Trade Winds Project, Adra, Storiel, Cadeirlan Bangor, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Tref Porthaethwy.
Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu Cymunedol, gan gynnwys llwyddiant Eisteddfod yr Urdd ym Meifod yn ddiweddar a’r cynlluniau sydd i ddod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Frenhinol Cymru. Mae’r tîm yn paratoi ar gyfer digwyddiad olaf yr IWA a gynhelir ar 3 Hydref yn Pontio a disgwylir i’r Gronfa Gymunedol gael ei lansio yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2024/25.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2024.
Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol Bangor (11 Mawrth 2024) a gynhaliwyd yn Hwb Gweithgareddau Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Bangor. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol Bangor; Cyngor Gwynedd; Adra; Cymdeithas Ddinesig Bangor; Mantell Gwynedd; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Menter Môn; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); EcoAmgueddfa; Cyngor Dinas Bangor.
Materion dan sylw: Gydag Iwan Williams yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; Martin Hanks - trosolwg o waith Cyngor Dinas Bangor; Darren Morley - Cyrsiau Byr Prifysgol Bangor; Dr Beth Edwards – Gofod i Blant a Phobl Ifanc: Ymgynghori â’r Gymuned; Dr Lori Beckett - Project Tlodi a Dysgu mewn Ysgolion Trefol Derbyniwyd diweddariadau pellach gan Mantell Gwynedd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru, Ecoamgueddfa, Storiel, Cymdeithas Ddinesig Bangor, Adra, Menter Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chorff Gwirfoddoli Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu Cymunedol, gan gynnwys llwyddiant Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn ddiweddar a digwyddiad y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) sydd i ddod ar 19 Mawrth a diweddariad ar drydydd galwad Cronfa Gymunedol Prifysgol Bangor. Yn ddiweddar, dyfarnodd y gronfa 7 project arall gan ddod â chyfanswm y projectau i 18 ers lansio'r gronfa. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2024.
Cynhaliwyd yn Nhŷ Gwyrddfai, Adra, Penygroes. Yn bresennol: Roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn bresennol yn y cyfarfod: Prifysgol Bangor; Cyngor Gwynedd; Adra; Cymdeithas Ddinesig Bangor; Mantell Gwynedd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Menter Iaith Bangor, Cyngor Dinas Bangor a Menter Môn.
Materion dan sylw: Yr Athro Andrew Edwards oedd yn cadeirio a thrafodwyd y materion canlynol; cafwyd trosolwg o Dŷ Gwyrddfai a sut mae'r cyfleuster yn cefnogi cymunedau lleol gan y Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau yn Adra; rhoddodd Dr Marcel Ferrand (Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr), a dderbyniodd gyllid o Gronfa Cydweithio Cymunedol y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gyflwyniad yn sôn am sut y defnyddiwyd yr arian i drefnu dau ddigwyddiad glanhau traethau gyda grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol; cafwyd diweddariad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig am y Gronfa Gymunedol, y Diwrnod Cymunedol a’r amrywiol ddigwyddiadau y mae’r tîm wedi bod ynddynt dros fisoedd yr haf. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Chwefror 2024.
Presennol: Daeth cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol i’r cyfarfod: Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas Bangor; Adra; Cymdeithas Ddinesig Bangor; Clwb Pêl-droed Dreigiau Gogledd Cymru.
Materion dan sylw: Gyda Gwenan Hine yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol; diweddariad gan Martin Hanks o Gyngor Dinas Bangor a'r datblygiadau amrywiol yng nghanol dinas Bangor a'r cyffiniau; cyflwyniad gan Chris Roberts, Clwb Pêl-droed Dreigiau Gogledd Cymru, derbynnydd Cronfa Cydweithredu Cymunedol Ymgysylltiad Dinesig; diweddariad ar ddatblygiadau Parc y Coleg gan y Cyfarwyddwr Ystadau a Gwasanaethau Campws; diweddariad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gan gynnwys diweddariad ar y Gronfa Gymunedol, y Diwrnod Cymunedol a'r digwyddiadau amrywiol a drefnwyd dros yr wythnosau; Rhoddodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor (GMB) drosolwg ar rai o'r projectau sydd ar y gweill a diolchodd i Gyngor Dinas Bangor am eu cefnogaeth barhaus; nodwyd y cynhelir yr wythnos raddio yn y brifysgol rhwng 10 a 14 Gorffennaf. Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf i’w cadarnhau.Ìý
Presennol: Daeth cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol i’r cyfarfod: Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas Bangor; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru; Adra; Mantell Gwynedd; Cymdeithas Ddinesig Bangor; Menter Môn; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Canolfan Groeso Wcrain ym Mhrifysgol Bangor; diweddariad ar drin cwad Prif Adeilad y Celfyddydau; adborth o ddigwyddiad Sefydliad Materion Cymreig – digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor ym mis Hydref ar dwristiaeth gynaliadwy; diweddariad ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru; cyflwyniad gan gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); cyflwyniad gan gyfarwyddwr Dinas Cyngor Bangor ar yr amrywiaeth o brojectau i helpu adfywio canol y ddinas; crynodeb byr ar Barc y Coleg; cyflwyniad gan y tîm Cenhadaeth Ddinesig, gan gynnwys diweddariad ar y wefan, lansiad y Gronfa Gymunedol, y diwrnod cymunedol ac adborth o holiadur y Bwrdd Cymunedol; diweddariad ar waith Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor ac Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) ar amrywiol brojectau yn ymwneud â phobl hŷn, plant a phobl ifanc, yr amgylchedd, lles a chodi arian. Dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf a sut caiff ei gynnal (ar-lein neu yn y cnawd) i'w cadarnhau.
Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas Bangor; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru (NWREN); Adra; Mantell Gwynedd; Heddlu Gogledd Cymru; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.Ìý
Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcrain; adborth ar Seremonïau Graddio dros yr haf; apwyntiad yr Is-Ganghellor newydd; diweddariad ar brosiectau Parc y Coleg a’r Cwad Mewnol; crynodeb o raglen waith Pontio; cyflwyniad ar y strategaeth Cenhadaeth Ddinesig newydd, yn ogystal a’r dudalen we newydd ar wefan y Brifysgol, yr arolwg staff ar ymgysylltu allanol a chrynodeb o’r digwyddiad yn trafod twristiaeth yn Pontio ar 6ed Hydref a drefnwyd gyda’r Sefydliad Materion Cymreig; diweddariad ar waith Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, gan gynnwys digwyddiad i ddathlu 70 mlynedd o wirfoddoli ym Mangor; crynodeb fer o waith Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru; diweddariad ar waith Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor; crynodeb fer o waith Heddlu Gogledd Cymru yn y gymuned ym Mangor; trafodaeth ar sut i gryfhau cyfathrebu rhwng y Brifysgol a’r gymuned; diweddariad ar waith recriwtio myfyrwyr y Brifysgol; crynodeb fer o waith Cyngor Dinas Bangor a’r gwaith i adfywio canol y ddinas; diweddariad ar brosiect ‘Ar y Lôn’ M-SParc ym Mangor; trafodaeth fer ar faterion tai a chefnogi myfyrwyr ym Mangor.Ìý
Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas Bangor; Cymdeithas Ddinesig Bangor; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarth Gogledd Cymru (NWREN); Rhwydwaith Dolan; Medrwn Môn; Adra; Grŵp Llandrillo Menai.Ìý
Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Genhadaeth Ddinesig, yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Cefnogaeth i ffoaduriaid o Wcrain; y diweddaraf ar benodi’r Is-Ganghellor newydd; y trefniadau ar gyfer staff a myfyrwyr ar y campws o fis Medi ymlaen; paratoadau ar gyfer Seremonïau Graddio Haf 2022; y diweddaraf ar brosiect Parc y Coleg a’r cyfleusterau ar gyfer sglefrfyrddwyr; y diweddaraf ar strategaeth a thudalen we Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol a’r posibilrwydd o Ddiwrnod Cymunedol yn 2023; crynodeb o ganlyniadau REF 2021 y Brifysgol; diweddaraf ar waith Grŵp Llandrillo Menai a’r cydweithio gyda’r Brifysgol; diweddariad ar strategaeth ystadau y Brifysgol; diweddariad ar Gyngor Dinas Bangor yn dilyn etholiadau lleol mis Mai 2022; crynodeb o waith Undeb Myfyrwyr Bangor.Ìý
Presenoldeb: Gwnaeth cynrychiolwyr o’r sefydliadau/cyrff canlynol fynychu’r cyfarfod: Prifysgol Bangor ac Undeb Myfyrwyr Bangor; Heddlu Gogledd Cymru; Mantell Gwynedd; Cyngor Gwynedd; Cyngor Dinas Bangor; Ysgol Friars; Adra; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Medrwn Môn; Grŵp Llandrillo Menai; Rhwydwaith Dolan.Ìý
Materion trafod: Gyda’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor y Genhadaeth Ddinesig, yn cadeirio, trafodwyd y materion canlynol: Achosion o sbeicio diodydd ymysg myfyrwyr a gwaith y Brifysgol/Heddlu i atal hyn; datblygiadau gyda phrosiect Parc y Coleg; Seremonïau Graddio Haf 2022; y diweddaraf ar ymateb y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd i bandemig Covid-19; cefnogaeth posib i ffoaduriaid o Wcrain; y diweddaraf gyda rhaglen Pontio; datblygiadau gyda strategaeth Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol; datblygiadau gyda phrosiect ‘Cymunedau Glan a Thaclus’ Cyngor Gwynedd ynghanol dinas Bangor; y diweddaraf ar Hwb Iechyd a Llesiant posib a’r Ysgol Feddygol i canol dinas Bangor; y diweddaraf ar brosiectau Adra ym Mangor; y diweddaraf ar brosiectau Partneriaeth Ogwen yn ardal Bethesda; diweddariad ar etholiadau lleol Cyngor Dinas Bangor yn mis Mai 2022; datblygiadau gyda’r cynllun atal llifogydd yn ardal Hirael, y posibilrwydd o’r Brifysgol yn cynnal Diwrnod Cymunedol yn 2023.Ìý
Ìý