Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Datblygwyd y rhaglen i wella gwybodaeth broffesiynol am brosesau ffisiolegol a phathoffisiolegol sydd, ynghyd 芒 ffenomenau cymdeithasol a seicolegol, yn sail i iechyd a chlefyd. Y nod yw datblygu 么l-raddedigion annibynnol sydd 芒 gwybodaeth a sgiliau proffesiynol uwch a all gyfrannu at foderneiddio'r GIG a sefydliadau eraill yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ymarfer Clinigol Uwch.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
- Gweithwyr proffesiynol cymwys sydd wedi'u cofrestru gyda'r HCPC, NMC, GPhC neu gywerth.
- Gradd 2(ii) neu gymhwyster proffesional cywerth, neu 3 blynedd o brofiad proffesiynol gyda'r modd i ddanogos y gallu i astudio ar Lefel 7.
- Statws myfyriwr aeddfed.
- Mae trosglwyddo credydau ac achredu dysgu blaenorol (uchafswm 40 credyd ar Lefel 7) yn bosib. Os ydych am drosglwyddo credydau am y modiwl dulliau ymchwil trwy ddysgu, yna dylai bod hyn wedi ei gwblhau o fewn y 5 mlynedd diwethaf.聽
Gyrfaoedd
Datblygwyd y cwrs MSc hwn mewn cydweithrediad 芒 sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU ac mae'n cynnwys cymwyseddau a aseswyd yn yr amgylchedd clinigol. Cynlluniwyd y cwrs ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dymuno astudio ar lefel uwch i gynyddu eu gwybodaeth, sgiliau a'u priodoleddau fel y gallant gyfrannu at heriau iechyd a gofal cymdeithasol yr oes sydd ohoni.