Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Ar ôl cwblhau'r TAR yn llwyddiannus, bydd AC Cerddoriaeth yn deall cysyniadau a deinameg addysgu a dysgu Cerddoriaeth, a bydd ganddynt ddealltwriaeth glir o'r ffordd mae Cerddoriaeth yn hanfodol wrth ddatblygu dysgwyr creadigol sy'n gallu mynegi syniadau trwy gyfryngau gwahanol.Ìý
Bwriad y rhaglen TARÌýUwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.Ìý Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.Ìý
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cyfunwch y pwnc hwn gyda Gweithgareddau Awyr Agored
Mae Bangor yn lle gwych ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithgareddau awyr agored. Mae ein lleoliad, ynghyd â’n cysylltiadau â darparwyr addysg awyr agored, yn rhoi cyfle arbennig i gyfuno’r pwnc hwn gyda chwaraeon awyr agored yn ystod eich hyfforddiant. Os yw hyn o ddiddordeb i chi, yna gwnewch gais am: TAR Uwchradd - Cerddoriaeth (Cyfrwng Cymraeg) 3F5W.
Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn deall sut i hyrwyddo perthnasedd cyfoes y pwnc yn y gymdeithas heddiw a:
- defnyddio cyfuniad o gerddoriaeth gyfoes a thraddodiadol a theori i gyflwyno cysyniadau, prosesau a syniadau allweddol;
- gwerthfawrogi natur ymarferol a damcaniaethol Cerddoriaeth;
- creu cymuned gerddorol yn yr ysgol, gan alluogi perfformiadau cyhoeddus a mynediad i bob dysgwr;
- defnyddio technoleg i wella dysgu;
- datblygu sgiliau perfformio, cyfansoddi, gwrando a gwerthuso mewn dysgwyr;
- galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau mewn cymhwysedd digidol, llythrennedd a rhifedd yng nghyd-destun Cerddoriaeth.
Bydd AC yn sicrhau bod dysgu'r pwnc yn gadarn, wedi'i seilio ar theori addysgol rymus ac yn cydymffurfio âÌý chysyniadau pwnc-benodol allweddol a dderbynnir ar hyn o bryd, gan gyfeirio at y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 a CBAC ar gyfer TGAU a Safon Uwch.Ìý Bydd AC hefyd yn deall yn glir le Cerddoriaeth o fewn pynciau eraill yn y Celfyddydau Mynegiannol a rhyngddynt.Ìý Caiff datblygiadau cyfredol mewn addysgu a dysgu Cerddoriaeth eu gwerthuso'n feirniadol gan ddod yn rhan annatod o ymarfer AC a'u gallu i ddatblygu'r hyn y bydd disgyblion yn ei ddysgu.
Ariannu
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Gallai graddedigion sydd â graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at £20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadureg
- Ieithoedd Tramor Modern
Gweler hefyd:
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig â pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.Ìý
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. ÌýÌý
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.Ìý Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio ôl-radd safonol Prifysgol Bangor.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.Ìý Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.Ìý Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.Ìý O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.Ìý Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.
Cysylltiadau â diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd â rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad â hwy.