Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'n amser gwych i astudio polisi cymdeithasol. Mae'r byd yn newid yn gyflym trwy ddatblygiadau gwleidyddol, economaidd a thechnolegol sy'n effeithio ar fywydau pawb. Byddwn yn archwilio rhai o faterion, cysyniadau a dadleuon allweddol yr oes, megis tlodi ac anghydraddoldeb; lles ac ansicrwydd cymdeithasol; argyfyngau economaidd a democratiaeth; rôl y wladwriaeth; awtomeiddio; gwaith a hamdden; ac ymfudo, llywodraethu a sefydliadau byd-eang. Byddwn yn cymharu polisïau a dulliau gweithredu o fewn cymdeithasau a rhyngddynt.
Byddwch yn dilyn modiwlau craidd sy'n ymchwilio i ddamcaniaethau cymdeithasol, materion, a dulliau ymchwil sy'n berthnasol i bolisi cymdeithasol a chymdeithaseg. Byddwn yn tynnu sylw at elfennau moesegol polisi cymdeithasol ac yn darparu hyfforddiant ymchwil arbenigol. Yn y traethawd hir byddwch yn canolbwyntio ar broject ymchwil parhaus a fydd yn dilyn eich diddordeb personol o dan oruchwyliaeth arbenigol.
Cymwysterau
MA mewn Polisi Cymdeithasol; Diploma Ôl-radd mewn Polisi Cymdeithasol; Tystysgrif Ôl-radd yn y Gwyddorau Cymdeithas Uwch.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae rhai modiwlau y gallwch ddisgwyl* eu hastudio ar y cwrs hwn yn cynnwys;
Materion Allweddol mewn Polisi Cymdeithasol: Mae'r modiwl yn ehangu ac yn dyfnhau gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol polisi cymdeithasol cyfoes. Gwneir cysylltiadau rhwng dadansoddiadau damcaniaethol mewn lles ac ymholiadau empirig mewn polisi cymdeithasol, a byddwn yn archwilio materion, dadleuon a chysyniadau allweddol sy’n ymwneud â dadansoddi a gwerthuso polisi cymdeithasol. Caiff rôl y wladwriaeth mewn ffurfiau cyfoes ar les ei gwerthuso'n feirniadol. Bydd dadleuon craidd ynglŷn â newid cymdeithasol, cydraddoldeb ac anghydraddoldebau, gwahaniaethu, risg a dibyniaeth, preifateiddio, dinasyddiaeth, a hawliau. Caiff effaith datganoli a newid yn llywodraeth leol ar bolisi cymdeithasol yng Nghymru eu hadolygu ynghyd â chymariaethau cenedlaethol a rhyngwladol o systemau lles.
Proses ac Ystyr yr Ymchwil: Mae'r modiwl yn darparu hyfforddiant ar lefel gradd mewn dulliau ymchwil ansoddol a hyfforddiant uwch mewn dadansoddi data ansoddol. Bydd y modiwl yn cynnwys dysgu’r myfyrwyr ynglŷn â phrif ddulliau ymchwil ansoddol-meintiol gymysg yn ogystal â rhoi cyfleoedd i’r myfyrwyr wneud darnau bach, wedi'u hasesu, o waith maes a dadansoddi data. Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar eu gallu i gwblhau tasgau ymchwil penodedig ac ar eu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng theori, cynllun a dulliau ymchwil.
Polisïau Iechyd: Mae'r modiwl yn arfer dulliau cymharol o astudio polisïau iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Bydd y myfyrwyr yn ystyried gwleidyddiaeth iechyd ac yn datblygu dealltwriaeth o ddeinameg pŵer rhwng gweithwyr proffesiynol, gweinyddwyr a chleifion. Caiff y rôl sydd i ddadansoddi polisi cymdeithasol o ran gwerthuso effaith newid, ffactorau sy'n gysylltiedig ag arferion da a drwg, a rhwystrau i weithredu polisïau iechyd newydd eu harchwilio trwy enghreifftiau ac astudiaethau achos. Caiff achos Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prydain ei ystyried yn fanwl trwy archwilio tystiolaeth o ymdrechion i wella ansawdd gofal gyda chyllid a newid sefydliadol. Bydd y modiwl hefyd yn archwilio goblygiadau datganoli i'r Gwasanaeth Iechyd yn y Deyrnas Unedig yn ogystal â pholisïau marchnata a phreifateiddio sy'n seiliedig ar y syniadau o ddewis a'r dinasyddion megis defnyddwyr.
Y Traethawd Hir: Mae’r modiwl yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud ymchwil unigol sydd ar raddfa fach, ond sy’n arwyddocaol, o dan oruchwyliaeth goruchwylydd ymchwil. Mae’r myfyrwyr yn nodi cwestiwn ymchwil, yn casglu ac yn dadansoddi data sy’n ymwneud â’r cwestiwn ymchwil, gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol. Yna maent yn ymdrin â’r cwestiwn ymchwil yng ngoleuni eu canfyddiadau. Cyflwynir yr ymchwil ar ffurf traethawd hir heb fod yn fwy nag 20,000 o eiriau.
Tiwtorialau goruchwylio un-i-un, yn ôl datblygiad y myfyriwr unigol, gan gynnwys cyfarwyddyd ynglŷn â nodi a chynllunio pwnc ymchwil priodol, ymchwilio a defnyddio cysyniadau damcaniaethol perthnasol, cynllunio a gwneud gwaith maes a chasglu data (lle bo’n berthnasol) a chyflwyno’r canlyniadau mewn modd cydlynol ac ar y fformat priodol. Mae gweithdai paratoi ac mae’r myfyrwyr yn cyflwyno eu cynigion i’w cyd-fyfyrwyr a’r staff ar ddiwrnod cyflwyno.
Damcaniaethu ynghylch Cymdeithas a Gwleidyddiaeth: Mae’r modiwl yn archwilio gwreiddiau, natur ac arwyddocâd damcaniaethau a chysyniadau cymdeithasol a gwleidyddol a ddatblygwyd yn yr 20fed ganrif. Mae’n archwilio cryfderau a gwendidau dulliau gweithredu fel Theori Feirniadol (megis Adorno, Horkheimer, Marcuse), ôl-strwythuraeth (megis Foucault, Bauman, Lyotard), a theori ‘safbwynt’ a ‘rhyngblethedd’ ffeminyddol (Yuval-Davis, Hill Collins). Mae'n ystyried amryw o theorïau sy'n ceisio mynd i'r afael â gwybodaeth, pŵer, ac israddoldeb o ran rhaniadau rhyw a gwahaniaethau dosbarth, hil a/neu rywioldeb. Mae’r modiwl yn ceisio gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng theori gymdeithasol a gwleidyddol, gweithredu cymdeithasol, symudiadau, moderniaeth, cyfalafiaeth, newid cymdeithasol, ymchwil, a bywyd beunyddiol. Nod y modiwl yw annog y myfyrwyr i adfyfyrio ar eu sefyllfa hwythau fel cyfranogwyr mewn rhyngweithiadau cymdeithasol a gwleidyddol.
Cyfiawnder Troseddol Cymharol a Rhyngwladol: Mae Cyfiawnder Troseddol Cymharol a Rhyngwladol yn cynnig adfyfyrdod beirniadol ynghylch yr arfer o astudio asiantaethau a sefydliadau cyfiawnder troseddol yn gymharol. O ddadansoddi ymchwil cenedlaethol, cymharol a rhyngwladol ar yr heddlu, y llysoedd troseddol a’r gyfundrefn gosbi, caiff y myfyrwyr eu hysbysu am y materion niferus sy’n dylanwadu ar ymarfer a phrofiad cyfiawnder troseddol ac, yn ei dro, ymchwil i gyfiawnder troseddol, gan gynnwys y dull, y lleoliad, gwleidyddiaeth a moeseg, yn ogystal â'r cysylltiadau a'r rhyngweithiadau rhwng yr ymchwilydd a'r rhai y bu’n ymchwilio iddynt. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried rhai materion cyffredinol sy’n ymwneud â dioddefwyr 'cyffredin' troseddau mewn systemau cyfiawnder troseddol cenedlaethol a rhyngwladol.
Troseddau Trawswladol: Bydd y modiwl yn anelu at gynnig archwiliad o nifer o agweddau ar droseddau trawswladol a throseddolrwydd. I ddechrau, bydd trafodaeth ynglŷn â therfysgaeth, troseddau gwladol a throseddau trefnedig cyn mynd ymlaen i edrych ar wahanol fathau o weithgarwch troseddol trawswladol. Bydd hynny’n cynnwys cwestiynau ynghylch trosedd a gwyredd, theori droseddegol, a gweithrediad systemau cyfiawnder troseddol. Mae pob un o'r pryderon sylfaenol hynny’n amrywio ymhlith rhanbarthau amrywiol ledled y byd ac o ran gwahanol fathau o droseddau. Bydd y modiwl yn trafod amrywiol fethodolegau a ddefnyddir i astudio troseddau trawswladol a byd-eang.
*Sylwer: mae cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid o flwyddyn i flwyddyn. Cysylltwch â ni am y wybodaeth ddiweddaraf.
Gofynion Mynediad
Fel rheol 2.i mewn Polisi Cymdeithasol neu ddisgyblaeth academaidd gysylltiedig. Gellir derbyn myfyrwyr sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol hefyd. Bydd yn rhaid i bob ymgeisydd yn y categori hwn ddarparu tystiolaeth gadarn yn eu cais a gellir eu cyfweld cyn gwneud cynnig iddynt.
Fel rheol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.