Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw cyflwyno gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o faes academaidd penodol o hanes Cymru i chi trwy hyfforddiant ymchwil trylwyr. Bydd ein rhaglen yn rhoi gwybodaeth i chi am faterion damcaniaethol hanesyddol perthnasol a dulliau o ddehongli a defnyddio tystiolaeth. Mae hefyd yn rhoi'r sgiliau ymchwil angenrheidiol i chi gynhyrchu darn gwreiddiol o ymchwil hanesyddol mewn maes astudio o'ch dewis.
Hyd y Cwrs
MA: Blwyddyn yn llawn-amser, 2 flynedd yn rhan-amser; Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Rhoddir MA ar 么l cwblhau鈥檙 180 credyd i gyd yn llwyddiannus. Dyfernir Diploma ar 么l cwblhau鈥檙 120 credyd cyntaf yn llwyddiannus.
听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Hanes Cymru.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig dda; bydd o leiaf 2.ii yn ofynnol fel arfer. Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sg么r IELTS o 6.0 yn gyffredinol (heb i unrhyw elfen fod yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd MA mewn Hanes Cymru yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o ddisgyblaeth Hanes Cymru a'r gallu i wneud gwaith ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad hanesyddol. Bydd yn gwella'ch cyfleoedd gyrfa yn niwydiannau'r cyfryngau a chyfathrebu, addysgu, cyhoeddi ac ymchwil.
Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori ac ati. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Hanes Cymru'n llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn hanes, trwy wneud cais am le i astudio am PhD mewn Hanes Cymru.