Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys 3 modiwl:
- Gofal Critigol Sylfaenol (20 credyd)
- Gofal Critigol Uwch (20 credyd)
- Modiwl Dysgu Seiliedig ar Waith (20 credyd)
Pwrpas y rhaglen ran-amser hon yw hwyluso ac arwain y myfyrwyr yn effeithiol ac yn ddiogel wrth ofalu am unigolion sydd ag anghenion gofal critigol. Canolbwyntir ar ddarparu gofal mewn ffordd holistig a bydd yn adeiladu ar wybodaeth a sgiliau presennol er mwyn sefydlu ymarferwyr gwybodus sy'n ymwneud 芒 gofalu am gleifion sy'n ddifrifol wael. Mae modiwl un wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw ymarferydd sy'n gweithio mewn maes ac铆wt, ac mae modiwl dau ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio'n benodol mewn amgylcheddau gofal critigol.
Gofynion Mynediad
Wedi cofrestru gyda'r NMC / HCPC a chyflogaeth mewn maes ymarfer ac铆wt.
Gofynnir am IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen dan 5.5).
Gwneir derbyniadau trwy system ar-lein Prifysgol Bangor.
Myfyrwyr Rhyngwladol: Gan fod y llwybr hwn yn un rhan amser ac yn gofyn bod ymgeiswyr wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a chyda mynediad i amgylchedd gofal dwys/ac铆wt, nid yw'r llwybr hwn yn addas i'r farchnad ryngwladol.