Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Noder os gwelwch yn dda: bydd y cwrs hwn yn cychwyn yn Ionawr 2022.
Cwrs cyfrwng Saesneg yw hwn / Please note that this is course is taught through the medium of English.
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael fel MSc. Mae'r traethawd hir ar gyfer yr MSc yn ychwanegol i'r 2 flynedd sy'n cael ei gyllido.
Prif nôd y rhaglen hon yw cynhyrchu graddedigion sy'n addas ar gyfer ymarfer ac yn gymwys i wneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) ac i aelodi gyda'r corffÌýproffesiynol, addysgol ac undeb llafur, y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi (CSP).
Mae'r rhaglen yn cynnig profiad addysgol heriol a buddiol sy'n galluogi'r myfyriwr i ddatblygu fel ymarferydd ffisiotherapi cymwys, sy'n gosod y claf wrth ganol y gofal, ac sy'n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gweithle. Bydd y rhaglen yn datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o theori ffisiotherapi ac ymarfer ymarferol, a bydd wedi'i wreiddio yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd gyda'i hanes o ragoriaeth mewn ymchwil. Bydd hyn yn sicrhau bod y myfyriwr yn datblygu gwerthfawrogiad o ymarfer arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth mewn amrywiaeth o swyddogaethau ffisiotherapi yn cynnwys ym maes gofal iechyd gwledig.
Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r Diploma Ôl-radd mewn Ffisiotherapi yn llwyddiannus yn gallu datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau trwy gwblhau'r traethawd hir, sef cam olaf y radd Meistr a bydd yn rhoi cyfle i'r myfyriwr ddangos y sgiliau a'r wybodaeth i drefnu a chynnal project ymchwil neu adolygiad systematig. Bydd dull addysgol arloesol y rhaglen yn datblygu ffisiotherapyddion creadigol, medrus a fydd yn gallu dilyn gyrfa mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal.
Ffioedd Dysgu wedi eu talu
Os ydych chi'n cael eich ystyried yn fyfyriwr sy’n perthyn i’r DU ar gyfer ffioedd dysgu ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, fe allech chi gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu yn llawn trwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru a hawlio am gyfraniad bwrsariaeth o £ 1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth prawf modd sy'n ddibynnol ar incwm cartref a chyllid arall sydd â meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynyddion a lwfans rhieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid cynnal a chadw ar sail incwm a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.
Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, bydd myfyrwyr yn cytuno i ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio.
Nid ydym yn derbyn myfyrwyr sy'n ariannu eu hunain ac ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar einÌýtudalen ariannu'r GIG.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
Edrychwch ar y dudalenÌýhonÌýi weld rhesymau am astudio ar gyfer gradd ôl-radd yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Amcan y cwrsÌýbydd i ddatblygu ffisiotherapyddion ôl-raddedig annibynnol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau proffesiynol priodol, fydd â swyddogaeth hanfodol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a sefydliadau eraill, yn lleol ac yn y Deyrnas Unedig.
Amcanion y rhaglen
- Paratoi myfyrwyr i allu cyflawni'r holl safonau hyfedredd sy'n ofynnol gan ffisiotherapydd i wneud cais i gofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn deall pwysigrwydd gallu ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol o fewn amrediad ymarfer ffisiotherapydd.
- Paratoi myfyrwyr i ymarfer mewn modd sydd ddim yn gwahaniaethu.
Mae canlyniadau dysgu'r rhaglen yn meithrin datblygiad myfyrwyr i fod yn Ffisiotherapyddion cymwys, adfyfyriol sy'n gallu:
- Cyflwyno Ffisiotherapi mewn modd cyfannol, gan weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth.
- Mabwysiadu dull datrys problemau mewn perthynas ag anghenion defnyddwyr gwasanaeth.
- Defnyddio fframweithiau damcaniaethol Ffisiotherapi i arwain a bod yn sail wybodaeth i'r ymarfer.
- Deall a defnyddio egwyddorion gwerthuso ac ymchwil i sicrhau ymarfer gorau.
- Addasu ac ymateb i batrymau darparu gwasanaeth cyfredol ac yn y dyfodol.
- Parhau i hunanddatblygu trwy gydol eu bywyd proffesiynol.
- Gweithio fel gweithwyr proffesiynol annibynnol o fewn cyd-destun rhyngddisgyblaethol.
- Cyfrannu at ddatblygu, gwella a hyrwyddo'r proffesiwn.
Deilliannau arfaethedig y rhaglen
Mae'r rhaglen yn tynnu ar bolisi cyfoes perthnasol ac ymchwil academaidd, a gymhwysir i'r DU ac yn rhyngwladol. Mae canlyniadau'r rhaglen yn ddatganiad o'r hyn y dylai graddedigion ei wybod a gallu ei wneud ar ôl cwblhau'r rhaglen.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb byr o brif nodweddion y rhaglen a’r deilliannau dysgu y gellir disgwyl yn rhesymol i fyfyrwyr eu cyflawni a’u dangos os ydynt yn manteisio ar y cyfleoedd dysgu a gynigir.
Mae'r Rhaglen yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu:
- gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol;
- sgiliau gwybyddol a'r sgiliau trosglwyddadwy allweddol canlynol:
- cyfathrebu
- astudio
- rhyngbersonol
- sgiliau proffesiynol
- technoleg gwybodaeth
- sgiliau datrys problemau
Yn gyffredinol, mae'r canlyniadau a fwriedir yn cael eu hasesu'n grynodol trwy aseiniadau, ar ffurf traethodau, arholiadau, adroddiadau, cynnig ymchwil, a chyflwyniadau unigol a grŵp. Mae gan y modiwlau unigol raddau amrywiol o asesu ffurfiannol.
Mae'r egwyddor sylfaenol o ddysgu oedolion wedi dylanwadu ar y dewis o ddulliau addysgu a ddefnyddir ar y cwrs, sy'n fwyaf effeithiol os yw'n gysylltiedig â phrofiadau presennol y myfyrwyr ac yn mynnu eu bod yn cymryd rhan yn y broses ddysgu.
Mae profiadau bywyd myfyrwyr yn darparu adnodd buddiol a gwerthfawr ar gyfer dysgu; bydd y dulliau a ddefnyddir yn ceisio manteisio ar yr adnodd cyfoethog hwn ac annog y dysgwyr i gymryd rhan. Cynlluniwyd y rhaglen gan ddefnyddio cwricwlwm sbiral sy'n fodel atgyfnerthu'r addysg gan gynyddu dyfnder dysgu'r myfyriwr wrth iddynt fynd trwy'r cwricwlwm. Disgwylir i fyfyrwyr chwarae rhan weithredol a chyfranogol yn eu dysgu eu hunain, ac ystyrir bod darlithwyr yn hwyluso'r dysgu yn rhan allweddol iawn o'r llwyddiant.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ffisiotherapi.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae'r holl ofynion mynediadÌýyn gyfartal a dylid eu bod wedi eu cyflawni cyn eich bod yn gwneud cais am y cwrs. Dylid sicrhau eich bod yn cynnwys pob un o'r gofynion mynediad yn eich datganiad personol.Ìý
- Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o oblygiadau derbyn lle wedi ei gyllido yng Nghymru.
- Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth glir ac eang o Ffisiotherapi, gydag adfyfyrdod ar brofiad gwaith diweddar mewn Ffisiotherapi neu amgylcheddau gofal iechyd cysylltiedig.
- I wneud cais am y Diploma Ôl-radd mewn Ffisiotherapi, rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cael gradd 2.2 o leiaf (neu’r hyn sy’n cyfateb dramor) mewn maes astudio isradd perthnasol. I weld os yw eich astudiaethau blaenorol yn berthnasol, rydym yn eich cynghori i edrych ar y modiwlau o fewn y rhaglen rydych wedi ei chwblhau ac egluro ar eich ffurflen gais pam eu bod yn eich paratoi ar gyfer astudio'r rhaglen hon.
- Bydd graddau uwch (neu’r hyn sy’n cyfateb dramor) yn cael eu hystyried.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod wedi graddio o'r astudiaeth hon yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf.
- I’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf, yr isafswm gofynnol o ran yr iaith Saesneg yw: IELTS 7.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob cydran (neu gyfwerth).Ìý
- Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar sail unigol.
Noder: Nid yw'r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr rhynglwadol.
Mae’r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol (DBS).
Ìý
Gyrfaoedd
Mae gyrfa mewn ffisiotherapi yn broffesiwn deniadol sy'n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith hyblyg ar ôl graddio. Ìý
Mae ffisiotherapyddion yn gweithio mewn amrywiaeth o arbenigeddau ar draws y proffesiwn; yn amrywio o roi triniaeth fel ymarferydd gweithredol neu fod yn rhan o addysg, ymchwil neu reoli. Ar ôl cofrestru gyda'r HCPC, mae gan ffisiotherapyddion yr opsiwn o weithio yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol y DU (GIG), neu ddilyn gyrfa mewn amgylcheddau gofal iechyd eraill fel practis preifat, chwaraeon neu'r fyddin er enghraifft.
Cysylltiadau â Diwydiant
Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau cryf â'r awdurdodau gofal iechyd lleol yng Ngogledd Cymru a bydd y rhain yn cynyddu wrth i'r rhaglen hon ddatblygu.ÌýMae cyfleoedd yn bodoli felly i fyfyrwyr sy'n graddio elwa o hyn; yn ychwanegol at y nifer o feysydd eraill lle mae galw am ffisiotherapyddion megis mewn practis preifat, chwaraeon a lleoliadau milwrol.
Gwneud Cais
Sicrhewch eich bod yn ystyried yr hollÌýofynion mynediadÌýa'ch bod yn eu cynnwys yn eich datganiad personol. Sylwer nad yw'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
Rydym yn eich annog i wneud ceisiadau cynnar i gael mynediad i'r rhaglen. Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddioÌýsystem ar-lein Prifysgol Bangor ond mae croeso i chi wneud ymholiadau anffurfiol.Ìý
Sylwer os gwelwch yn dda bod lle i nifer cyfyngedig ar y cwrs hwn.
Pryd i wneud cais?Ìý
Mae gennym un rhaglen Ffisiotherapi y flwyddyn ar hyn o bryd. Cynhelir y rhaglen rhwng mis Ionawr a Rhagfyr.Ìý
Rydym yn derbyn ceisiadau trwy'r flwyddyn, ond byddwn yn eich cynghori i anfon eich cais yn gynnar gan fod lle i nifer cyfyngedig ar y cwrs hwn.ÌýBydd hyn hefyd yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os bydd angen. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o amser i chi gwrdd ag unrhyw amodau y byddem yn ei osod ar eich cynnig i gael eich derbyn i astudio’r cwrs.
Ein proses ddethol ar gyfer y cwrs
Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiad dethol.Ìý
Bydd tri gweithgaredd yn y digwyddiad dethol:
- Tasg ysgrifenedig, a gyflwynir o flaen llaw.
- Gweithgaredd grŵp.
- Cyfweliad personol.
Wedi'r digwyddiad dethol, os rydych wedi bod yn llwyddiannus byddwch yn cael cynnig lle ar y cwrs. Bydd angen ymateb i'r cynnig o fewn amser penodol (bydd yr amser penodol yn cael ei roi i chi gyda'r cynnig). Os na fyddwch yn ymateb o fewn yr amser penodol, bydd eich cynnig am le ar y cwrs yn annilys ac yn cael ei gynnig i ymgeisydd arall.Ìý
Angen cymorth i wneud cais?
Os oes gennych unrhyw ymholiad ychwanegol am y rhaglen yna cysylltwch â chyfarwyddwr y rhaglen,ÌýJonathan Flynn neuÌýpostgraduate@bangor.ac.uk