Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Beth yw Dylunio Arloesi Cymhwysol? Mae'r byd yn newid, gallwch naill ai ganiat谩u i newid ddigwydd i chi neu gallwch fod yn rhan allweddol o'r newid. Bydd y cwrs Dylunio Arloesi Cymhwysol yn eich paratoi i gymryd swyddogaeth arweiniol/weithredol wrth alluogi newid ym mha bynnag faes a ddewiswch, trwy ddefnyddio theori ac arferion masnachol cyfredol ar sail profiad. Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i lywio, rhwyfo a siglo'r cwch mewn perthynas 芒 gweithgareddau arloesi cymhwysol.
Mae'r cwrs yn cynnwys dau semester yn astudio, sy'n cynnwys projectau dylunio; astudiaeth academaidd; a'r opsiwn i fynd ar leoliad diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ymchwil, gan arwain at broject ymchwil terfynol, annibynnol. Gall y project ymchwil terfynol ddilyn tri llwybr, gyda ffocws ar gyflwyno rhywbeth masnachol, entrepreneuriaeth neu wasanaeth ymgynghori masnachol, yn seiliedig ar ddyheadau gyrfa a maes diddordeb unigolyn.
Hyd y Cwrs聽
Blwyddyn fel myfyriwr llawn amser; hefyd ar gael yn rhan-amser dros 2 flynedd.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dylunio Arloesol Cymhwysol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Yn ddelfrydol, dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uchel mewn pwnc cysylltiedig fel Dylunio, Seicoleg neu Fusnes, neu gymwysterau/profiad cyfatebol. Dylai fod gan ymgeiswyr hefyd dystiolaeth o gefndir neu ddiddordeb mewn dylunio, neu weithgaredd sy'n gysylltiedig 芒 dylunio.
Ar gyfer ymgeiswyr Rhyngwladol IELTS: 6.5
Gyrfaoedd
Bwriad y Meistr mewn Dylunio Arloesi Cymhwysol yw gwella eich rhagolygon a'ch cyfleoedd gyrfa, gan gynnig yr hyblygrwydd i addasu'r cwrs i'r maes neu ddiwydiant sydd o ddiddordeb i chi, trwy ddewis projectau a chanolbwyntio ar aseiniadau. Gall myfyrwyr ddewis astudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, a all gynnwys astudio ochr yn ochr 芒 chyflogaeth mewn swydd gysylltiedig. Bydd graddedigion y cwrs yn gallu arwain ar arloesi a newid dylunio, mewn cyd-destunau masnachol; cael swyddi fel ymarferwyr dylunio, yn ogystal 芒 lansio mentrau entrepreneuraidd.