Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cynllun MA Cymraeg: Iaith a Llenyddiaeth yn gyfle cyffrous ichi archwilio amrywiol agweddau ar yr iaith a’i llenyddiaeth - o farddoniaeth arwrol y Cynfeirdd hyd at ffuglen gyfoes Caryl Lewis, o lenyddiaeth Gymraeg America i ddramâu heriol Aled Jones Williams, ac o ryddiaith Morgan Llwyd yn y Cyfnod Modern Cynnar i nofelau Manon Steffan Ros yng Nghymru’r presennol.
Ìý
O fewn fframwaith hyblyg y cynllun, gallwn deilwra’r cynnwys i gyd-fynd â’ch diddordebau penodol a chewch eich cyfarwyddo gan arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd academaidd.
Ìý
Drwy gyfres o draethodau byrion cewch gyfle i ymestyn eich diddordebau – cyfanswm o 120 credyd - ac yna mewn traethawd hir 20,000 o eiriau sy’n gyfwerth â 60 credyd i fynd i’r afael â phwnc arbennig sy’n gwir danio eich chwilfrydedd deallusol.
Ìý
Yn gefn i’ch cwrs bydd holl ddarpariaeth Llyfrgell Shankland ar gael ichi, sef casgliad cyfoethog o ddeunyddiau’n ymwneud â Chymru a’r Gymraeg, yn ogystal ag adnoddau gwych Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.
Ìý
Gallwch ddilyn y cwrs yn llawn-amser dros gyfnod o flwyddyn neu’n rhan-amser dros ddwy flynedd. At hynny, mae’r cynllun yn addas ar gyfer ymgeiswyr a chanddynt radd anrhydedd dda mewn Cymraeg neu mewn pwnc cyfatebol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Rydych chi'n astudio ar gyfer MA yn ôl y dull traddodiadol o draethodau a thraethawd hir. Mae'r rhan gyntaf yn cynnwys tri thraethawd cwrs (3 x 4,000-6,000 o eiriau) a ddylai ddangos gafael gadarn ar nodweddion bras y maes astudio o'ch dewis; yr ail ran yw'r traethawd hir (20,000 gair) sy'n cynnwys ymchwil gwreiddiol a hwnnw wedi'i seilio'n rhannol ar ddeunydd cynradd. Yn ystod Semester 1 byddwch hefyd yn dilyn cwrs cynefino ar fethodoleg ymchwil maes y Gymraeg.
Cryfder mawr ein cwrs MA yw ei hyblygrwydd a'r ffaith ei fod yn caniatáu dewis rhydd o bynciau o fewn ffiniau eang y ddisgyblaeth. Os mai llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd yw eich diddordeb pennaf - y Gododdin, y Mabinogion, neu Ddafydd ap Gwilym, er enghraifft - caiff eich cwrs ei gynllunio a'i deilwra'n unol â hynny a bydd gennych oruchwylydd cwrs pwrpasol, a fydd yn arbenigwr yn eich dewis faes astudio. Ar y llaw arall, os ydych am astudio llenyddiaeth a diwylliant modern Cymru, neu agweddau sy'n ymwneud â'r iaith ei hun, gallwn ddarparu ar gyfer eich diddordebau academaidd. Mae croeso brwd i fyfyrwyr sy’n dymuno cychwyn ar gwrs MA Cymraeg strwythuredig a allai fod yn gymharol ei natur, gan gysylltu astudio Cymraeg â meysydd fel llenyddiaeth Saesneg, astudiaethau canoloesol, ieithoedd Ewropeaidd, adfywio iaith, astudiaethau Arthuraidd, hanes, crefydd, athroniaeth, astudiaethau rhywedd, theori wleidyddol a chenedlaetholdeb.
Modiwlau’r Cwrs:
- Astudio Unigol I
- Astudio Unigol II
- Astudio Unigol III
- Traethawd Hir
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol (e.e. Iaith/Llenyddiaeth Gymraeg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Hanes). Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg a myfyrwyr sy'n ceisio caffael - mewn cyd-destun academaidd cadarn - dealltwriaeth well o'r iaith, ei llenyddiaeth a diwylliant Cymru'n gyffredinol.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus nad yw Cymraeg yn iaith gyntaf iddynt gyfle i ddilyn gwersi Cymraeg.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yn achos myfyrwyr nad Cymraeg/Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sgôr IELTS o 6.0 o leiaf (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Mae’r MA Cymraeg: Iaith a Llenyddiaeth yn gymhwyster safonol yn ei hawl ei hun yn ogystal â bod yn baratoad ardderchog ar gyfer ymchwil bellach ar ffurf astudiaeth PhD. Drwy ychwanegu at eich gwybodaeth a datblygu eich sgiliau, cryfheir eich cyfleoedd cyflogaeth a’ch cymhwyso ar gyfer swyddi mewn ystod eang o feysydd, e.e. ymchwilwyr, addysgwyr, newyddiadurwyr, cyfieithwyr, swyddogion iaith a gweithwyr llywodraeth leol.