Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r byd yn newid, ac rydym mewn ras yn erbyn amser i warchod yr hyn sy'n weddill o fywyd gwyllt y byd. Wrth i argyfyngau hinsawdd a natur ein harwain yn ddyfnach i argyfwng dirfodol, mae ein rhywogaeth ein hunain yn wynebu heriau a chyfleoedd. Bydd ein MSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn eich helpu i ddatblygu dulliau a gwybodaeth i ddylunio a gweithredu projectau cadwraeth effeithiol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn hanfodol gyfiawn. Mae angen y sgiliau hyn yn fwy nag erioed gan ddiwydiant, llywodraeth a chymdeithas. Mae'r rhaglen yn cymathu amrywiaeth eang o bynciau i archwilio'r ysgogwyr pwysicaf o ran colli bioamrywiaeth, gan gynnwys defnyddio adnoddau naturiol, newid defnydd tir, gor-ddefnydd, rhywogaethau ymledol, newid yn yr hinsawdd, a llygredd.
Byddwch yn archwilio sut y gellir cyfuno technoleg, ymchwil, newid ymddygiad, polisïau economaidd, rheoliadau’r llywodraeth, a dull gwyddonol cadarn yn ddull unedig o fynd i’r afael â bygythiadau mwyaf y byd i fywyd gwyllt. Mae gan Brifysgol Bangor ffocws cryf ar ymchwil cadwraeth ac rydym gyda chysylltiadau agos â sefydliadau lleol, cenedlaethol, a rhyngwladol sy'n cyflogi gwyddonwyr amgylcheddol ac yn sicrhau bod y radd MSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn berthnasol ac yn gyfredol. Mae Bangor yn sicr yn un o’r prifysgolion sydd mewn lleoliad delfrydol i chi astudio cadwraeth bywyd gwyllt – gyda mynediad i ddewis helaeth o amgylcheddau naturiol yn amrywio o’r arfordir i dirwedd amrywiol Parc Cenedlaethol Eryri.Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs hwn nid yn unig yn ymdrin â bioleg bywyd gwyllt, gan roi dealltwriaeth i chi o organebau, eu bioleg a'u hymddygiad, strwythur cymunedau ecolegol, a chanlyniadau darnio cynefinoedd, ond hefyd sut mae deall pobl, cymdeithasau, a'n perthynas â natur yn hanfodol i fynd i'r afael â phroblemau cadwraeth. Yn hollbwysig, bydd y cwrs yn eich helpu i ddeall sut mae gwyddor cadwraeth, polisi ac ymarfer yn ymdrech wirioneddol ryngddisgyblaethol sy'n cynnwys damcaniaethau a dulliau o'r gwyddorau naturiol, cymdeithasol a chymhwysol. Byddwch yn dysgu pam fod angen i gymdeithas warchod bioamrywiaeth, beirniadu gwahanol ddulliau gweithredu, a sut i fesur effeithiolrwydd cadwraeth. Bydd y cyfuniad unigryw hwn o bynciau, ynghyd â llawer o sesiynau ymarferol a theithiau maes, yn rhoi profiad addysgol i chi a fydd yn hynod ddiddorol ac yn rhoi boddhad i chi. Mae teithiau maes yn ganolog i’r radd hon, o fynyddoedd canolbarth Cymru i goedwigoedd glaw trofannol a phlanhigfeydd palmwydd olew Borneo.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cadwraeth Bywyd Gwyllt.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2:1 o leiaf mewn pwnc perthnasol (e.e. bioleg, sŵoleg, gwyddorau naturiol, astudiaethau’r amgylchedd, daearyddiaeth). Anogir ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n, sydd â phrofiad proffesiynol perthnasol mewn cadwraeth bywyd gwyllt.ÌýÌýCroesewir ceisiadau gan bobl â chefndiroedd eraill sy’n dymuno datblygu dealltwriaeth o broblemau cadwraeth bywyd gwyllt, a chânt eu hystyried fesul achos.
Gofynnir am IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen dan 5.5).
Ìý
Gyrfaoedd
Bydd graddedigion y cwrs hwn yn meddu ar sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr yn ogystal â gwybodaeth pwnc-benodol. Yn ystod y cwrs byddwch wedi rhoi cyflwyniadau wedi’u hasesu, wedi dylunio podlediadau, wedi cael eich cyfweld, wedi cyflwyno gwaith ysgrifenedig ar amrywiaeth o bynciau ac mewn fformatau gwahanol, wedi gweithio i gyrraedd targedau o fewn terfynau amser y cytunwyd arnynt ar eich pen eich hun ac fel rhan o dimau mwy, wedi chwilio am lenyddiaeth a gwybodaeth ar y we, wedi cynnal dadansoddiadau meintiol, a byddwch wedi gwneud gwaith ymarferol ac ymchwil sy'n berthnasol i'ch disgyblaeth.Ìý
Mae’r MSc Cadwraeth Bywyd Gwyllt yn cynnwys hyfforddiant mewn defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol, trin a dadansoddi data i ddeall patrymau a gwahaniaethau, ac amrywiaeth eang o sgiliau ymarferol yn y maes ac yn y labordy, o sesiynau ymarferol geneteg poblogaeth i arsylwi anifeiliaid gwyllt yn y maes. Mae ymweliadau maes a theithiau astudio yn rhoi cyfleoedd i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar reng flaen cadwraeth, a fydd yn caniatáu ichi gysylltu addysgu ystafell ddosbarth yn benodol ag ymarfer masnachol. Byddwch hefyd yn cael mynediad at arweiniad gyrfaoedd penodol gan Wasanaeth Cyflogadwyedd y Brifysgol.