Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi ei achredu'n llawn gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn graddio gyda chymhwyster deuol: MSc/MA Bancio a Chyllid a Dynodiad Proffesiynol Banciwr Siartredig, sef y safon aur i fancwyr proffesiynol, a’r cymhwyster uchaf ym maes bancio. Rydym yn falch o fod yn rhan o grŵp dethol o ysgolion busnes sy'n cynnig y cymhwyster deuol hwn.**
Yn y rhaglen radd hon bydd myfyrwyr yn cael hyfforddiant rheolaeth a busnes ar lefel uwch sy'n ymwneud â bancio a chyllid. Mae hyn yn ymwneud â deall materion bancio ymarferol yn ymwneud â chwmnïau bancio / ariannol yn cynnwys: rheolaeth ariannol a strategol banciau, datblygu'r sector bancio a'r sector ariannol, perfformiad banciau a chorfforaethau, technoleg ariannol, dadansoddi nodweddion systemau a marchnadoedd ariannol. Bydd hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r datblygiadau strategol, rheolaethol a thechnolegol diweddaraf yn y diwydiant gwasanaethau ariannol**.**
Bydd y rhaglen hon yn arfogi'r myfyrwyr i gael gwaith a datblygu eu gyrfaoedd yn y sector ariannol trwy ddatblygu a gwella amrywiaeth o sgiliau deallusol a sgiliau astudio trosglwyddadwy, ynghyd â gwella sgiliau dysgu gydol oes a datblygu personol er mwyn cyfrannu at gymdeithas.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?Ìý
- Mae'r cwrs hwn wedi ei achredu'n llawn gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig
- Byddwch yn graddio gyda dyfarniad deuol: MSc Bancio a Dynodiad Proffesiynol Banciwr Siartredig
- Rydym yn rhan o grŵp dethol o ysgolion busnes sy'n cynnig y cymhwyster deuol hwn.
Strwythur y Cwrs
Dechrau ym mis Ionawr: Ymgymerir â modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin ac o fis Medi i fis Ionawr a byddant yn cynnwys 120 credyd. Mae'r traethawd hir neu broject cyfatebol yn werth 60 credyd ac ymgymerir ag ef yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Dechrau ym mis Medi: Ymgymerir â modiwlau hyfforddedig yn y cyfnod rhwng mis Medi a mis Mehefin a byddant yn cynnwys 120 credyd. Mae'r traethawd hir neu broject cyfatebol yn werth 60 credyd ac ymgymerir â’r gwaith hwn yn ystod y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol:
- Research Methods: Mae'r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth am ddulliau ymchwil canolradd ac uwch, ac yn darparu sylfaen mewn methodoleg ymchwil i'r rheini sydd eisiau dilyn graddau ymchwil yn y pen draw.
- Credit and Lending:** Mae'r modiwl hwn yn ystyried credyd a benthyca o safbwynt cymhwysol a phroffesiynol. Mae'r modiwl yn rhoi sylw i nifer o bynciau a materion, yn cynnwys gwerthuso ceisiadau am fenthyciad yn feirniadol, nodi a chadw at gyfyngiadau cyfreithiol a deall sut mae arfer sgiliau rheoli risg, fel y mae'n ofynnol i fanciwr proffesiynol modern ei wneud.
- International Banking: Mae'r modiwl hwn yn edrych ar wreiddiau bancio rhyngwladol, gweithgarwch banciau rhyngwladol, y marchnadoedd y maent yn rhan ohonynt, a'r ffynonellau risg.
- Bank Financial Management: Mae'r modiwl hwn yn addysgu'r myfyrwyr am hanfodion natur, cyd-destun strategol a swyddogaethau rheolaethol rheolaeth ariannol mewn banciau, a chwmnïau eraill sy'n cynnig Ìýgwasanaethau ariannol.
- Financial Ethics & Regulation:** Mae'r modiwl hwn yn ystyried moeseg ariannol ac ymddygiad sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol o ran rheoleiddio busnes. Mae'n rhoi sylw i nifer o bryderon ynghylch ymarfer moesegol gwael yn y gwasanaethau ariannol, moeseg busnes a sut mae sicrhau arfer foesegol yn y maes ariannol.
- Financial Technology: Mae'r modiwl hwn yn dadansoddi'r tueddiadau sy'n datblygu'n gyflym o ran cymhwyso technoleg i wasanaethau bancio a chyllid.
Modiwlau Dewisol (dewis 2):
- Financial Analysis
- International Financial Markets
- Islamic Finance
- Islamic Banking
- International Strategic Management.
**Rhaid dilyn y modiwlau hyn a llwyddo ynddynt gyda marc o 50% o leiaf er mwyn cael cymhwyster gydag achrediad Banciwr Siartredig
Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bancio (Banciwr Siartredig).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu gyfun 2(ii) neu uwch, neu gymhwyster a gradd dramor gyfatebol. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol.
Nid yw'r rhaglen yn addas i ymgeiswyr sydd wedi astudio dadansoddeg data neu wyddoniaeth gyfrifiadurol ar lefel Baglor.
Dylai ymgeiswyr heb radd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol feddu ar o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith mewn lleoliad perthnasol gyda lefel sylweddol o gyfrifoldeb.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, yna rhaid darparu tystiolaeth foddhaol o’ch gallu i ysgrifennu a siarad Saesneg:
- IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sgôr o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt - Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Efallai y bydd rhaid i ymgeiswyr sy'n methu â chyrraedd y safon ofynnol hon fynd ar gwrs Iaith Saesneg dwys cyn cofrestru ar y rhaglen academaidd.
**Sylwer: Bydd y ffioedd dysgu yn cynnwys premiwm o tua £1,500 dros ffioedd safonol Ysgol Busnes Bangor ar gyfer rhaglenni MSc/MA. Mae hyn oherwydd y ffioedd sy'n cael eu talu i'r corff achredu (Sefydliad y Bancwyr Siartredig).**
Gyrfaoedd
Disgwylir i raddedigion y rhaglen hon gael gwaith mewn amrywiaeth o yrfaoedd yn y sector bancio a gwasanaethau ariannol. Disgwylir i rai graddedigion o'r rhaglen hon ddilyn gyrfaoedd mewn swyddi ym maes busnes a rheoli eraill.