Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bydd myfyrwyr ar y cwrs MSc Astudiaethau Dementia yn elwa o astudio mewn Ysgol Gwyddorau Iechyd sydd wedi'i ennill parch am ein ymchwil yn gyffredinol ac yn arbennig am ei hymchwil ar sut i gefnogi 聽pobl sy'n byw gyda Dementia. Mae'r ymchwil hwn wedi ei leoli yn 聽y a thrwy gydol y cwrs bydd myfyrwyr yn profi datblygiadau arloesol ymarferol a damcaniaethol, gyda llawer ohonynt yn tarddu o'r CDGDym Mangor.
Mae'r rhaglen yn adeiladu ar safbwyntiau damcaniaethol a thystiolaeth ymchwil 聽ac yn sail i arferion iechyd a gofal cymdeithasol cymhwysol ym maes gofal dementia.
Mae'n archwilio theori, ymarfer a pholisiau cyfredol 聽er mwyn datblygu dulliau priodol o ymdrin 芒 gofal dementia o ddisgyblaethau iechyd meddwl, iechyd a rheoli gofal cymdeithasol. Mae'r cwrs yn ceisio datblygu fframwaith i fyfyrwyr gynllunio a darparugofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r teulu sydd yn bwy efo dementia ar draws lleoliadau ac铆wt a chymunedol amrywiol. Mae'n ymdrin a 聽asesu, cynllunio gofal ac ymyriadau fel strategaethau sy'n ymateb i gymhlethdod dementia, gan gynnwys syw i bwysigrwydd cyfathrebu a diwylliant wrth ddarp[aru ymyriadau therapiwtig i sicrhau gwasanaethau rhagorol.
Gall myfyrwyr fantesio ar yr hyblygrwydd o fewn y rhaglen sy'n galluogi ir rhai sydd wedi cwrdd ar gofynion y Tystysgrif new Diploma 么l radd i adael y rhaglen 聽os nad ydynt yn dymuno ymgymryd 芒'r cwrs llawn MSc 聽gan roi hyblygrwydd i fyfyrwyr o ran hyd a dyfnder eu cwrs.
-
- Mae 55 miliwn o bobl yn byw efo dementia dros y byd. World Health Organization, Global Dementia Observatory, 2020.
- Amcangyfrifwyd bod nifer y bobl a oedd yn byw gyda dementia yn agos at filiwn yn 2021 (944,00). Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd yn codi i 1.6 miliwn.听Luengo-Fernandez, R & Landeiro F. (in preparation). The Economic Burden of Dementia in the UK.
- Mae 1 in 11 o bobl dros 65 gyda dementia yn y DU. Luengo-Fernandez, R & Landeiro F. (in preparation). The Economic Burden of Dementia in the UK.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Craidd:
Lleoli Gofal Dementia: Mae'r modiwl hwn yn ceisio gwella dealltwriaeth o'r gwahanol drafodaethau ynghylch a gofal dementia ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith trafodaethau o'r fath ar natur a fformat darparu gofal.
Rheoli Trosgwyddiadau Cymhleth: Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i fyfyrwyr weithio'n effeithiol gyda phobl 芒 dementia a gofalwyr , yn ystod cyfnodau o argyfwng neu pan fyddant yn wynebu cymhlethdod, 聽newid neu bontio.
Cyfathrebu mewn Gofal Dementia: Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddadansoddiad beirniadol o r么l cyfathrebu mewn perthynas 芒 deall profiad byw gyda dementia, wrth ymgysylltu 芒 pherson sy'n byw gyda dementia ac yn yr asesiadau sy'n digwydd ym maes gofal dementia.
Gofal sy'n Sensitif i Ddiwylliant: Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i ganolbwyntio ar ddealltwriaeth o gymhlethdod cyd-destun diwylliannol unigolyn o fewn gofal dementia. Mae'n ceisio archwilio a myfyrio ar sut mae diwylliant yn effeithio ar brofiad pobl y mae dementia yn effeithio arnynt a sut mae hyn yn llywio dull sy'n canolbwyntio ar barchu yr unigolyn, gan gynnwys cysyniadau tosturi ac urddas.
Arweinyddiaeth o fewn cyd-destun: Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r prosesau sy'n gysylltiedig ag arwain a hwyluso gweithredu newid mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Gan ddefnyddio ystod o theori a thystiolaeth, mae'r modiwl hefyd yn archwilio r么l y sefydliad a'r cyd-destun ehangach, yn ogystal 芒 thimau rhyng-broffesiynol wrth lunio sut mae hwyluso neu wella ac arloesi, wrth gefnogi pobl sydd yn bwy efo dementia.
Dulliau Ymchwil neu cwrs ar lein Ddulliau Ymchwil: Mae'r modiwl hwn yn gyflwyniad i ddulliau ymchwil ac mae'n darpar seilwaith ar gyfer y traethawd hir. Bydd u cwrss yn cynnwys cyflwyno dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol a datblygu'r gallu i ddefnyddio technegau ymchwil penodol.
Traethawd Hir: Prosiect ymchwil dan oruchwyliaeth ac yn gyfle I fyfyrwyr ymestyn eu maes wrth gynnal ymchwil unigol.听
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Dementia MSc.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd gyntaf dda mewn pwnc perthnasol gan sefydliad cydnabyddedig. Pynciau gradd sy'n dderbyniol ar gyfer pob rhaglen: Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol/Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapi, Meddygaeth/Deintyddiaeth, Seicoleg, Radiograffeg, Parafeddygon. Safon iaith Saesneg - gofynnwn am sg么r IELTS o 6 heb unrhyw elfen unigol yn is na 5.5 (neu gymhwyster cyfatebol). Nid yw hyn yn berthnasol i bob darpar ymgeisydd, gofynnwch am gyngor oherwydd gall eich gradd Baglor fod yn ddigonol i fodloni'r gofyniad hwn. Bydd gweithwyr proffesiynol sydd 芒 chymwysterau ac eithrio gradd yn cael eu hystyried ar sail unigol.
Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen hon yn darparu dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr ac yn archwilio'n feirniadol y theori a'r ymarfer sy'n fframio dulliau cyfoes o reoli iechyd a gofal cymdeithasol i bobl 芒 dementia. Nid yw'n cynnwys unrhyw leoliadau na chymwyseddau clinigol, sy'n golygu ei fod yn addas ar gyfer ymgeiswyr lleol a rhyngwladol sydd eisiau astudio ar y lefel hon fel gofyniad gyrfa neu ar gyfer cynnydd academaidd.