Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Yn y byd sydd ohoni a’r newidiadau di-rif sy’n digwydd, gall cwrs ôl-radd fod o fudd mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Gallai roi i chi'r fantais ychwanegol y mae cyflogwyr heddiw yn chwilio amdani neu gallai fod o gymorth i chi gael dyrchafiad. Beth bynnag eich amcanion academaidd neu broffesiynol, bydd traddodiad hir yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol o ragoriaeth academaidd yn gymorth i chi eu cyflawni.
Mae ein MA Astudiaethau Addysg yn rhaglen hyfforddedig flwyddyn o hyd i bobl sydd eisiau gwneud gradd MA trwy astudio’n ddwys yn llawn-amser. Mae gan fyfyrwyr ddewis o fodiwlau sy'n gwneud cyfanswm o 180 credyd. Mae’r cwrs wedi ei gynllunio i apelio at fyfyrwyr cartref a myfyrwyr rhyngwladol.Â
Modiwlau craidd:
- Dulliau ymchwil
- Traethawd hir
Mae amrywiaeth o fodiwlau dewisol hefyd ar gael.Â
Symud ymlaenÂ
Bydd yn bosib i fyfyrwyr MA addas symud i’r rhaglen Doethuriaeth mewn Astudiaethau Addysg (EdD) ar ôl cwblhau pedwar modiwl hyfforddedig (120 credyd) yr MA Astudiaethau Addysg a dangos y gallu i astudio ar lefel teilyngdod neu uwch. Ni fyddai’n rhaid i fyfyrwyr o'r fath ysgrifennu traethawd hir MA ond byddai’n rhaid iddynt hefyd gwblhau modiwl ychwanegol a 'chynnig traethawd ymchwil'.
Ystyrir ceisiadau i drosglwyddo credydau i’r EdD fesul achos, gan Gyfarwyddwr y Cwrs EDd, gan mai gradd ymchwil yw’r EdD.
Ar ôl gorffen pob un o’r modiwlau, efallai y gall ymgeiswyr ar gyfer y rhaglen EdD wneud cais am efrydiaethau (gweler y rhaglen EdD am ragor o wybodaeth).
Gwneud Cais
I gael gwybodaeth fanwl am ymgeisio ar-lein cliciwch yma neu yma os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol.
Derbynnir ceisiadau trwy gydol y flwyddyn, ond argymhellir yn gryf bod ymgeiswyr rhyngwladol yn gwneud cais yn gynnar. Y dyddiad cau i ddechrau ym mis Medi yw 31 Gorffennaf. Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw eu hystyried ar gyfer dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr cartref yw 31 Awst bob blwyddyn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'n rhaid i bob myfyriwr astudio'r modiwlau craidd gorfodol canlynol:
- Dulliau ymchwil (30 credyd)Â
- Traethawd hir (60 credyd)
Bydd myfyrwyr yn dewis 90 credyd ychwanegol o'r modiwlau dewisol canlynol:
- Datblygu'r cwricwlwm (30 credyd)
- Arweinyddiaeth a rheolaeth addysgol (30 credyd)
- Asesu mewn addysg (30 credyd)
Gallwch hefyd ddewis o fodiwlau a gynigir ar y cwrs MA Astudiaethau Addysg rhan-amser, e.e. Rheoli Ymddygiad ac ar y cwrs MA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, e.e. Cymdeithaseg Plentyndod ac Ieuenctid. Gall y dewisiadau hyn newid o flwyddyn i flwyddyn.Â
Dysgir y cwrs trwy gyfrwng y Saesneg ac mae croeso i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau yn Saesneg neu Gymraeg.
Bydd y cwrs yn cynnwys rhywfaint o ddysgu ar-lein ac amser astudio annibynnol.
Gall rhywfaint o'r dysgu gael ei gynnal ar benwythnosau ac yn hwyr yn y prynhawn.
Rhaid i fyfyrwyr sicrhau eu bod yn dod â'r holl ddogfennaeth ar gyfer gwiriad cofnodion troseddol i’r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ar ddechrau'r cwrs.Â
Ni all myfyrwyr ymweld ag ysgolion fel rhan o'u modiwlau heb gael gwiriad cofnodion troseddol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Addysg (Llawn-Amser).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd 2(ii), a gorau oll os oes gennych brofiad gwaith perthnasol fel athro/darlithydd neu gynorthwyydd dysgu.Â
O 2021, mae’n rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf pythefnos o brofiad mewn ysgol neu leoliad addysgol. Gallai hyn fod fel gwirfoddolwr, intern neu fyfyriwr. Dylai ymgeiswyr gynnwys manylion am hyn yn y CV y maent yn ei gynnwys gyda'u cais.
Dylai fod gan ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf: IELTS 6.5 heb unrhyw elfen o dan 6.0.
Gall myfyrwyr sydd â sgorau is ddilyn cwrs Saesneg cyn-sesiynol yn ELCOS, Canolfan Iaith Saesneg y brifysgol.
•   MA Addysg - 6.5 (6.0)
Gyrfaoedd
Mae galw mawr am ein graddedigion mewn sawl maes cyflogaeth. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael swyddi mewn ysgolion a phrifysgolion. Mae rhai yn gweithio i gwmnïau fel hyfforddwyr i'r staff. Mae rhai yn cael swyddi fel gweinyddwyr a swyddogion addysg yn adrannau'r llywodraeth.