Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 rhaglen newydd, gyffrous hon yn seiliedig ar y datblygiadau diweddaraf o ran iechyd menywod, bydwreigiaeth a gofal mamolaeth, a bydd o ddiddordeb i fydwragedd cymwysedig a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Bydd y rhaglen hon yn herio bydwragedd i edrych yn feirniadol ar sut y gallant weithio i sicrhau bod menywod a'u teuluoedd yn cael y profiad gorau wrth roi genedigaeth gan ganolbwyntio'n arbennig ar faterion yn ymwneud ag archwilio鈥檙 baban newydd-anedig.
Bydd gan raddedigion y rhaglen hon nid yn unig y gallu i ad-fyfyrio ar ymarfer proffesiynol i wella hunanymwybyddiaeth a datblygiad proffesiynol ond hefyd y sgiliau a'r sylfaen wybodaeth i ddadansoddi'n feirniadol a gwerthuso鈥檙 ddarpariaeth gofal mamolaeth er mwyn nodi meysydd i'w datblygu.
Bydd y modiwl Archwilio'r Baban Newydd-anedig yn y dystysgrif hon yn rhoi gwybodaeth a sgiliau i fydwragedd i'w galluogi i gyflawni'r archwiliad cychwynnol ar faban newydd-anedig o fewn eu r么l.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o r么l y fydwraig wrth wella iechyd a lles a鈥檙 sgiliau sydd eu hangen i wneud y gorau o鈥檙 profiad geni. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymhellach wrth weithio gyda ac ar gyfer menywod a chymunedau i wneud y gorau o'r profiad geni, hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau unigolion.
Gall modiwlau nodweddiadol gynnwys:
- Optimeiddio Geni Plant
- Archwilio'r Newydd-anedig
- Un modiwl arall o'r MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth.
Sylwch y gall modiwlau newid.
听
Gofynion Mynediad
I gael eich ystyried ar gyfer mynediad i'r rhaglen, dylech fod wedi eich cofrestru fel Bydwraig neu'n meddu ar gymhwyster gofal iechyd perthnasol arall yn eich gwlad eich hun gyda gradd dosbarth 2 (ii) neu uwch. Fel arall, cewch eich ystyried os ydych yn meddu ar gymhwyster a phrofiad gwaith addas.
Caiff myfyrwyr eu derbyn i'r rhaglen drwy'r flwyddyn, felly rydym yn eich annog i gyflwyno cais yn gynnar. Gwneir ceisiadau ar system ymgeisio ar-lein Bangor.听
Myfyrwyr Rhyngwladol: Mae'r cwrs hwn yn rhan-amser felly nid yw'n agored i fyfyrwyr tramor (nad ydynt yn ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd).
Gyrfaoedd
Yn ogystal 芒 rhoi gwybodaeth a sgiliau ychwanegol i unrhyw fydwraig a fyddai鈥檔 gwella ei hannibyniaeth o fewn ymarfer, bydd y rhaglen hon yn rhoi鈥檙 wybodaeth a鈥檙 sgiliau angenrheidiol i fydwragedd i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth ar lefel uwch, er enghraifft: fel bydwraig ymgynghorol, rolau datblygu ymarfer ac arwain a gellir eu defnyddio fel carreg gamu i ennill yr MSc Astudiaethau Bydwreigiaeth.
Ymchwil / Cysylltiadau 芒 Diwydiant
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud 芒'r Dystysgrif 脭l-raddedig hon gysylltiadau helaeth 芒 chyrff allanol, cwmn茂au a'r 3ydd sector, sy'n cael eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau'n berthnasol i'r amgylchedd gwaith ac ymchwil modern y bydd graddedigion yn mynd iddo. Maent i gyd hefyd yn Fydwragedd profiadol sy'n dal i fod 芒 chysylltiadau gweithredol 芒'r ymddiriedolaeth GIG leol gan sicrhau bod arfer clinigol modern yn rhan annatod o'r rhaglen.
听