Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Nod y rhaglen hon yw dyfnhau gwybodaeth myfyrwyr am gyfryngau ac ymarfer, trwy eu galluogi i wneud gwaith ymchwil ym maes theori cyfryngau, cyfathrebu a ffurfiau ar y cyfryngau. Gan bwyso ar ystod eang o arbenigedd, cewch gyfle i ddatblygu, cynnal, cyfnerthu a chwblhau rhaglen waith hunangyfeiriedig ym maes y cyfryngau - naill ai'n greadigol neu'n ddamcaniaethol - dros gyfnod estynedig o amser. Rhennir y rhaglen yn ddau fodiwl hyfforddedig a darn sylweddol o waith annibynnol, a wneir dan oruchwyliaeth staff proffesiynol arbenigol.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus am y rhaglen hon radd gyntaf ragorol mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfwerth, yn ogystal 芒鈥檙 gallu i weithio'n annibynnol i gwblhau project hunangyfeiriedig.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.i dda neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfatebol. Sg么r IELTS o 6.5 (dim cydran yn is 6.0), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.