Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r PhD a MPhil听yn raddau uwch a ddyfernir ar 么l cwblhau'n llwyddiannus hyfforddiant ac ymchwil uwch gan arwain at draethawd ymchwil. Nod gradd ymchwil yw darparu hyfforddiant eang ym maes gwyddor gymdeithasol, yn ogystal 芒 hyfforddiant penodol mewn meysydd pwnc arbenigol sy'n berthnasol i'r project ymchwil. Drwodd a thro, mae'r hyfforddiant yn darparu'r cyd-destun a'r sgiliau i gyflawni ymchwiliad gwreiddiol, gan arwain at baratoi traethawd ymchwil sy'n gyfraniad annibynnol a gwreiddiol at wybodaeth.
Rydym yn darparu amgylchedd cyffrous a chefnogol ar gyfer hyfforddiant 么l-radd. Mae'r pwyslais ar grwpiau bach, cysylltiadau gwaith agos rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ymchwil, a datblygu cyfranogiad proffesiynol llawn yn y maes pwnc. Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil ESRC lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws sbectrwm eang o bynciau.
Y cyfnod cofrestru ar gyfer yr MPhil yw 2 flynedd llawn-amser (4 blynedd yn rhan-amser). Dyfernir yr MPhil ar sail cyflwyno traethawd ymchwil 60,000 o eiriau o safon dderbyniol, a pherfformiad boddhaol mewn arholiad viva voce sy'n cynnwys arholwr allanol.
Y cyfnod cofrestru ar gyfer y PhD yn 3 blynedd llawn-amser (6 blynedd yn rhan-amser). Dyfernir y PhD ar sail cyflwyno traethawd ymchwil o ddim mwy na 100,000 o eiriau o safon dderbyniol, a pherfformiad boddhaol mewn arholiad viva voce sy'n cynnwys arholwr allanol.
Mae myfyrwyr graddedig diweddar wedi gwneud gwaith ymchwil ar y pynciau a ganlyn:
- Swyddogaeth UNESCO yn natblygiad y maes diwylliannol a chynnal amrywiaeth ddiwylliannol yn Swltaniaeth Oman
- Dewisiadau cerddoriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol
- Newidiadau mewn tlodi bwyd yng Nghymru
- Effaith ailstrwythuro polisi anabledd
- Gwragedd a adewir ar 么l: Astudiaeth ar effeithiau dynion yn symud dramor i weithio ar eu gwragedd yn Bangladesh
- Gwneud cysylltiadau? - Effeithiau economaidd-gymdeithasol posibl system drafnidiaeth integredig Cymru gyfan
- Digartrefedd ymysg ieuenctid Gogledd Cymru
- Pam fod cyfathrebu ym maes cyfiawnder ieuenctid yn bwysig?
- Effaith gweithgareddau milwriaethus ar y sector olew a nwy a goroesiad Nigeria fel cenedl
- Banciau bwyd yng Nghymru
听
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn disgyblaeth gysylltiedig. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr heb radd Meistr mewn disgyblaeth berthnasol ddilyn rhaglen hyfforddiant ymchwil yn y flwyddyn gyntaf. Dylai ymgeiswyr gyflwyno amlinelliad o'u hymchwil a rhaid iddo gael ei gymeradwyo gan Gyfarwyddwr y Cwrs.
Fel rheol, mae鈥檔 ofynnol i fyfyrwyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.