Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas yn darparu amgylchedd cyffrous a chefnogol ar gyfer hyfforddiant 么l-radd. Mae'r pwyslais ar grwpiau bach, cysylltiadau gwaith agos rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr ymchwil, a datblygu cyfranogiad proffesiynol llawn yn y maes pwnc. Yn achos myfyrwyr ymchwil, gallwn ddarparu rhaglen hyfforddiant ymchwil ESRC lawn a goruchwyliaeth arbenigol o ansawdd uchel ar draws sbectrwm eang o bynciau.
Meysydd Ymchwil
Polisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg gan arbenigo mewn:
- Polisi Cymdeithasol Cymharol
- Cymdeithaseg hanesyddol iechyd
- Polis茂au Iechyd a datganoli
- Salwch meddwl ac anableddau dysgu
- Heneiddio a newid cymdeithasol
- Polisi Tai
- Astudiaethau ethnograffig ac ethnofethodolegol o waith聽
- Dadansoddi Sgyrsiau
- Dadansoddi categoreiddio aelodaeth
- Mynd i鈥檙 ysgol a rhyngweithiad cymdeithasol聽
- Diwylliant a'r Cyfryngau
- Diwylliant Poblogaidd
- Iaith a rhyngweithio cymdeithasol
- Hunaniaeth ac amrywiaeth
- Plentyndod a theulu
Cymunedau a Rhwydweithiau Cymdeithasol gan arbenigo mewn:
- Cymuned ac ardal
- Gweithredu a dinasyddiaeth mewn ardaloedd gwledig
- Ffyrdd o fyw a'r amgylchedd
- Cymdeithas sifil yng Nghymru
- Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
- Diwylliannau bwyd a ffermio
- Yr henoed, cenedlaethau a chwrs bywyd
- Ffurfio hunaniaethau Ewrop
Ieithoedd a Diwylliannau Lleiafrifol gan arbenigo mewn:
- Iaith
- Ymfudo
- Hunaniaeth a pherthyn
Mae myfyrwyr graddedig cyfredol yn gwneud gwaith ymchwil ar y pynciau a ganlyn:
- Trefniadaeth gymdeithasol dysgu ar y we
- Ymfudo, syniadau o berthyn i genedl ac ymatebion polisi yng Nghymru ac Iwerddon
- Arwyddoc芒d economaidd a chymdeithasol yr achosion o SARS聽
- Cymru mewn cymdogaeth fyd-eang
- Categoreiddio ac anghenion addysgol arbennig: gweithredu cod ymarfer AAA
- Ffurfiad cymdeithasol yr hunaniaeth Gymreig
- Y defnydd o'r Gymraeg yn y sector gwirfoddol yng Nghymru
- R么l gwerthuso rhaglenni yn nhrefniadaeth y sector cyhoeddus
Hyd y Cwrs
PhD: 3 flynedd llawn amser, 6 mlynedd rhan amser;聽MPhil: 1-2 flynedd llawn amser, 2-3 rhan amser.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dda mewn disgyblaeth gysylltiedig. Bydd gofyn i fyfyrwyr heb radd Meistr mewn disgyblaeth berthnasol ymgymryd 芒 rhaglen hyfforddiant ymchwil yn eu blwyddyn gyntaf. Dylai myfyrwyr gyflwyno amlinelliad ymchwil y bydd yn rhaid i Gyfarwyddwr y Cwrs ei gymeradwyo.
I鈥檙 rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, yr isafswm gofynnol o ran yr iaith Saesneg yw:
- IELTS 6.0 (heb unrhyw sg么r unigol islaw 6.0)
- Pearson PTE: 62 (heb unrhyw sg么r unigol islaw 58)
- Prawf Saesneg Caergrawnt - Uwch: 176 (heb unrhyw sg么r unigol yn is na 169).