Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae pob rhaglen wedi'i halinio 芒'r ymchwil a gynhaliwyd o fewn Peirianneg Electronig. Mae'r rhaglen MRes yn darparu llwybr pwrpasol ar gyfer myfyrwyr o safon uchel sy'n barod i wneud ymchwil annibynnol (ac o bosibl gydag amcan ymchwil penodol mewn golwg) sy'n arwain at astudio ar lefel PhD neu sy'n ceisio cymhwyster annibynnol ar sail ymchwil sy'n addas ar gyfer gyrfa mewn ymchwil gyda sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gwaith ar 么l graddio. Y disgwyliad arferol yw y dylai'r traethawd ymchwil annibynnol (120 credyd) fod o safon gyhoeddadwy mewn cyfnodolyn o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid. Mae pob MRes yn rhannu elfen hyfforddedig y cwrs. Ar 么l cwblhau'r elfen hyfforddedig yn llwyddiannus, gallwch wedyn arbenigo mewn pwnc penodol ar gyfer eich traethawd ymchwil.
Gofynion Mynediad
Rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Anrhydedd mewn Peirianneg Electronig, Ffiseg neu ddisgyblaeth wyddonol gysylltiedig, ar lefel 2.ii neu uwch neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhyngwladol. Bydd ymgeiswyr sydd 芒 graddau cyntaf mewn disgyblaethau eraill yn cael eu hystyried yn unigol, gyda'r asesiad yn seiliedig ar botensial yr ymgeisydd i lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono.
Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg at lefel IELTS 6.0 yn gyffredinol a dim elfen islaw 5.5 gyda sg么r ysgrifennu o 6.5. Gellir dilyn cwrs cyn-sesiynol proffesiynol priodol ELCOS (Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor) i gyflawni'r lefel iaith Saesneg ofynnol.
Gyrfaoedd
Mae graddedigion y cyrsiau hyn wedi mynd ymlaen i weithio mewn gwahanol ganghennau o'r diwydiant Electroneg, er enghraifft cwmn茂au cyfathrebu optegol a thelathrebu, cyfleusterau ymchwil y llywodraeth fel GCHQ, a nifer o fentrau nanodechnoleg, o fusnesau newydd i gwmn茂au rhyngwladol.
Bydd llawer o fyfyrwyr MRes yn parhau gydag astudiaethau 么l-radd ar 么l graddio, gan fynd ymlaen i raglenni MPhil a Phd. Lle bynnag yr ewch ar 么l gadael, bydd gan raddedigion MRes sgiliau ymchwil annibynnol amlwg a'r gallu i gwmpasu a rheoli projectau technegol cymhleth. Byddwch hefyd wedi datblygu sgiliau gwyddonol a pheirianneg sy'n benodol i'ch maes astudio penodol, o sganio microsgopeg mewnchwilydd i fodelu elfennau meidraidd a ddefnyddir yn uniongyrchol mewn diwydiannau technegol.