Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle i chi wneud ymchwil fanwl, empirig neu feirniadol yn seiliedig ar ymarfer i broses a chynnyrch ysgrifennu proffesiynol. Byddwch yn gweithio tuag at gynhyrchu portffolio wedi'i seilio ar ymarfer, neu ddarn o waith yr ymchwiliwyd yn annibynnol iddo, a fydd yn archwilio arddulliau, cyd-destunau ac agweddau creadigol a beirniadol ysgrifennu proffesiynol. Byddwch yn datblygu, cynnal, cyfnerthu a chwblhau rhaglen waith hunangyfeiriedig mewn ysgrifennu proffesiynol dros gyfnod estynedig o amser, dan oruchwyliaeth staff proffesiynol arbenigol yn y maes.
Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus am y rhaglen hon radd gyntaf mewn disgyblaeth berthnasol neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfwerth, yn ogystal 芒鈥檙 gallu i weithio'n annibynnol i gwblhau project hunangyfeiriedig.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn llawn-amser neu ddwy flynedd rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.i dda neu brofiad ymarferol/diwydiannol cyfatebol. Sg么r IELTS o 6.5 (dim cydran yn is 6.0), neu gyfwerth, os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Bydd yr MRes mewn Ysgrifennu Proffesiynol yn eich paratoi i ddiwallu'r angen, a nodir fwyfwy o fewn diwydiant, am ymarferwyr medrus sydd 芒 phrofiad o ddatblygu projectau yn y diwydiannau creadigol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ddangos eich gallu i weithio'n annibynnol ar broject hir a chymhleth, gan ddarparu sylfaen gref i'r rheini sy'n dymuno mynd ymlaen i astudio academaidd pellach ac i yrfaoedd academaidd.
Rydym yn ceisio rhoi myfyrwyr mewn cysylltiad 芒 chyrff perthnasol yn y diwydiant a threfnu amrywiaeth o weithdai a chystadlaethau proffesiynol, e.e. trwy'r cynllun Menter trwy Ddylunio.
Mae cyn-raddedigion wedi sicrhau swyddi mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol (a chysylltiedig), gan gynnwys darlledu a gwneud ffilmiau, hysbysebu/cysylltiadau cyhoeddus, datblygu gemau a thwristiaeth.