Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Rydym yn cynnig addysg ac ymchwil arloesol i fodloni gofynion gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw. Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sy'n enwog am ddarparu cyrsiau rhagorol a chynnal ymchwil o ansawdd uchel, yn cynnig ystod o gyfleoedd 么l-radd i fyfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol.
Mae graddau ymchwil yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr ddatblygu rhaglen ymchwil annibynnol a fydd yn cyfrannu at wybodaeth yn eu maes proffesiynol, a rhoi cyfleoedd unigryw i ddatblygu'n bersonol a datblygu gyrfa.
Mae'r MSc trwy Ymchwil yn cynnwys cydrannau hyfforddedig sef: Dulliau Ymchwil, modiwlau Cyflwyniad i Economeg Iechyd a chwrs preswyl byr ar Economeg Iechyd y Cyhoedd neu Ffarmacoeconomeg. Sefydlwyd NWORTH, neu Sefydliad Hap-Dreialon Gogledd Cymru (mewn iechyd a gofal cymdeithasol), yn 2002 ac mae'n un o'r ddau ar bymtheg o unedau treialon clinigol gwreiddiol, wedi eu hachredu'n llawn gan UKCRC, a gofrestrwyd yn 2007 i gydnabod eu bod yn gallu darparu'r sbectrwm llawn o arbenigedd sy'n ofynnol i ddarparu ymchwil glinigol o ansawdd uchel a'r gallu i gydlynu'n ganolog treialon aml-ganolfan i'r safonau uchaf. Mae NWORTH yn gweithredu ar draws ystod eang o ddiddordebau ymchwil clinigol, iechyd a gofal cymdeithasol trwy gydweithio ag arbenigwyr ymchwil-weithredol mewn disgyblaethau fel gofal canser, iechyd plant, dementia, deintyddiaeth, iechyd meddwl, obstetreg, oncoleg, fferylliaeth ac iechyd y cyhoedd. Er bod angen i fyfyrwyr gynhyrchu ymchwil annibynnol, gall Uned Treialon NWORTH roi llawer o gyngor a chefnogaeth lle bo'n briodol yn cynnwys cynllunio a rheoli projectau, casglu a rheoli data, sicrhau ansawdd a chydymffurfio a dadansoddi.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol. Neu gall profiad hir a phriodol mewn ymchwil sy'n gysylltiedig ag iechyd neu mewn swydd sy'n canolbwyntio ar ymchwil fod yn berthnasol. Safon iaith Saesneg - gofynnwn am sg么r IELTS o 7.0 neu uwch (heb unrhyw elfen unigol yn is na 7.0).