Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae un ysgoloriaeth PhD 4 blynedd a ariennir yn llawn ar gael i ddechrau ym mis Medi 2023 ym maes dysgu peiriannau Deallusrwydd Artiffisial a chyfrifiadura uwch (AIMLAC). Mae'r PhD yn addas ar gyfer myfyriwr graddedig sydd 芒 diddordeb brwd mewn algorithmau deallusrwydd artiffisial ar gyfer data mawr, optimeiddio, modelu 3D, a delweddu. Bydd y project cyffrous听yn ymchwilio i听听Optimeiddio Data Mawr yn Glyfar ar gyfer Cynhyrchu Geometreg a Modelau 3D,听gyda Chymwysiadau mewn Optimeiddio a Dysgu Peirianyddol Data Mawr o ffynonellau amrywiol megis LiDAR (cymylau pwynt 3D) a gafwyd o adeiladau pensaern茂ol a threftadaeth hanesyddol.
Bydd yr ysgoloriaeth PhD 4 blynedd ar gael yn y Ganolfan UKRI ar gyfer听听(CDT-AIMLAC). Bydd y myfyriwr wedi'i leoli ym Mhrifysgol Bangor, yn yr听Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig.听Bydd y cyllid yn talu am gost lawn ffioedd dysgu a chyflog blynyddol o tua 拢15,900. 听Mae cyllid ychwanegol ar gael ar gyfer costau ymchwil.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw yn y Deyrnas Unedig heb unrhyw gyfyngiad mewnfudo. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno cynnig ymchwil, ar y pwnc hwn, ac wedi'i ysgrifennu yn eu geiriau eu hunain, pan fyddant yn cyflwyno eu cais. Caiff yr ymgeiswyr eu rhoi ar restr fer ac yna eu gwahodd i gyfweliad.
Gellir cael gwybodaeth ychwanegol听听am y project yma.
Teitl y Project:听Optimeiddio Data Mawr yn Glyfar ar gyfer Cynhyrchu Geometreg a Modelau 3D
Goruchwyliwr 1af:听Dr Mosab Bazargani (Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg)
2il oruchwyliwr:听Yr Athro Jonathan C. Roberts (Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig)
Bydd gofyn i鈥檙 ymgeisydd llwyddiannus fynd i elfennau hyfforddedig AIMLAC ym mlwyddyn 1 (megis sylfeini deallusrwydd artiffisial, dulliau ymchwil, delweddu gwybodaeth), cyfarfodydd preswyl ym Mhrifysgolion Aberystwyth, Bryste, Caerdydd neu Abertawe, cyflwyno arloesedd cyfrifol, a chael lleoliadau gyda phartneriaid allanol drwy gydol y rhaglen bedair blynedd. Gall lleoliadau fod yn chwe mis, neu'n flociau byrrach o dri mis neu bythefnos. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cofrestru ym Mhrifysgol Bangor, ac yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg trwy gydol eu cyfnod astudio, gyda darpariaeth yr hyfforddiant cysylltiedig yn y rhaglen PhD yn cael ei rhannu rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Bryste, Caerdydd ac Abertawe.听
Gofynion Mynediad
Dylai fod gan ymgeiswyr radd 2:1 o leiaf. Rhaid i ymgeiswyr ddangos sgiliau rhaglennu rhagorol, ac wedi dilyn rhaglen radd addas, e.e. mewn cyfrifiadureg, mathemateg neu beirianneg electronig (gyda rhaglennu sylweddol), neu ddisgyblaeth sydd 芒 chysylltiad agos. Rhaid i ymgeiswyr fod 芒 diddordeb mewn deallusrwydd artiffisial, dysgu peirianyddol a chyfrifiadura uwch ac un o'r pynciau, uchod. Mae鈥檔 rhaid bod gan ymgeiswyr Saesneg ysgrifenedig a llafar o safon ragorol. Dylai fod gan ymgeiswyr ddawn a gallu mewn meddwl a dulliau cyfrifiadurol (fel y dangosir gan eich gradd a gwybodaeth yn y cais). Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld tua ail hanner Gorffennaf hyd at ddechrau Awst.
I fod yn gymwys fel ymgeisydd o鈥檙 Deyrnas Unedig, rhaid i ddarpar fyfyrwyr fod wedi bod yn preswylio fel rheol yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd yn union cyn dechrau鈥檙 cymhwyster, heb unrhyw gyfyngiadau ar ba mor hir y gallant aros yn y Deyrnas Unedig. Nid yw ymgeiswyr tramor yn gymwys, gan ein bod wedi cyflawni ein cwota a ddefnyddir ar draws carfan gyfan Canolfannau Hyfforddiant Doethurol AIMLAC.听
Gwneud Cais
Cam 1:
I wneud cais am swydd a ariennir gan AIMLAC ym Mhrifysgol Bangor, ar gyfer derbyn myfyrwyr yn 2023, mae鈥檔听rhaid听bod ymgeiswyr wedi cwblhau proses Ceisiadau Uniongyrchol PhD Bangor, ac yn cynnwys y wybodaeth berthnasol a gofynnol fel y nodir isod:
Dewiswch 鈥淕wneud cais yn awr鈥 o'r ddewislen. Mae鈥檔听rhaid听i ymgeiswyr gynnwys y wybodaeth ganlynol.
- Un cynnig ymchwil, wedi'i ysgrifennu yn eu geiriau eu hunain, ac yn seiliedig ar y pwnc.
- CV cyfredol, yn dangos tystiolaeth o brofiad addas ar gyfer y swyddi PhD.
- Llythyr ategol, yn cynnwys datganiad o ddim mwy na 1000 o eiriau sy'n egluro (a) pam yr hoffech ymuno 芒'n Canolfan, a (b) eich profiad codio, gydag enghreifftiau.
- tystysgrifau听a thrawsgrifiadau (os ydych yn dal yn fyfyriwr israddedig, darparwch drawsgrifiad o'r canlyniadau sy'n hysbys hyd yma),
- Geirdaon听academaidd - mae angen cyflwyno dau eirda academaidd gyda cheisiadau ysgoloriaeth. Gwnewch yn si诺r fod y canolwyr o'ch dewis yn ymwybodol o'r dyddiad cau ar gyfer ariannu (i'w benderfynu), gan fod eu geirda yn rhan hanfodol o'r broses werthuso. Cyflwynwch y rhain gyda'ch cais am ysgoloriaeth.
Cam 2:
Rhaid i ymgeiswyr hefyd gwblhau gwybodaeth am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb. Mae hyn yn ofyniad gan y cyllidwyr. Oherwydd natur gydweithredol y cymhwyster, rhaid cyflwyno'r manylion hyn hefyd i e-bost canolog AIMLAC, ar wah芒n i'r cais.听Llenwch y听听wrth wneud eich cais i Brifysgol Bangor.
Cynhelir cyfweliadau (gan ddefnyddio fideo-gynadledda neu yn y cnawd) yn ystod ail hanner o fis Gorffennaf hyd at ddechrau mis Awst.听
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Awst 2023;听a bwriedir cynnal cyfweliadau yn yr wythnos yn dechrau 21 Awst, gan ddechrau ar 18 Medi.听Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau nes bod pob swydd wedi'i llenwi.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒鈥檙听Athro Jonathan Roberts.