Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae rhaglen PhD Bangor mewn Dwyieithrwydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fanteisio ar gefnogaeth a datblygu eu sgiliau i ymgymryd ag ymchwil annibynnol ar lefel doethuriaeth i faterion ac agweddau yn ymwneud ag iaith, addysg, a gwybyddiaeth ym meysydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.Â
Mae ein staff academaidd yn darparu arbenigedd ac yn goruchwylio traethodau hir PhD mewn ystod eang o ddisgyblaethau ym meysydd dwyieithrwydd ac amlieithrwydd. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) brojectau sy’n defnyddio methodolegau ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig yn y meysydd canlynol:  Â
- seineg a ffonolegÂ
- ³¾´Ç°ù´Ú´Ú´Ç²µ²â²õ³Ù°ù²¹·É±ð²ÔÌý
- semanteg a phragmategÂ
- ieithyddiaeth gymdeithasolÂ
- ²õ±ð¾±³¦´Ç¾±±ð¾±³Ù³ó²â»å»å¾±²¹±ð³Ù³óÌý
- caffael iaith mewn plantÂ
- caffael iaith gyntaf ac ail iaithÂ
- datblygiad iaithÂ
- anhwylderau iaithÂ
- ieithyddiaeth corpwsÂ
- iaith a chyfathrebuÂ
- amrywiad, defnydd a newid iaithÂ
- ieithoedd dadleuol eu statwsÂ
- iaith dymhorol a natur iaith ffigurolÂ
- technolegau iaith / prosesu iaith naturiolÂ
- ieithyddiaeth Gymraeg Â
Gall myfyrwyr ar ein cwrs PhD Dwyieithrwydd ddefnyddio cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf sy’n cynnwys:Â
- Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a RØDE) Â
- Labordy tracio llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60) Â
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)Â
- A meddalwedd ac adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol. Â Â
Mae ein staff hefyd yn arbenigwyr yn y meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:Â
- Meddalwedd ystadegol megis: Â SPSS, R-Statistics ac Excel. Â
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.Â
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a seinegol fel: Â Audacity, Praat, a SIL Speech AnalyzerÂ
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)Â
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys CHILDES a CLANÂ
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil fywiog ac arloesol a gefnogir gan wahanol ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.Â
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser, 5 mlynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 3 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Mae’n bosib ymuno â'r rhaglen PhD ar ôl cwblhau gradd Meistr mewn Ieithyddiaeth neu bwnc cysylltiedig ym Mangor neu mewn sefydliad arall. Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith frodorol iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sgôr o 6.0 ym mhob un o'r pedair elfen. Gall myfyrwyr sydd â sgôr gyffredinol o 5.5 ar yr IELTS ddilyn cwrs cyn-sesiwn dros yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).
Gyrfaoedd
Gradd ymchwil yw hon, sy'n eich paratoi at yrfa academaidd mewn Dwyieithrwydd neu at waith arall sy'n gofyn am unigolion cymwys iawn mewn meysydd cysylltiedig. Bydd y sgiliau dadansoddi ac ymchwilio manwl a ddysgwch yn ystod y radd hon yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy mewn meysydd fel cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi, ymchwil etc.