Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Ddoethuriaeth hon yn cynnig fframwaith trylwyr i fyfyrwyr ar gyfer datblygu a chydblethu gwybodaeth empeiraidd, broffesiynol a sefydliadol ym maes iechyd y cyhoedd, gan gynnwys datblygu gwybodaeth a sgiliau ym maes iechyd y cyhoedd a hybu iechyd, gan ganolbwyntio ar y blaenoriaethau a'r heriau cyfredol sy'n cynnwys ffactorau moesegol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Dyma Ddoethuriaeth sy'n adlewyrchu iechyd y cyhoedd yn ei holl agweddau, ac mae'n galluogi ymarferwyr i fabwysiadu rolau fel arweinwyr a datblygu gyrfa. Mae'n gwneud hynny trwy gynnig rhaglen strwythuredig i fyfyrwyr ddatblygu ysgolheictod o fewn eu hymarfer proffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus. Bydd y rhaglen hyfforddedig yn fodd i'r myfyrwyr ddatblygu gwybodaeth fanylach o feysydd iechyd cyhoeddus fel cydgynhyrchu iechyd, maethiad a sgiliau mewn synthesis o dystiolaeth. Bydd hefyd yn cyflwyno set o sgiliau craidd angenrheidiol i reoli newid, arwain rhaglenni iechyd cyhoeddus a gweithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau
Taflen Crynodeb o'r Cwrs
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Mynediad gyda gradd gyntaf (israddedig)
Cwblhau gradd Baglor yn llwyddiannus (O leiaf 2:2) a phrofiad sylweddol yn natblygiad y gwasanaeth iechyd. Mynediad yn 么l Profiad: statws myfyriwr aeddfed Gellir ystyried derbyn ymgeisydd ar yr amod bod ganddo/ ganddi brofiad gwaith perthnasol a bod ganddo/ganddi eirda a datganiad personol cryf.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Gofyniad iaith Saesneg - IELTS 6.5 ymhob elfen NEU ofynion penodol sy'n ymwneud 芒'r iaith Saesneg yn 么l gwlad AC mae'n rhaid i'r cais gynnwys datganiad personol.
Gofynnwch i'r Ganolfan Addysg Ryngwladol ...
Os oes arnoch eisiau cyngor, cysylltwch 芒'r Ganolfan Addysg Ryngwladol ar +44 (0) 1248 382028 neu anfonwch e-bost international@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Bwriad y cwrs hwn yw cefnogi datblygiad academaidd a gyrfaol gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd naill ai'n gweithio neu'n anelu at weithio mewn rolau uwch mewn cyrff iechyd cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a'r rhai sy'n gweithio ar hybu iechyd/iechyd cyhoeddus mewn sefydliadau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y graddedigion yn gallu manteisio ar ddatblygiadau o ran swyddi mewn gofal iechyd, megis ymgynghoriaeth anfeddygol. Lle y bo'n berthnasol, caiff deilliannau dysgu'r modiwlau a'r cwrs eu mapio yn 么l Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau'r Gwasanaeth Iechyd a'r Fframwaith Sgiliau Iechyd yn gefn i dilyniant mewn gyrfa.