Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
I gael gradd PhD, disgwylir i chi gyflwyno canlyniadau eich ymchwil mewn traethawd ymchwil sy'n gyfraniad gwreiddiol ac arwyddocaol at wybodaeth yn y maes pwnc a astudiwyd, a sefyll arholiad llafar. I gael gradd MPhil (Meistr mewn Athroniaeth), disgwylir i chi gwblhau'n llwyddiannus raglen o ymchwil dan oruchwyliaeth, a chyflwyno'r canlyniadau mewn traethawd ymchwil. Gallwch hefyd wneud gradd Meistr trwy Ymchwil ar bwnc ymchwil penodol.
Fel rhan o'r broses ymgeisio am fynediad i radd ymchwil, gofynnir ichi gyflwyno cynnig ymchwil. Dylai gyd-fynd 芒 diddordebau ymchwil ac arbenigedd yr aelodau staff, gan mai dyma鈥檙 meysydd y gallwn gynnig goruchwyliaeth ymchwil ynddynt. Rydym felly'n argymell bod ymgeiswyr yn cyfeirio at dudalennau gwe aelodau staff cyn paratoi cynnig ymchwil: www.bangor.ac.uk/business/staff/cy
Dylai'r cynnig ymchwil fod rhwng 1,500 a 2,500 o eiriau, a dylai amlinellu'r canlynol:
- Y teitl dros dro
- Cwestiwn neu ragdybiaeth ganolog i'w ymchwilio
- Prif amcanion yr ymchwil
- Adolygiad llenyddiaeth
- Disgrifiad o'ch pwnc
- Methodoleg - sut y byddwch yn ateb y cwestiwn ymchwil
- Llyfryddiaeth
- Amserlen
Hyd y Cwrs
Fel rheol, bydd gradd PhD yn cymryd 3 blynedd yn llawn amser; neu 5-6 blynedd yn rhan amser. Disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno canlyniadau eu hymchwil mewn traethawd ymchwil 100,000 o eiriau sy'n gyfraniad gwreiddiol ac arwyddocaol at wybodaeth yn y maes pwnc a astudiwyd, a sefyll arholiad llafar.
Fel rheol, bydd gradd MPhil (Meistr mewn Athroniaeth) yn para 2 flynedd yn llawn amser neu 3 blynedd yn rhan amser. Mae'n rhaid i ymgeiswyr gwblhau鈥檔 llwyddiannus raglen gydnabyddedig o ymchwil dan oruchwyliaeth, a chyflwyno eu canlyniadau mewn traethawd ymchwil o hyd at 60,000 o eiriau.
Gofynion Mynediad
Dylai ymgeiswyr am fynediad i radd MPhil fod 芒 gradd dosbarth cyntaf neu radd ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol, megis economeg, cyllid, cyfrifeg, rheolaeth busnes neu farchnata. Rhaid i ymgeiswyr am fynediad i radd PhD fod 芒 gradd Meistr mewn pwnc perthnasol - fel rheol, mae angen bod wedi cael rhagoriaeth. Mae'n bosibl cofrestru yn y man cyntaf i wneud gradd MPhil, ac yna, yn amodol ar wneud cynnydd boddhaol, trosglwyddo i wneud gradd PhD ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Fel rheol, mae鈥檔 ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol gyflwyno tystiolaeth o fedrusrwydd yn y Saesneg.