Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff yÌýcwrs byr, lefel 6Ìýrhan-amserÌýhwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio naill ai yn yr adran achosion brys neu mewn amgylchedd mân anafiadau, h.y. nyrs, parafeddyg, ffisiotherapydd neu fferyllydd.Ìý
Pam astudio’r cwrs?
Ffocws y modiwl yw datblygu sgiliau a chymhwysedd mewn amrywiaeth o feysydd megis asesu cleifion, anafiadau cyffredin i'r coesau a’r breichiau, clwyfau gan gynnwys mân losgiadau, pwytho a chau clwyfau, asesu mân anafiadau i'r pen, anafiadau a chyflyrau offthalmig cyffredin, a brathiadau gan bryfed, anifeiliaid a phobl.Ìý
Ìý
Cefnogaeth yn y gweithle: rhaid bod gan ymgeiswyr gefnogaeth eu rheolwr a chaniatâd i ymarfer dan oruchwyliaeth mewn maes priodol fel ymarferydd brys. Felly, rhaid i ymgeiswyr fod â chytundeb â goruchwyliwr addas (e.e. ymarferydd brys neu feddyg profiadol) cyn gwneud cais.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae’r cwrs byr rhan-amser hwn yn rhedeg dros 7 mis. Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu 12 diwrnod o addysgu ar y campws ar y dyddiadau canlynol:Ìý
- 19 Medi
- 26 Medi
- 10 Hydref
- 17 Hydref
- 24 Hydref
- 14 Tachwedd
- 21 Tachwedd
- 28 Tachwedd
- 5 Rhagfyr
- 9 Ionawr 2025
- 23 Ionawr 2025
- 6 Chwefror 2025Ìý
- 6 Mawrth 2025 (diwrnod asesu)
Ìý
Gwybodaeth am asesiadauÌý
Bydd asesiadau’r cwrs byr hwn yn cynnwys: Ìý
- aseiniad ysgrifenedig
- dogfen asesu ymarfer gan gynnwys cymwyseddau
- arholiad 1.5 awr heb ei weld yn flaenorol
- 2 Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) (breichiau a choesau)
Ìý
Tiwtorau
Gillian Roberts ac Heather Bloodworth
Ìý
Ìý
Mae gan Gillian wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, ymarferydd brys a nyrsio practis cyffredinol.ÌýÌý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Mae gan Heather wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, endocrinoleg, gofal brys a nyrsio practis cyffredinol
Ìý
Enillodd Gill a Heather wobr Catalyst yn 2023 am ddysgu ac addysgu. Mae'r wobr ryngwladol flynyddol hon yn cydnabod ac yn anrhydeddu arloesedd a rhagoriaeth yng nghymuned ymarfer fyd-eang Anthology.
Ìý
Enillwyd y wobr trwy ddylanwadu'n gadarnhaol ar brofiad addysgol myfyrwyr a'u goruchwylwyr clinigol sy'n cefnogi'r modiwl nyrsio practis cyffredinol.
.ÌýÌý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Nod y modiwl hwn yw cryfhau a datblygu cymhwysedd ymarferwyr brys er mwyn gwella gofal cleifion. Ymdrinnir ag amrywiaeth o feysydd sy'n adlewyrchu natur amrywiol rheoli mân anafiadau gan gynnwys trawma, iechyd meddwl, mân anafiadau a materion proffesiynol cyfoes.Ìý Ìý
Mae'r modiwl wedi'i gynllunio i hwyluso ac arwain y myfyriwr i roi gofal effeithiol ac effeithlon i gleifion sy'n ag amrywiaeth o gyflyrau ac anafiadau, a'i nod yw adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau presennol er mwyn bod yn ymarferwyr gwybodus ym maes deinamig darpariaeth gofal brys a gofal heb ei drefnu.
ÌýBydd y modiwl yn arwain myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau i'r lleoliad clinigol i ddiwallu anghenion y claf.Ìý
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu:ÌýÌý
- Asesu, gwneud diagnosis, rheoli, trin neu atgyfeirio cleifion sydd â mân anafiadau yn briodol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth feddygol.
- Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi sylfaenol yng nghyd-destun gweithrediad normal a mân anafiadau cyffredin.
- Dangos meistrolaeth ar dechnegau gwneud archwiliad corfforol a gallu gwerthuso’n feirniadol y prosesau a ddefnyddiwyd i wneud penderfyniad clinigol.
- ÌýGwerthuso’n feirniadol y materion cyfreithiol a moesegol sy’n gysylltiedig â rheoli cleifion trwy ddatblygu ymarfer.
Rhestr o unedauÌý
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill: Ìý
- Anatomi
- Cymryd hanes clinigol a gwneud archwiliad corfforol
- Mecanwaith a phatrymau anafiadau
- Anafiadau i'r pen a'r gwddf
- Radioleg, dehongli canlyniadau pelydr-x o freichiau a choesau (ymarfer da)
- ÌýAnafiadau a chyflyrau offthalamig cyffredin
- Symptomau cyffredin y glust, y trwyn a’r gwddf
- Brathiadau a phigiadau
- Clwyfau, gan gynnwys gweithdy pwytho
- Asesu a rheoli mân losgiadau.
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) aÌýbcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn: Ìý
- Gweithiwr iechyd proffesiynol, ac
- yn gweithio mewn amgylchedd mân anafiadau/adran achosion brys, neu fod â chaniatâd i weithio yn y naill amgylchedd neu’r llall.
Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýYmarferwr Brys (Tystysgrif Addysg Uwch): y cod ywÌýGIG-3115Ìý. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol