Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r modiwl / dyfarniad Addysgu Ymarfer wedi’i gynllunio i baratoi gweithwyr cymdeithasol cofrestredig ar gyfer cynnig lleoliad dan asesiad i fyfyriwr gwaith cymdeithasol. Gall hyn fod o fewn rhaglenni cymhwyso proffesiynol ar lefel israddedig neu ôl-raddedig/meistr. Comisiynir y modiwl drwy bartneriaeth chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn). Cydlynir y modiwl gan Brifysgol Bangor, gyda phartneriaeth addysgu ychwanegol gan Brifysgol Wrecsam.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs hwn yn benodol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru sydd ag o leiaf 3 mlynedd o brofiad ymarfer ôl-gymhwyso. Bydd cyflogwyr yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr ar y modiwl hwn i ddarparu lleoliad. Mae’r lleoliadau yma yn lleiafswm o 80 diwrnod.
Pam astudio’r cwrs?
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad i addysgu ymarfer gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â gwybodaeth am gynllunio a rheoli lleoliad cyfan, archwilir cysyniadau dysgu ac addysgu oedolion, ystyrir ffactorau sydd yn creu amgylchedd ffafriol i fyfyrwyr ddysgu, datblygu sgiliau a hyder wrth asesu cymhwysedd, darparu adborth effeithiol ar ymarfer a chofnodion ysgrifenedig, adnabod anghenion a chyfleoedd dysgu pellach ac adnabod pan fo myfyrwyr yn cael trafferth.Ìý
Mae’r modiwl wedi’i gymeradwyo ganÌý. Wrth gwblhau’r cwrs ynÌý llwyddiannus, caiff ei ystyried fel cymhwyster asesydd cydnabyddedig o fewn y Fframwaith ar gyfer y Radd mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru (2023).Ìý
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
-
3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb (lleoliad i'w drefnu)
-
Sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr sy'n ymuno â'r modiwl hwn fod yn weithwyr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig.
Rhaid i'r cyflogwr gefnogi'r enwebiad.
Rhaid i gyflogwyr gadarnhau y bydd ymgeiswyr enwebedig yn gallu mynychu'r diwrnodau hyfforddi, sydd yn 3 diwrnod llawn, wyneb-yn-wyneb, yn ogystal â sesiynau cefnogaeth ychwanegol ar-lein.
Bydd cyflogwyr hefyd yn sicrhau y neilltuir myfyriwr gwaith cymdeithasol i ymgeiswyr i ddarparu lleoliad o 80 diwrnod o leiaf ar eich cyfer.Ìý
Gwneud Cais
I gael lle ar y cwrs yma mae’n ofynnol i gyflogwyr (awdurdodau lleol fel arfer) enwebu a chymeradwyo aelodau addas o’r gweithlu ar gyfer y cwrs.Ìý Nid yw’n bosib i unigolion wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Bangor am le ar y cwrs / modiwl hwn.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y Cwrs: ²µ.±è°ù²â²õ´Ç°ù°ª²ú²¹²Ô²µ´Ç°ù.²¹³¦.³Ü°ìÌýÌý