Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs micro-gymhwyster rhan-amser, ڱ7sy'n cael ei gyflwyno trwy ddull hyblyg ar-lein. Gall y dysgwr astudio ar amser ac mewn lleoliad sy'n gweddu i'w amgylchiadau gwaith a bywyd personol.
Pam astudio'r cwrs yma?
Pwrpas y cwrs micro-gymhwyster hwn yw arfogi unigolion â gwybodaeth a sgiliau craidd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer pawb sy'n gweithio o fewn y meysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgysylltu a rhwydweithio ag eraill sydd â diddordebau tebyg. Bydd y cwrs hwn yn helpu myfyrwyr i archwilio pynciau atal a rheoli heintiau allweddol sy'n berthnasol i'w maes gwaith ac ymarfer broffesiynol.
Pryd byddaf yn cychwyn?
Byddwn yn cynnig dau ddyddiad cychwyn gwahanol ar gyfer y cwrs microgymhwyster hwn:
- 20 Ionawr 2025
Beth yw hyd y cwrs?
50 awr (5 awr o ddysgu; 45 awr o astudiaeth annibynnol dan arweiniad).
Tiwtor
Tracey Cooper
Ymunodd Tracey â Phrifysgol Bangor yn 2022 fel Darlithydd mewn Gwyddorau Iechyd (Atal a Rheoli Heintiau), ar ôl bod yn Ddarlithydd er Anrhydedd gyda'r brifysgol am nifer o flynyddoedd. Mae wedi gweithio ym maes atal a rheoli heintiau ers 1996, gan gynnwys fel Ymgynghorydd Nyrsio arbenigol, ac ar lefel Cyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cynorthwyol o fewn amrywiaeth o sefydliadau’r GIG, gan ymddeol o’r GIG yn 2022. Mae’n parhau’n weithredol fel aelod o’r Gymdeithas Atal Heintiau yn ogystal â’i gwaith gyda Phrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae pryderon byd-eang am heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn parhau. Pwrpas y modiwl micro gymhwyster hwn yw arfogi unigolion â gwybodaeth a sgiliau craidd i hyrwyddo arfer gorau mewn atal a rheoli heintiau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ymgysylltu a rhwydweithio ag eraill sydd â diddordebau tebyg.
Deilliannau dysgu
- Dadansoddi baich heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd a'u heffaith ar unigolion a'r gymdeithas ehangach mewn ffordd gritigol.
- Gwerthuso llenyddiaeth sy'n ymwneud ag atal heintiau yn gritigol.
Sut bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno?
Bydd y modiwl yn cynnwys cyfres o 5 uned ddysgu ar-lein gyda phob un yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud ag arferion gorau mewn atal a rheoli heintiau. Bydd myfyrwyr yn cyrchu'r rhain yn eu hamser eu hunain (yn anghydamserol). Bydd y dysgu hwn yn cyfrif am 35 awr o amser astudio.
Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys dau seminar cydamserol ar-lein sy’n cyfateb i 3 awr o amser astudio, a dau fforwm trafod ysgrifenedig (cydamserol) sy’n cyfateb i 2 awr o amser astudio.
Bydd y rhain yn hwyluso dysgu cysyniadau, damcaniaethau ac ymchwil allweddol, ac yn hwyluso datblygiad sgiliau meddwl critigol a datrys problemau.
Bydd rhaglen yn cadarnhau dyddiadau ac amseroedd sesiynau byw yn cael ei rhoi i'r sawl sy'n cael cynnig lle ar y cwrs.
Asesiad
Bydd yr asesiad ar y cwrs micro-gymhwysterd hwn yn cynnwys aseiniad ysgrifenedig. Bydd hyn yn cyfrif am 10 awr o amser astudio.
Gofynion Technegol
Modiwl ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra, sef amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Bangor. Bydd gofyn i fyfyrwyr gael mynediad at gysylltiad rhyngrwyd sefydlog, TG a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion.
Wythnos 1:
Uned dysgu ar-lein
Seminar Byw
Wythnos 2:
Uned dysgu ar-lein
Fforwm trafod
Cyflwyno blog 1 ar ddiwedd yr wythnos
Wythnos 3:
Uned dysgu ar-lein
Seminar Byw
Wythnos 4:
Uned dysgu ar-lein
Fforwm trafod
Cyflwyno dyddlyfr adfyfyriol 1
Wythnos 5:
Uned ar-lein
Cyflwyno blog 2 ar ddiwedd yr wythnos
Ar ôl wythnos 5:
Cyflwyno dyddlyfr adfyfyriol 2
Cost y Cwrs
- Y ffi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 fydd £278.00 (yn cynnwys TAW).
- Ewch i dudalenFfioedd a Chyllid Ôl-raddediger mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Dylai’r darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch).
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y cyfarwyddiadau isod cyn gwneud cais. Mae’r cyfarwyddiadau’n nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano, a bydd dilyn y cyfarwyddiadau’n arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth bresennol;
- Blynyddoedd o brofiad a hanes cyflogaeth (fel sy'n berthnasol)
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o gwblhau'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISIO.
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau annibynnol', yna dewiswch ‘Ôl-raddedig a addysgir nad yw’n graddio’.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch ‘Non-Graduating Taught Modules in Health (NGGT/HEALTH)'. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau’.
- Yn y dudalen nesaf, newidiwch ateb y cwestiwn cyntaf i ‘Rhan amser'.
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Ar gyfer Atal Heintiau 1, y cod ar gyfer mis Hydref yw NHS-4128 a'r cod ar gyfer mis Ionawr yw NHS-4131. Rhaid cwblhau'r adran hon i sicrhau fod eich cais yn cael ei brosesu.
- Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau’r cwrs hefyd. Mae'r cwrs hwn yn rhedeg ddwywaith y flwyddyn (mis Hydref a mis Ionawr). Dewiswch un o'r opsiynau hyn, yna cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, dylech uwchlwytho’r ddogfen a baratowyd gennych ar ddechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yma. Cliciwch ‘Cadw a Pharhau'.
Mae angen i chi gynnwys gwybodaeth am y cymhwyster uchaf sydd gennych chi, e.e. os oes gennych chi gymhwyster ôl-raddedig, dim ond y wybodaeth yma sydd ei angen.
Bydd y system yn gofyn am dystiolaeth o'r cymhwyster. Os ydy'r dystiolaeth wrth law, mae modd i chi ei uwchlwytho yma. Peidiwch â phoeni os nad ydyw gennych chi, gallwch uwchlwytho'r ddogfen Word yma eto (i fodloni'r system).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:Bwrdd Iechyd
- Gwlad:Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondnad oesgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.