Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Caiff y听cwrs byr, lefel 6听rhan-amser听hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor a Wrecsam, gyda rhywfaint o gynnwys ar gael ar-lein (dull dysgu cyfunol).
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn addas ar gyfer nyrsys cofrestredig y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, bydwragedd neu Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol sydd ag o leiaf 12 mis o brofiad o weithio mewn lleoliadau gofal critigol
Pam astudio鈥檙 cwrs?
- Nod y cwrs byr lefel 6 hwn fydd cefnogi鈥檙 dysgwr i:
- Ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar system i ennill dealltwriaeth fanwl o'r pathoffisioleg y tu 么l i salwch o fewn gofal critigol
- Cymhwyso egwyddorion dull person-ganolog i ofalu am bobl sy'n ddifrifol wael.
- Mynd ati鈥檔 feirniadol i werthuso meddyginiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a'i chymhwysiad i'r amgylchedd gofal critigol
- Adeiladu ar y sgiliau a enillwyd o'r modiwl blaenorol a'u gwella.听
鈥⑻ 听
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs rhan amser hwn yn cael ei gynnal dros 18 wythnos, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd.听
听
Bydd y cwrs nesaf yn dechrau ym mis Mai 2025, ac yn rhedeg ar ddydd Iau:听
听
- Mae鈥檙 12 wythnos gyntaf yn cynnwys 8 sesiwn hyfforddedig, a gyflwynir drwy gyfuniad o ddulliau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd darpariaeth wyneb yn wyneb ar ein campws ym Mangor.听
- 1 diwrnod efelychu听
- 3 sesiwn astudio dan gyfarwyddyd anghydamserol. Ni fydd disgwyl i chi fynychu'r campws ar y dyddiau hyn. Fodd bynnag, bydd gwaith gosod i chi ei gwblhau a allai gynnwys gwylio cynnwys wedi'i recordio ymlaen llaw, ymchwilio i gynnwys ar wefannau amrywiol, darllen penodau neu erthyglau.
- Mae 6 wythnos olaf y cwrs yn ddiwrnodau astudio dan gyfarwyddyd i ganiat谩u amser i'r dysgwr gwblhau a chyflwyno ei waith ysgrifenedig a'i gymwyseddau.
Tiwtor
Eirlys Walker
Mae gan Eirlys dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn amgylchedd Gofal Critigol, fel nyrs ac fel Ymarferydd Gofal Critigol Uwch, ac yn ddiweddar ymunodd 芒 th卯m academaidd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd fel darlithydd ar y Rhaglen Gofal Critigol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio'n bennaf ar y ffisioleg newidiol sy'n arwain at salwch critigol, ac ar y strategaethau triniaeth y gellir eu defnyddio i gefnogi a thrin cleifion ar hyd eu taith gofal critigol, gan ddefnyddio dull cyfannol claf-ganolog. Mae鈥檙 modiwl yn adeiladu ar y wybodaeth am anatomeg a ffisioleg a gafwyd yn y modiwl Hanfodion, ac yn defnyddio鈥檙 wybodaeth hon i amlygu鈥檙 annormaleddau a geir mewn salwch. Bydd y modiwl yn adeiladu ar y cyflwyniad i ffarmacoleg a gafwyd drwy edrych yn benodol ar ffarmacoleg y 5 prif system a astudiwyd. Mae鈥檙 modiwl hefyd yn cynnwys y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:听
-
Rheoli鈥檙 llwybr anadlu 芒 chymorth uwch
-
Cipolwg ar r么l gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal critigol
-
Trosglwyddo cleifion sy鈥檔 ddifrifol wael
路听听 听
Fel gyda'r modiwl Hanfodion, bydd y modiwl uwch yn cynnwys diwrnod efelychu, lle bydd myfyrwyr yn mynd i鈥檙 afael 芒 senarios clinigol yn yr ystafell efelychu gyda manequin, gan asesu salwch a gwneud penderfyniadau triniaeth a rheolaeth yn seiliedig ar yr asesiad.
听
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a听bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch 芒'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud 芒 cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ewch i dudalen听Ffioedd a Chyllid israddedig听er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn: 听
- Nyrsys, bydwragedd neu nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH) sy鈥檔 gofrestredig 芒鈥檙 Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC)
Gweithio mewn r么l Gofal Critigol gydag o leiaf 12 mis o brofiad/wedi cwblhau Cymwyseddau Gofal Critigol Cam 1. Bydd angen mentor gweithle ar fyfyrwyr.
听
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein听
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:听Gofal Critigol 2 Uwch: y cod yw听(GIG-3210). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich听ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?听Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:听Bwrdd Iechyd
- Gwlad:听Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?听Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:听Ffioedd Dysgu听听
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?听Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid.听Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond听nad oes听gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn听hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol