Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cod y modiwl: NHS-4250
Cyfres o ddarlithoedd yn y cnawd: Ìý
Bydd y rhain yn egluro’r theori a’r cefndir i wahanol elfennau’r modiwl ac yn cael eu cyflwyno gan dîm y modiwl sydd ag ystod o arbenigedd mewn dulliau ymchwil penodol. Ìý
Astudio dan gyfarwyddyd ac astudio hunan-gyfeiriedig Ìý
Gyda chanllawiau wedi'u darparu ynghylch cyrchu e-adnoddau sy'n ychwanegu at gynnwys darlithoedd y modiwl. Yn benodol, bydd y modiwl yn darparu dull strwythuredig o arwain myfyrwyr i ddarllen am ddulliau penodol ac i gwblhau darllen pellach.Ìý
Tiwtorialau/Trafodaethau grŵpÌý
Darperir y rhain yn ôl y gofyn/yr angen i hwyluso’r broses o ddysgu am gysyniadau a dulliau.Ìý
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae’r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, megis meddygon teulu, nyrsys, ffisiotherapyddion, radiograffwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion iaith a lleferydd, a pharafeddygon.Ìý
Bydd y cwrs hwn hefyd o ddiddordeb i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd y cyhoedd, gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a meysydd eraill cysylltiedig.Ìý
Pam astudio’r cwrs?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r offer cywir i'r dysgwr allu beirniadu a deall tystiolaeth gyhoeddedig berthnasol yn effeithiol er mwyn llywio eu hymarfer.Ìý
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn cael ei gynnal dros 16 wythnos, fel arfer yn ystod ail semester y flwyddyn academaidd.Ìý
ÌýTraddodir darlithoedd un diwrnod yr wythnos, fel arfer ar ddydd Mawrth yn ystod wythnosau 1-13.Ìý
Mae wythnosau 14-16 wedi’u neilltuo ar gyfer dysgu hunan-gyfeiriedig a pharatoi ar gyfer yr asesiad terfynol yn wythnos 16.Ìý
Mae dyddiadau’r darlithoedd yn y cnawd ar gyfer 2024 fel a ganlyn (ar ddydd Mawrth)Ìý
- 23 a 30 Ionawr Ìý
- 6, 13, 20, a 27 ChwefrorÌý
- 5, 12, 19 MawrthÌý
- 16 EbrillÌý
Cynhelir darlith rhwng 1-2.30pm a sesiwn diwtorial grŵp bob yn ail ddydd Mawrth rhwng 3-4pm. Bydd gweddill yr amser yn cynnwys gwaith hunan-gyfeiriedig (i baratoi ar gyfer aseiniadau).Ìý
Dyddiadau cau aseiniadau
Darn A & B: Ìý15/03/2024
Darn C: Ìý10/05/2024
Ìý
Tiwtor
ÌýÌý
Ìý
Ìý
Mae Patricia yn ymchwilydd iechyd sydd â diddordeb mewn gwella bywydau pobl y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt. Mae ei hymchwil yn archwilio effaith y cyflyrau hyn nid yn unig ar fywydau'r rhai y maent yn effeithio arnynt ond hefyd ar y teulu cyfan. Yn 2017, cwblhaodd Patricia a'i chydweithwyr broject ymchwil lle gwnaethant gynllunio a gwerthuso ymyriad cefnogaeth cymheiriaid gan leygwyr ar gyfer adferiad yn dilyn strôc. Yn arwain o'r gwaith hwnnw, llwyddodd Patricia i sicrhau cyllid i gymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan RCBC Cymru. Yn ei chymrodoriaeth, defnyddiodd Patricia ddulliau arloesol i fapio'r profiadau a nodi ffynonellau cefnogaeth i oedolion ifanc sy'n byw mewn teuluoedd a effeithir gan gyflwr niwrolegol. Yn ddiweddar, mae Patricia wedi ymuno â'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) lle bydd yn parhau i ddatblygu ymchwil sy'n canolbwyntio ar gynllunio a gwerthuso ymyriadau pwrpasol i gefnogi pobl ifanc sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia. Ar hyn o bryd, mae hi’n gyd-ymchwilydd ar hap-dreial rheoledig ac astudiaeth ddichonoldeb ar effeithiau ymyriad e-iechyd 'iSupport' i leihau gofid ymysg gofalwyr dementia, yn arbennig yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Patricia yn arwain y pecyn gwaith sy'n canolbwyntio ar addasu iSupport i ddiwallu anghenion pobl ifanc sy’n gofalu am bobl sy’n byw gyda dementia. Ìý
Cwblhaodd Patricia BSc a gradd Meistr ymchwil gwyddor y môr cyn newid gyrfa a hyfforddi fel therapydd galwedigaethol yn 2009. Arweiniodd ei diddordeb mewn gwerthuso a gweithredu ymyriadau adsefydlu cymhleth at ddoethuriaeth, a chynhaliodd werthusiad proses o'r treial OTCH (ymyriad therapi galwedigaethol i breswylwyr â strôc mewn cartrefi gofal yn y Deyrnas Unedig) a ymchwiliodd i effaith cwrs pwrpasol o therapi galwedigaethol ar bobl sydd wedi cael strôc ac sy'n byw mewn cartrefi nyrsio a phreswyl. Roedd Patricia hefyd yn rhan o'r tîm ym Mhrifysgol Bangor a arweiniodd y gwerthusiad proses o'r treial PD COMM, sef treial rheoledig ar hap aml-ganolfan cam III sy'n anelu at werthuso effeithiolrwydd dau ddull o therapi iaith a lleferydd o gymharu â dim therapi iaith a lleferydd o gwbl i bobl â chlefyd Parkinson.Ìý
Mae’r tiwtoriaid canlynol hefyd yn arwain sesiynau fel rhan o’r cwrs byr hwn:Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae Dulliau Ymchwil yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i chi o ymchwil a dulliau ymchwil ym maes gofal iechyd.Ìý
Mae ymchwil a thystiolaeth o ansawdd uchel yn sail i ddarpariaeth gofal iechyd. Bydd datblygu eich gallu i ddeall ymchwil ac ymgymryd â phrojectau ymchwil eich hun yn eich galluogi i gyfrannu at ddatblygu a gwella ymarfer yn y maes o’ch dewis.Ìý
Byddwch yn dod yn 'ddefnyddiwr beirniadol' o ymchwil, gyda gwybodaeth ddigonol i gyfrannu mewn ffordd wybodus at ymchwil feintiol neu ansoddol parhaus ac i ddatblygu cwestiynau a phrojectau ymchwil.Ìý
Caiff y modiwl ei asesu trwy dri aseiniad ysgrifenedig, sy’n cynnwys asesu papurau ymchwil, asesu offer ymchwil, ac ar gyfer yr asesiad terfynol, byddwch yn datblygu eich cynnig ymchwil eich hun.Ìý
modiwlau
-
Pecyn ymchwil sylfaenol Ìý
-
Dulliau adolygu hanfodol Ìý
-
Modelau a dulliau meintiol hanfodol Ìý
-
Modelau a dulliau ansoddol hanfodol Ìý
-
Dulliau uwchÌý
beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Datblygu cynnig ymchwil gan ddilyn templed safonol.Ìý
Deall methodolegau adolygu i archwilio cwestiynau ymchwil penodol.Ìý
Deall dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol sy'n gysylltiedig â chwestiynau ymchwil ac sy’n briodol i amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasolÌý
Datblygu methodoleg a chynllun astudiaeth briodol i archwilio cwestiynau ymchwil yn seiliedig ar ddulliau adolygu a dulliau meintiol neu ansoddolÌý
Cysyniadoli a gweithredoli adolygu a chwestiynau ymchwil meintiol neu ansoddol sy’n briodol i amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol;Ìý
Darparu sail resymegol dros ddewis a defnyddio adolygu a dulliau ymchwil meintiol neu ansoddol i archwilio cwestiynau ymchwil penodol;Ìý
Cost y Cwrs
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) bcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
Efallai y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i'r rhai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â chydlynydd y modiwl perthnasol i gael manylion.
Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Mae croeso i geisiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o rannau eraill o'r DU, gweler einÌýTudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig.
Gofynion Mynediad
Bydd gofyn i ymgeiswyr feddu ar radd israddedig sy’n gysylltiedig â’r maes pwnc (gyda dosbarthiad gradd o 2:2 neu uwch) o Sefydliad Addysg Uwch cydnabyddedig. Ìý
Bydd ymgeiswyr yn gweithio mewn rôl sy'n ymwneud â gofal iechyd. Ìý
Efallai y bydd cymwysterau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer y cwrs byr hwn. Cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Ôl-raddedig a Addysgir'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl. Dulliau Ymchwil: y cod yw NHS: 4250. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Gwnewch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan eich cyflogwr, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol