Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr听丑测产濒测驳听ar lefel 么l-raddedig听sy'n cael听ei gyflwyno听ar-lein.
Mae鈥檙 cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i egwyddorion a dulliau asesu a ddefnyddir mewn addysg i鈥檙 proffesiynau meddygol ac iechyd i fesur perfformiad dysgwyr. Modiwl dysgu o bell ydyw sy'n cynnwys gweithdai rhyngweithiol ar-lein a gweithgareddau dysgu gyda chyfoedion ac yn annibynnol. Mae'r pynciau'n cynnwys dulliau asesu a ddefnyddir i fesur gwybodaeth, sgiliau ymarferol ac ymddygiad proffesiynol, a datblygiadau cyfoes mewn asesu, megis asesu rhaglennol.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Fel arfer bydd ymgeiswyr yn ymarferwyr gofal iechyd cymwysedig, academyddion, staff gwasanaethau proffesiynol neu reolwyr addysg y GIG sydd 芒 rhywfaint o brofiad o oruchwylio, addysgu neu gefnogi dysgwyr yn eu gwaith beunyddiol, a mynediad at hynny.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Ar 么l cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion sy'n sail i asesu effeithiol gan ddefnyddio theori a thystiolaeth
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dulliau asesu gwahanol (ysgrifenedig, ymarferol, yn y labordy, yn y gweithle), dulliau gosod safonau, a鈥檜 cymhwyso wrth ymarfer
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dulliau o asesu gwybodaeth, sgiliau/cymwyseddau ac ymddygiad proffesiynol mewn gwahanol gyd-destunau, o鈥檙 broses ddethol i asesiadau 么l-radd
Cydblethu a chymhwyso theori a thystiolaeth gan ddangos gwreiddioldeb a鈥檙 gallu i hunan-gyfeirio wrth ddefnyddio ac addasu dulliau asesu perthnasol yn eu cyd-destun eu hunain
听
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Bydd y cwrs byr hwn yn dechrau ddiwedd fis Ionawr, a bydd yr addysgu wedi'i gwblhau erbyn mis Mai. Bydd angen cyflwyno aseiniadau erbyn diwedd Mehefin (manylion y dyddiadau i'w cadarnhau).
Asesiadau听
Bydd yr asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys y canlynol: 听
- Traethawd academaidd (2000 o eiriau)
- Tasg adfyfyrio naratif ysgrifenedig (1500 o eiriau)
听
Tiwtor
Yr Athro Catherine O鈥橩eeffe
Mae Catherine wedi dal nifer o rolau uwch mewn addysg 么l-raddedig meddygol ac iechyd y proffesiynau. Mae ei gwaith wedi cynnwys arwain mentrau datblygu cyfadran a chymorth proffesiynol yn ogystal ag ymchwil ac addysgu mewn addysg uwch yn y maes hwn. Hyfforddodd Catherine fel nyrs yn wreiddiol a gweithiodd am flynyddoedd lawer yn rhyngwladol ym maes addysg proffesiynau iechyd cyn ymgartrefu yn y DU. Mae diddordebau addysgu ac ymchwil Catherine wedi canolbwyntio ar addysg ryngbroffesiynol a phroffesiynoldeb. Mae gwobrau diweddar yn cynnwys Prif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch a Gwobr Addysg Cyfadran UCL am Gymorth Academaidd. Mae Catherine yn Athro Emeritws mewn Addysg Feddygol, UCL ac yn gweithio gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ar raglenni datblygu cyfadran.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Nod y modiwl yw datblygu dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o gysyniadau allweddol, theori, ymchwil ac ymarfer gorau cyfredol mewn perthynas ag asesu perfformiad dysgwyr mewn lleoliadau academaidd a chlinigol. Bydd y modiwl hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau astudio lefel meistr yn y ddisgyblaeth hon..
听
Mae 10 uned (un yr wythnos) a all ymdrin 芒鈥檙 pynciau canlynol:
- Tueddiadau ac arferion cyfoes o safbwyntiau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol
- Damcaniaethau a pharadeimau dysgu
- Cynllunio a dylunio dysgu ac addysgu
- Cyflwyniad i ddatblygu cwricwlwm
- Dulliau dysgu ac addysgu听
- Egwyddorion asesu
- Defnydd o dechnolegau dysgu
- Gosod nodau听
- Gwerthuso addysgu
- Gwerthusiad beirniadol o'r sesiynau
- Cyflwyniad i Arweinyddiaeth mewn Addysg i鈥檙 Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
- Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial mewn Addysg i鈥檙 Proffesiynau Meddygol ac Iechyd
- Ysgrifennu sylwebaethau adfyfyriol a mapio i feini prawf AdvanceHE
- Cyflwyniad i astudio ac ysgrifennu ar lefel 'M'
Ar 么l cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:听
- Gwerthuso'n feirniadol yr egwyddorion sy'n sail i asesu effeithiol gan ddefnyddio theori a thystiolaeth听
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dulliau asesu gwahanol (ysgrifenedig, ymarferol, yn y labordy, yn y gweithle), dulliau gosod safonau, a鈥檜 cymhwyso wrth ymarfer听
- Gwerthuso鈥檔 feirniadol y dulliau o asesu gwybodaeth, sgiliau/cymwyseddau ac ymddygiad proffesiynol mewn gwahanol gyd-destunau, o鈥檙 broses ddethol i asesiadau 么l-radd听
- Cydblethu a chymhwyso theori a thystiolaeth gan ddangos gwreiddioldeb a鈥檙 gallu i hunan-gyfeirio wrth ddefnyddio ac addasu dulliau asesu perthnasol yn eu cyd-destun eu hunain听
Cost y Cwrs
Y gost ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yw 拢1,112
Ewch i dudalen听Ffioedd a Chyllid 脭l-raddedig听er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd ymgeiswyr yn ymarferwyr gofal iechyd cymwysedig, academyddion, staff gwasanaethau proffesiynol neu reolwyr addysg y GIG sydd 芒 rhywfaint o brofiad o oruchwylio, addysgu neu gefnogi dysgwyr yn eu gwaith beunyddiol, a mynediad at hynny.听
Bydd gradd, cymhwyster ar lefel gradd, neu gymhwyster proffesiynol a ategir gan brofiad perthnasol fel rheol yn rhan o broffil yr ymgeisydd. Derbynnir ymgeiswyr sydd 芒 gradd 2.2 neu uwch听
Efallai y gofynnwn i鈥檙 ymgeiswyr ymuno mewn cyfweliad ar-lein gydag aelod o d卯m y rhaglen.听
Caiff cymwysterau gradd/lefel gradd ymgeiswyr o'r Deyrnas Unedig eu hasesu gan ddefnyddio Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yr ASA a gofynion Prifysgol Bangor. Bydd angen i gymwysterau proffesiynol gael eu cydnabod gan y corff rheoleiddio proffesiynol priodol e.e. CMC; UKCC; HCPC; Sefydliad Rheolaeth Weinyddol (IAM). Caiff profiad addysgu ei asesu yn 么l y datganiad cefnogi a gyflwynir a chyfweliad ar-lein os oes angen.听
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein听
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch听'脭l-raddedig a addysgir nad yw鈥檔 graddio鈥.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch 'Non-graduating Taught Modules in Medical Sciences (NGGT/MS)' Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:听Asesu mewn Addysg i鈥檙 Proffesiynau Meddygol ac Iechyd: y cod yw听(MSE-4030). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
.
Os ydych yn cael eich听ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?听Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:听Bwrdd Iechyd
- Gwlad:听Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?听Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:听Ffioedd Dysgu听听
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?听Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid.听Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond听nad oes听gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn听hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol