Dyfarnu Gwobr First Palace yng Nghystadleuaeth Mandarin Bridge i Fyfyriwr Eithriadol, Lily Braden!
Dyma i chi gamp ryfeddol. Enillodd un o鈥檔 myfyrwyr gorau ni, Lily Braden, Wobr fawr First Palace yng Nghystadleuaeth hynod gystadleuol Mandarin Bridge yng nghategori dechreuwyr unigol i Fyfyrwyr Ysgolion Uwchradd y Deyrnas Unedig.
Mae Cystadleuaeth Mandarin Bridge, sy'n adnabyddus am safonau llym a chystadlu ffyrnig, yn denu caredigion iaith a dysgwyr o bob cwr o'r byd. Mae perfformiad rhagorol Lily Braden yn arddangos ei hyfedredd ieithyddol hithau ac mae鈥檔 adlewyrchu ansawdd eithriadol yr addysg yn Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo ar 21 Medi yn Nhy'r Myfyrwyr Rhyngwladol, Llundain. Dyma achlysur gwych i ddathlu llwyddiannau ieithyddol pobl ifanc Cymru. Mae鈥檔 adlewyrchu ymrwymiad y Sefydliad i feithrin talent a meithrin angerdd dros ddysgu ieithoedd.