Dathlu ymgysylltiad diwylliannol yn Ysgol Penmachno!
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o fod wedi cydweithio ag Ysgol Penmachno i gynnal gweithdy Blwyddyn Newydd听 Tsieineaidd diddorol i blant ysgol gynradd. Roedd y dathliad lliwgar yn cynnwys gweithgareddau ymarferol fel cerflunio panda clai a thorri papur i si芒p draig, a oedd yn cyd-fynd 芒'n hymrwymiad i feithrin creadigrwydd, ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ac ymgysylltiad cymunedol ymhlith cyfranogwyr ifanc.
Roedd gweld y cyffro wrth y bwrdd panda clai a'r ymdrechion manwl yn ystod segment torri papur draig yn wirioneddol werth chweil. Credwn fod y gweithdy hwn nid yn unig wedi rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr o ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ond hefyd wedi chwarae rhan hanfodol wrth eu cyflwyno i grefftau traddodiadol a meithrin gwerthfawrogiad o amrywiaeth ddiwylliannol. Estynnwn ein diolch i Ysgol Penmachno am y cyfle i gyfrannu at ddigwyddiad mor ystyrlon a llwyddiannus.听
Rhannodd Ms Elliw Roberts, Pennaeth Ysgol Penmachno, adborth cadarnhaol, gan ddweud bod yr holl ddisgyblion wedi mwynhau鈥檙 sesiwn gyda鈥檙 tiwtoriaid Confucius yn fawr. Canmolwyd y tiwtoriaid am fod yn gyfeillgar ac yn hwyliog iawn. Cafodd y disgyblion h欧n fwynhad o ddilyn y cyfarwyddiadau cam-wrth-gam i greu pandas clai, tra bu disgyblion y cyfnod sylfaen yn datblygu eu sgiliau echddygol manwl trwy blygu papur i greu dreigiau papur. Roedd y dreigiau a'r pandas wir yn bleser i'w gweld. Mynegodd Ms Elliw Roberts ei diolch, gan ddweud, 'Diolch i chi i gyd am fore bendigedig; edrychwn ymlaen at eich croesawu yn 么l i Benmachno yn y dyfodol. Diolch yn fawr."
听