Mae fy niddordebau ymchwil yn seiliedig ar gynnull ynghyd them芒u a syniadau o 40 mlynedd o brofiad yn meithrin cydweithio ar draws ffiniau. Mae nifer fawr o brojectau ymchwil sydd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a rhai sydd ar y gweill yn manteisio ar y cyfleoedd gwych sy'n dod i'm rhan yn fy swydd bresennol fel Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys projectau ymchwil ar y cyd 芒 nifer fawr o gydweithwyr ar draws ystod eang o ddisgyblaethau ym Mangor; yn ein prifysgol bartner, Prifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith Tsieina, Beijing, lle rydw i'n athro ar ymweliad yng Nghyfadran Gwyddor Dyniaethau; a chyda chydweithwyr yn rhwydwaith fyd-eang Sefydliadau Confucius yn bennaf.
Rwyf wedi bod yn berson 'rhyngwynebau' erioed, ac yn fy ngweld fy hun mewn rhyw ffordd fel cynllunydd a pheiriannydd syniadau. Yn ystod nifer o flynyddoedd o ymchwil wyddonol yn y byd academaidd ac mewn diwydiant corfforaethol, byddwn bob amser yn ymestyn o un maes i feysydd eraill, o gemeg i ffiseg, neu o ymchwil sylfaenol i gymhwysiad diwydiannol. Er 1973 rydw i wedi bod yn edrych i'r ddau gyfeiriad ar draws y rhyngwyneb rhwng academia a diwydiant, ac wedi gweld, os am gydweithio bod angen nid yn unig deall a gwrando'n gydymdeimladol, ond hefyd bod angen lladmeryddion sy'n fodlon 'cyfieithu' y bydoedd hyn ac felly ddod 芒 nhw ynghyd. Er 1997, mae'r 'rhyngwynebu' hwn wedi cynnwys yr her gyffrous i bontio rhwng y celfyddydau a'r gwyddorau, diwylliant a'r economi, gan gynnwys angen cynhenid i brisio effaith arbenigedd, sgiliau ymchwil a chyfleusterau academaidd i sefydliadau y tu allan i'r byd academaidd. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn edrych yn fanwl ar nifer o syniadau sy'n gysylltiedig 芒'r thema hon, gan gynnwys 'trosglwyddo creadigrwydd' ac 'idiometreg ffisegol' a gaiff eu hesbonio yn rhai o'r papurau a'r cyflwyniadau cysylltiedig a'r cyfeiriadau yn y CV.
Mae cyfleoedd i weithio gyda grwpiau eang, amrywiol yn apelio ataf, a dysgu gan gydweithwyr 芒 gwybodaeth gefndir a phrofiad gwahanol iawn. Mae'r dyheadau hyn wedi eu gwireddu wrth i mi ddatblygu llawer o brojectau dan nawdd cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd sy'n cynnwys nifer o wledydd a meysydd gwahanol megis yr economi werdd, ecosystemau blaengar, cerddoriaeth, creadigrwydd ac addysg ddoethurol. Mae'r pellter sylweddol rhwng ein byd ni yng ngorllewin Ewrop a Tsieina (cyfoes a hen) yn rhoi cyfle gwych i ddysgu ffyrdd newydd o edrych ar bethau, i gyfuno'r rhain i ffyrdd newydd o weithio ac i adeiladu gwell dealltwriaeth rhwng ein pobloedd. Wrth fynd ar hyd y llwybr hwn byddwn yn dod i ddeall ein hunain yn well a'n potensial yn yr oes fyd-eang, gyffrous ond ansicr hon.
Dr David Joyner: Datganiad yn Mandarin
Rhestr cyhoeddiadau a phrojectau
1/ Creativity Transfer: Expertise Pooling & Amplification for a Knowledge Economy, 2011
David J. Joyner, Erik P. M. Vermeulen, Christoph F. Van der Elst, Diogo Pereira Dias Nunes and Wyn Thomas
2/ Just the Job for the Job of Life: A case study to inform a China-UK education-based dialogue
David J. Joyner
3/ Homo Sapiens Insapiens - Lecture given of the Only Human symposium, Bangor Confucius Institute, 22 April 2015
David J. Joyner
4/ Best Practice Guide TESLA (Transnational Ecosystems Laboratory & Actions)
David J. Joyner - Tesla Best Practice Leader
5/ How technology can influence museum visitor experience: A parameter-mapping approach to individual and group response optimisation.
Published in University Press 'St Kliment Ohridski, Faculty of Philosophy, Sofia, Bulgaria', Annual book,Tome 7, 2015, pp281-291.
Projectau cydweithredol
Knowledge Transfer Partnerships (KTP)
Cliciwch yma i weld rhestr o brojectau KTP y llwyddodd David Joyner i gael cyllid i'w cynnal.