Cyrsiau iaith Tsiein?eg ar-lein
HSK1 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin i ddechreuwyr ar lefel HSK1 trwy Zoom. Mae’r cwrs wedi ei deilwra i ddechreuwyr pur ac mae wedi ei rannu'n ddwy ran: Rhan A a Rhan B, sy’n para deg wythnos yr un. Gall cyfranogwyr ddewis cofrestru yn y naill adran neu'r llall, gan ddarparu ar gyfer pobl sydd eisiau cwblhau hanner y cwrs yn unig.
Ffi ar gyfer Rhan A a B: ?60
HSK 1 Rhan A
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1 awr yr un o 6 tan 7 pm
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024
Dyddiad gorffen: 3 Rhagfyr 2023
Rhagofynion: Dim
Ffi: ?30
HSK 1 Rhan B
Sesiynau: Dydd Mawrth 10 x 1 awr yr un o 6 tan 7 pm
Dyddiad dechrau: 14 Ionawr 2025
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025
Rhagofynion: HSK 1 Rhan A
Treial am ddim: ?Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau ? gweddill y cwrs ar ?l y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs Mandarin hwn wedi'i deilwra ar gyfer dechreuwyr sy'n awyddus i feithrin sgiliau sgwrsio bob dydd sylfaenol ac ymgyfarwyddo ? llythrennau Tsieineaidd sylfaenol. Mae’r cwricwlwm cynhwysfawr yn cynnwys amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys cyfarchion, rhifau, cyflwyniadau, cenedligrwydd, proffesiynau, amserlenni dyddiol a gwaith, hoff a chas bethau, archebu bwyd a diod syml, teulu, tywydd a thymhorau, siopa, dulliau teithio, a mwy. Bydd ein tiwtor ymroddedig yn rhoi pwyslais ar fireinio galluoedd siarad a gwrando ac arwain myfyrwyr i adnabod llythrennau Tsieineaidd sylfaenol ar yr un pryd. Erbyn diwedd y cwrs, bydd dysgwyr wedi cael eu paratoi i gyfathrebu'n effeithiol mewn Mandarin ac ymdrin ag amrywiol sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Ar ?l cwblhau'r cwrs hwn, rydym yn rhagweld y bydd myfyrwyr wedi ennill y sgiliau angenrheidiol i roi cynnig ar Arholiad HSK 1 yn hyderus. Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cadw i fyny'n effeithiol ? deunydd y cwrs, rydym yn argymell yn gryf neilltuo lleiafswm o 2 awr i astudio'n annibynnol bob wythnos. Bydd yr ymrwymiad hwn i ddysgu'n annibynnol yn hanfodol i lwyddiant myfyrwyr wrth iddynt symud ymlaen tuag at gyflawni eu nodau hyfedredd iaith.
Deilliannau dysgu: Disgwylir i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ? 178 o lythrennau a dysgu 150 o eiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd.?
Deunyddiau dysgu: Mae ein hyfforddwr wedi rhoi'r holl ddeunyddiau addysgu at ei gilydd yn ofalus iawn, gan ddefnyddio llyfr HSK 1 a ffynonellau atodol eraill. Gellwch fod yn dawel eich meddwl; bydd deunyddiau dysgu cynhwysfawr yn cael eu darparu i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs.
Lleoliad ar-lein: Ar ?l cyflwyno'r ffurflen gofrestru (a ddarperir isod), bydd eich tiwtor cwrs dynodedig yn cysylltu ? chi'n brydlon ac yn darparu dolen cyfarfod Zoom ar gyfer eich gwersi sydd i ddod. I gymryd rhan, a fyddech cystal ? chofrestru i gael cyfrif Zoom am ddim.
Yn ogystal, bydd cwrs adolygu dwys yn cael ei gynnig ym mis Mai-Mehefin i baratoi myfyrwyr sydd ? diddordeb mewn sefyll arholiad HSK 1. Bydd y cwrs ychwanegol hwn yn gyfle i adolygu ac ailadrodd i wella hyder a pharodrwydd myfyrwyr ar gyfer yr arholiad.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch??i gadw lle!
HSK 2 - Gwybodaeth am y cwrs
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig cwrs Mandarin HSK2 trwy Zoom. Mae'r cwrs wedi ei rannu'n ddwy adran, Rhan A a Rhan B, sy’n cael eu cynnal dros ddeng wythnos. Mae gan gyfranogwyr yr hyblygrwydd i gofrestru ar y naill ran neu'r llall yn unol ?'u dewis, gan ddarparu ar gyfer eu hanghenion dysgu unigol a'u hamserlenni.
Rhagofynion: Cwblhau cwrs HSK 1??
Ffi ar gyfer Rhan A a B: ?80
HSK 2 Rhan A?
Sesiynau:?Dydd Mawrth 10 x 1.30 awr o 7.15-8.40pm
Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2024
Dyddiad gorffen: 3 Rhagfyr 2024
Rhagofyniad:?HSK 1?
Ffi: ?40
HSK 2 Rhan B?
Sesiynau:?Dydd Mawrth 10 x 1.5 awr 7.15-8.40pm
Dyddiad dechrau:?14?Ionawr 2025 7.15 - 8.40pm
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025 7.15 - 8.40pm
Rhagofyniad:?HSK 2 Rhan A?
Treial am ddim: ?Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau ? gweddill y cwrs ar ?l y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs:?Mae'r cwrs '?l-ddechreuwyr' hwn yn pwysleisio canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau siarad a gwrando mwy datblygedig mewn Mandarin. O dan arweiniad ein tiwtor, bydd myfyrwyr hefyd yn dod yn hyddysg wrth ysgrifennu ac adnabod llythrennau Tsieineaidd sylfaenol. Mae'r cwricwlwm cynhwysfawr yn ymdrin ? phynciau ymarferol amrywiol, gan gynnwys gofyn am gymorth, trafod tywydd a hinsawdd, mynd i'r afael ? phryderon iechyd ac ymweld ? meddyg, trin arian a phrisiau, disgrifio gweithgareddau dyddiol, archwilio lliwiau, chwaraeon, ac ymarfer corff, yn ogystal ? chymryd rhan mewn gweithgareddau siopa.
Ar ?l cwblhau'r cwrs hwn, disgwylir i fyfyrwyr feddu ar y cymhwysedd angenrheidiol i roi cynnig ar Arholiad HSK 2 yn hyderus. Er mwyn sicrhau cynnydd effeithiol drwy gydol y cwrs, rydym yn argymell neilltuo lleiafswm o 3 awr i astudio’n annibynnol bob wythnos. Bydd yr ymrwymiad hwn i ddysgu'n annibynnol yn hybu hyfedredd iaith myfyrwyr ac yn eu galluogi i ragori yn eu taith iaith.?
Deilliannau dysgu: Disgwylir i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ? 349 o lythrennau a dysgu 300 o eiriau Tsieineaidd a ddefnyddir mewn cyd-destunau bob dydd.?
Deunyddiau dysgu: Mae ein tiwtor ymroddedig wedi rhoi'r holl ddeunyddiau addysgu at ei gilydd yn ofalus iawn, gan gynnwys llyfr HSK 2 fel sylfaen a defnyddio ffynonellau atodol eraill. Gellwch fod yn dawel eich meddwl; bydd deunyddiau dysgu cynhwysfawr yn cael eu darparu i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs.
Lleoliad ar-lein:?Ar ?l cyflwyno'r ffurflen gofrestru (a geir isod), bydd eich tiwtor cwrs penodedig yn cysylltu ? chi’n brydlon, gan ddarparu dolen cyfarfod Zoom ar gyfer eich gwersi sydd i ddod. Cofiwch gofrestru i gael cyfrif Zoom am ddim i gymryd rhan yn y cwrs.
Yn dilyn y cwrs hwn, bydd cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin, wedi’i lunio’n benodol i baratoi myfyrwyr at sefyll yr arholiad HSK2 os ydynt yn dewis gwneud hynny. Bydd y cwrs ychwanegol hwn yn canolbwyntio ar adolygu ac atgyfnerthu cynhwysfawr, gan sicrhau bod myfyrwyr wedi'u paratoi'n dda ac yn hyderus ar gyfer yr arholiad.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch??i gadw lle!
HSK3 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Dewch i ddysgu Mandarin canolradd gyda Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, sydd bellach ar gael ar-lein trwy Zoom! Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn wedi ei gynllunio i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu mewn Tsiein?eg Mandarin. P'un a ydych am ddilyn y cwrs llawn neu ddim ond rhan A neu ran B, mae hwn yn addas i chi! Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i wella eich sgiliau Mandarin ac ehangu eich gorwelion diwylliannol. Cofrestrwch yn awr!
Strwythur y Cwrs:
HSK 3 Rhan A: Adran 10 wythnos
HSK 3 Rhan B: Adran 10 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 3 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 2.
I HSK 3 Rhan B: Cwblhau HSK 3 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 3 Rhan A & Rhan B (Cwrs Llawn): ?100
HSK 3 Rhan A (Unigol): ?50
HSK 3 Rhan A
Sesiynau: Dydd Mawrth, 1.5 awr yr wythnos.
Dyddiad dechrau:?1 Hydref 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen:?3 Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 3 Rhan B
Sesiynau: Dydd Mawrth, 2 awr yr wythnos.
Dyddiad dechrau:?14?Ionawr 2025
Dyddiad gorffen: 18 Mawrth 2025
Amser: 6:00 yp – 8:00 yp (yn cynnwys egwyl o 10 munud)
Treial am ddim: Dechreuwch gydag wythnos gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau ? gweddill y cwrs ar ?l y sesiwn gychwynnol.
Trosolwg ar y cwrs Yn y cwrs lefel ganolradd hwn, byddwn yn canolbwyntio ar feistroli sgiliau iaith uwch. Gallwch ymchwilio i bynciau amrywiol, gan gynnwys gwneud galwadau ff?n, cynllunio digwyddiadau, siopa, trafod diodydd, disgrifio unigolion, rhannu profiadau a digwyddiadau, a llawer mwy.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 3. Rydym yn argymell neilltuo o leiaf 4 awr yr wythnos i astudio’n annibynnol er mwyn gallu cadw i fyny ?’r cwrs.
Amcanion Dysgu: Trwy'r cwrs, byddwch yn ymgyfarwyddo ? 623 o gymeriadau ac yn adeiladu geirfa o 600 o eiriau Tsiein?eg a ddefnyddir yn gyffredin mewn sefyllfaoedd bob dydd. Dysgu sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau cymhleth mewn Mandarin.
Deunyddiau Astudio: Mae ein hathrawon profiadol wedi paratoi deunyddiau’r cwrs yn ofalus gan ddefnyddio’r llyfr HSK 3 ac adnoddau atodol eraill. Bydd gennych fynediad i'r holl ddeunyddiau dysgu trwy gydol y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ?l i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu ? chi gyda dolen Zoom i’ch gwers.? Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim i gofrestru.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch??i gadw lle!
Paratoi Pellach: Ar ?l cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr sydd ? diddordeb sefyll arholiad HSK 3 ymuno ?'n cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin 2024. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod wedi paratoi'n dda at yr arholiad.
Ymunwch ? ni ac ewch ?'ch sgiliau Mandarin i'r lefel nesaf! Achubwch ar y cyfle i gyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus mewn Tsiein?eg Mandarin. Cofrestrwch yn awr i ddechrau ar y daith ddysgu ddifyr hon gyda ni.
?
HSK 4 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Croeso i gwrs HSK 4 Mandarin a gynigir gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor, sydd bellach ar gael trwy Zoom. Mae'r cwrs cynhwysfawr hwn wedi ei gynllunio i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu mewn Tsiein?eg Mandarin. P'un a ydych yn dewis dilyn y cwrs llawn neu ddewis rhan A neu ran B, rydym wedi ei deilwra i gyd-fynd ?’ch anghenion dysgu.
Strwythur y Cwrs:
HSK 4 Rhan A: Adran 10 wythnos
HSK 4 Rhan B: Adran 10 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 4 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 3.
I HSK 4 Rhan B:Cwblhau HSK 4 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 4 Rhan A a Rhan B (Cwrs Llawn): ?160
HSK 4 Rhan A (Unigol): ?80
HSK 4 Rhan A
Sesiynau: Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Iau, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 30 Medi 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 5?Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 4 Rhan B
Sesiynau:Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Iau, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau:?13?Ionawr 2025, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 20 Mawrth 2025, 6:00 pm - 7:30 pm
Treial am ddim: Dechreuwch gyda sesiwn am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau ? gweddill y cwrs ar ?l y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Mae'r cwrs lefel ganolradd hwn yn canolbwyntio ar wella sgiliau iaith uwch. Mae'n cwmpasu 20 o bynciau amrywiol, gan ymchwilio i 100 o bwyntiau gramadegol allweddol a strwythurau brawddegau.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 4. Er mwyn cadw i fyny ?’r cwrs a dysgu cymaint ? phosib, rydym yn argymell neilltuo o leiaf 6 awr yr wythnos o astudio’n annibynnol.
Deilliannau Dysgu: Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ? 1200 o gymeriadau neu eiriau Tsiein?eg a ddefnyddir yn gyffredin mewn cyd-destunau bob dydd. Byddwch yn dysgu mwy am strwythurau gramadeg, cymryd rhan mewn sgyrsiau mwy cymhleth, a datblygu sgiliau cyfathrebu ehangach mewn Mandarin.
Deunyddiau Dysgu: Mae ein hathrawon profiadol wedi llunio'r holl ddeunyddiau addysgu yn ofalus gan ddefnyddio llyfr HSK 4 a ffynonellau atodol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ?l i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu ? chi gyda dolen Zoom i’ch gwers.? Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim er mwyn gallu cofrestru.
Paratoi Pellach: Yn dilyn y cwrs, rydym yn cynnig cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin i baratoi myfyrwyr sydd ? diddordeb mewn sefyll arholiad HSK 4. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn barod at yr arholiad.
Dechrau ar y daith gyffrous hon i feistroli Tsiein?eg Mandarin ac ymgolli yng nghyfoeth diwylliant Tsieina. Cofrestrwch yn awr i sicrhau eich lle ar y cwrs Mandarin HSK 4 a chynyddu eich sgiliau iaith.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch??i gadw lle!
HSK 5 Gwybodaeth am y Cwrs Mandarin
Dechreuwch ar daith iaith drawsnewidiol gyda’r cwrs Mandarin HSK 5 a gynigir gan Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor. Bellach ar gael ar-lein trwy Zoom, mae'r cwrs hwn yn llwyfan perffaith i feistroli sgiliau iaith uwch. P'un a ydych yn dewis y cwrs llawn neu'n dewis Rhan A neu Ran B yn unig, mae gennym ddewisiadau wedi eu cynllunio i gyd-fynd ?’ch dewisiadau dysgu.
Strwythur y Cwrs:
HSK 5 Rhan A: Adran 12 wythnos
HSK 5 Rhan B: Adran 12 wythnos
Rhagofynion:
I HSK 5 Rhan A: Cwblhau cwrs HSK 4.
I HSK 5 Rhan B: Cwblhau HSK 5 Rhan A.
Ffioedd y Cwrs:
HSK 5 Rhan A a Rhan B (Cwrs Llawn): ?200
HSK 5 Rhan A (Unigol): ?100
HSK 5 Rhan A
Sesiynau: Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Mercher, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau: 30 Medi 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 18 Rhagfyr 2024, 6:00 pm - 7:30 pm.
HSK 5 Rhan B
Sesiynau:Ddwywaith yr wythnos, dydd Llun a dydd Lau, 1.5 awr yr un.
Dyddiad dechrau:?13?Ionawr 2025, 6:00 pm - 7:30 pm.
Dyddiad gorffen: 3 Ebrill 2025, 6:00 pm - 7:30 pm
Treial am ddim: Dechreuwch gyda gwers gyntaf am ddim, ac os ydych yn mwynhau'r profiad, gallwch dalu i barhau ? gweddill y cwrs ar ?l y sesiwn gychwynnol.
Disgrifiad o'r Cwrs: Gallwch wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu gyda'n cwricwlwm cynhwysfawr. Mae’n cynnwys 36 o bynciau difyr, gan gynnwys deall bywyd, trafod digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol, a deall straeon a hanesion, byddwch yn dysgu dros 100 o bwyntiau gramadegol hanfodol wedi eu hintegreiddio yn yr ymadroddion hyn.
Nod: Erbyn diwedd y cwrs, dylai myfyrwyr deimlo'n ddigon hyderus i roi cynnig ar arholiad HSK 5. Rydym yn argymell neilltuo o leiaf 6 awr yr wythnos i astudio’n annibynnol er mwyn dysgu cymaint ? phosib.
Gweithgareddau Academaidd: I'r rhai sy'n ystyried parhau ?'u hastudiaethau yn Tsieina, mae'n hanfodol nodi bod arholiad HSK 5 ar hyn o bryd yn rhagofyniad ar gyfer ceisiadau gradd meistr mewn prifysgolion yn Tsieina.
Deilliannau Dysgu: Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo ? 2500 o gymeriadau neu eiriau Tsiein?eg a ddefnyddir yn gyffredin mewn cyd-destunau bob dydd. Gallwch wella eich sgiliau cyfathrebu llafar i sgyrsiau cymhleth a datblygu hyfedredd o ran darllen ac ysgrifennu brawddegau ac erthyglau cymhleth. Byddwch yn magu hyder yn eich galluoedd cyfieithu hefyd.
Deunyddiau Dysgu: Mae ein hathrawon profiadol wedi llunio'r holl ddeunyddiau addysgu yn ofalus gan ddefnyddio llyfr HSK 5 a ffynonellau atodol. Darperir yr holl ddeunyddiau dysgu yn ystod y cwrs.
Dysgu ar-lein: Ar ?l i chi lenwi'r ffurflen gofrestru, bydd tiwtor eich cwrs yn cysylltu ? chi gyda dolen Zoom i’ch gwers.? Dylech sicrhau fod gennych gyfrif Zoom am ddim er mwyn gallu cofrestru.
Paratoi Pellach: Ar ?l cwblhau'r cwrs hwn, gall myfyrwyr sydd ? diddordeb sefyll arholiad HSK 5 ymuno ?'n cwrs adolygu dwys ym mis Mai-Mehefin 2024. Bydd y rhaglen ychwanegol hon yn sicrhau eich bod yn hyderus ac yn barod at yr arholiad.
Agorwch y drws ar hyfedredd iaith Mandarin uwch a dealltwriaeth ddiwylliannol. Cofrestrwch yn awr i sicrhau eich lle ar gwrs Mandarin HSK 5 a dysgu am gyfleoedd cyffrous yn y byd Tsiein?eg.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch??i gadw lle!
Dewch i Ddysgu am Lythrennu Tsieineaidd ar Gwrs Ar-lein!
Dewch i ddysgu am fyd y llythrennu Tsieineaidd (Hanzi) ar gwrs nos 15 wythnos gan Sefydliad Confucius. P'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu'n ymddiddori mewn ieithoedd, caiff y cwrs ei gynllunio i gynnig profiad dysgu cyfoethog a phleserus.
Pam Dysgu Llythrennu Tsieineaidd?
Nid mater o gaffael iaith newydd yn unig yw llythrennu Tsieineaidd; mae’n siwrnai sy’n ysgogi’r meddwl. Mae strwythur cymhleth y llythrennau Tsieineaidd yn gwella’r swyddogaethau gwybyddol, sgiliau symud, ac adnabyddiaeth weledol. Hefyd, mae archwilio Hanzi’n rhoi cipolwg inni ar esblygiad hanesyddol a diwylliannol un o ieithoedd hynaf y byd.
Pigion y Cwrs
- Amserlen: Dydd Llun am 6:30pm ar Zoom (dosbarthiadau o 50 munud yr un)
- Dyddiadau: 13 Ionawr i 28 Ebrill 2025
(Dim dosbarth ar ddydd Llun y Pasg, 21 Ebrill) - Ffi: Am ddim
Yr Hyn y Byddwch yn ei Ennill:
- Meistroli tua 50 o lythrennau cyfansawdd newydd a’r eirfa gysylltiedig.
- Dysgu uwch dechnegau’r strociau ac adnabyddiaeth radical.
- Darganfod strategaethau i nodi patrymau a chysylltiadau rhwng y llythrennau, a hybu darllen a deall.
- Ymarfer creu deialogau syml.
- Archwilio ystyr a defnydd idiomau Tsieineaidd traddodiadol (成语).
Deunyddiau Dysgu:
Caiff yr holl ddeunyddiau eu llunio a'u darparu gan diwtor profiadol.
Ar ?l cofrestru, bydd y tiwtor yn anfon dolen cyfarfod Zoom atoch.
Cofrestrwch a dechrau ar eich taith i feistroli llythrennu Tsieineaidd heddiw!
?
Cabolwch Eich Sgiliau Siarad Tsiein?eg yn y Gornel Tsieineaidd!
Ymunwch ?'n sesiynau rhyngweithiol ar-lein ar Teams i ymarfer eich sgiliau llafar Tsiein?eg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol!
Sesiynau i Ddechreuwyr/Dysgwyr Canolradd Isel
- Dyddiadau: 1 Hydref -17 Rhagfyr 2024 &?21 Ionawr – 27 Mai 2025
- Dydd: Pob nos Fawrth
- Amser: 6:30pm - 7:30pm
Sesiynau i Ddysgwyr Canolradd/Uwch:
- Dyddiadau: 3 Hydref - 19 Rhagfyr 2024 &?23 Ionawr – 29 Mai 2025
- Dydd: Pob nos Iau
- Amser: 6:30pm - 7:30pm
Yr Hyn a Gynigiwn:
- Yn Rhad ac am Ddim: Dim cost o gwbl!
- Wedi'i Deilwra ar gyfer Eich Lefel Chi: P'un a ydych chi newydd ddechrau neu'n gobeithio mireinio eich sgiliau, mae gennym sesiynau ar gyfer dechreuwyr hyd at ddysgwyr uwch.
- Cyd-destun Anffurfiol: Ymlaciwch a sgwrsio gyda chyd-ddysgwyr.
- Dolenni Cyfarfodydd TEAMS: Ar ?l cofrestru byddwch yn derbyn dolenni i'r cyfarfodydd perthnasol.
Peidiwch ? cholli'r cyfle hwn i roi hwb i'ch medrusrwydd yn siarad Tsiein?eg! Cofrestrwch i gadw lle!
Grymuso Eich Dysgu ar Gwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus mewn Mandarin!
A ydych chi'n addysgwr sy'n awyddus i integreiddio Mandarin yn yr ystafell ddosbarth? Ymunwch ? ni ar Gwrs Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Mae wedi'i deilwra i arfogi athrawon ? sgiliau yn yr iaith Fandarin a gwybodaeth ddiwylliannol hanfodol. Mae’r rhaglen yn cefnogi hyrwyddo Mandarin yn y tymor hir mewn addysg, i’ch helpu chi sicrhau effaith barhaol.
Manylion y Cwrs:
- Dyddiadau: Dechrau Ionawr 13 - 28 Ebrill 2025 (15 wythnos, ac eithrio gwyliau banc)
- Amserlen: Bob nos Lun, 7:30pm - 8:30pm
- Y Drefn: Ar-lein ar Zoom
Yr Hyn y Byddwch yn ei Ennill:
- Cyflwyniad i Fandarin Datblygu sgiliau iaith sylfaenol i hwyluso pynciau’r dosbarth.
- Gweithgareddau Diwylliannol: Dysgu am ddiwylliant Tsieina mewn sesiynau rhyngweithiol.
- Tystysgrif Presenoldeb: Dathlu eich llwyddiant gyda chydnabyddiaeth swyddogol.
- Does dim arholiadau: Dysgu mewn amgylchedd hamddenol, heb ddim pwysau.
Ymunwch ? ni i wella eich taith addysgu a dod ? dysgu Mandarin yn fyw yn yr ysgol.
Cofrestrwch ?
Adnoddau Ar-lein
(Dechreuwyr sy’n oedolion)
(Plant/Dysgwyr ifanc)
?
Diwylliant Tsieiniaidd
Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn cynnig rhai fideos yngl?n ? Caligraffeg Tsieineaidd ar YouTube. Dyma gyfle gwych i ddysgu ac ymarfer crefft Tsieineaidd hynafol.
Mwynhewch ein
?