Yma yng Nghanolfan Brailsford mae gennym rywbeth at ddant pawb. O ddringo i bêl-droed, bydd ein hyfforddwyr â chymwysterau gradd yn cadw'ch plentyn yn hapus ac yn frwdfrydig drwy'r dydd.
Beth am gael eich plentyn i gymryd rhan yn y rhaglenni gweithgareddau llawn antur sydd ar gael?
5 mantais allweddol i ymuno â gwersyll gwyliau Bangor
- Bod yn fwy heini ac yn iachach
- Ennill sgiliau datrys problemau
- Adeiladu ar hyderÌý
- Gwneud ffrindiau
- Defnyddio eu hegni i'r eithaf!Ìý
Rydym ni yma yng Nghanolfan Brailsford yn annog pob plentyn rhwng 7 a 13 oed i ymuno â ni gan fod rhywbeth at ddant pawb. Ìý
Plis ar ein tudalen i sicrhau lle i'ch plentyn.
Am ein gwersylloedd gwyliau
Sicrhewch fod eich plant yn actif trwy eu cyflwyno i'n gweithgareddau chwaraeon amrywiol dan do ac awyr agored.
Gweithgareddau Gwyliau Hâf i Blant; Chwefror 24ain - 28ain
Amserlen
Mae ein gwersylloedd gwyliau yn cynnig digonedd o weithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol i ddiddanu plant.
Cwrdd â'n hyfforddwyr
Mae gan hyfforddwyr Chwaraeon Bangor gymwysterau gradd a phrofiad i roi tawelwch meddwl i chi fod eich plentyn yn cael y profiad gorau yn ein gwersyll gwyliau gwych ym Mangor.
Iona
Cymwysterau: BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol; TAR Uwchradd Addysg Gorfforol.
Gallaf helpu gydag: Unrhyw beth sy’n ymwneud â datblygu chwaraeon, Gwersylloedd Plant.
Archebwch eich lle yn ein Gwersyll Gwyliau
Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.
I archebu ar-lein gyda ni dilynwch y canllaw hawdd hwn:
Ìý
- Ewch i https://brailsford.bangor.ac.uk/scuba6/stellar2/start.php?scubaAppName=stellar2
- Dewiswch Mewngofnodi/Cofrestru yng nghornel chwith uchaf y sgrin
- Os yw'ch plentyn wedi bod i Wersylloedd Gwyliau blaenorol gallwch fewngofnodi gyda'r cyfeiriad e-bost sy'n gysylltiedig â'r cyfrif
- Os nad oes ganddyn nhw gyfrif gyda ni, rhowch alwad i ni ar 01248 382571 i ni eu sefydlu.
- Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi dylai eich plentyn ymddangos yn y gwymplen ar y chwith
- Nawr dewiswch y botwm Gwersylloedd Gwyliau
- Pwyswch Search pan fydd y ddewislen hon yn llwytho
- Dylai holl ddyddiadau'r Gwersylloedd Gwyliau presennol ddod i fyny
- Dewiswch y diwrnod yr hoffech chi a pharhau i'r dudalen nesaf
- Bydd y ddewislen hon yn gadael i chi weld cysylltiadau brys ac ateb y cwestiynau iechyd ar gyfer eich plentyn
- Unwaith y bydd y rhain wedi'u llenwi gallwch eu cofrestru ar gyfer y diwrnod hwnnw
- Os hoffech ychwanegu sawl diwrnod, dychwelwch i gam 7
- I ychwanegu ail blentyn at y cwrs gallwch eu dewis yn y gwymplen ar y chwith.
- Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â thîm Canolfan Brailsford ar 01248 382571.
Beth sydd ei angen ar eich plentyn?
Rheolau a Rheoliadau
Mae'r rheolau a'r rheoliadau hyn wedi'u sefydlu fel bod plant a staff yn cael profiad chwaraeon pleserus a diogel.
1.ÌýÌý ÌýRhaid i riant/gwarcheidwad archebu a thalu am bob diwrnod o weithgareddau.
2.ÌýÌý ÌýRhaid i'r plant gael eu cludo i'r Ganolfan gan riant/gwarcheidwad sy'n eu cofrestru yn y dderbynfa cyn dechrau'r gweithgareddau.
3.ÌýÌý ÌýNi ellir llofnodi plant tan 8:00am, ni fydd staff yn gyfrifol amdanynt cyn yr amser hwn.
4.ÌýÌý ÌýRhaid i rieni/gwarcheidwaid gasglu eu plant a'u llofnodi allan o'r tu mewn i'r Ganolfan Chwaraeon ar ddiwedd y gweithgareddau.
5.ÌýÌý ÌýRhaid i riant/gwarcheidwad roi gwybod i aelod o staff os oes unrhyw fanylion cyswllt wedi'u newid, e.e., rhif ffôn, cyfeiriad, gwybodaeth feddygol ac ati.
6.ÌýÌý ÌýCyfrifoldeb y rhiant/gwarcheidwad yw sicrhau bod eu plentyn yn cael digon o fwyd a diod drwy gydol y dydd.
7.ÌýÌý ÌýRhaid i bob plentyn fod wedi'i wisgo a'i gyfarparu'n briodol ar gyfer ei weithgarwch, yn enwedig lle mae goblygiadau diogelwch.
8.ÌýÌý ÌýMae rhieni'n gyfrifol am amddiffyn rhag yr haul ar gyfer eu plentyn, h.y., eli haul, hetiau ac ati.
9.ÌýÌý ÌýRhaid i bob plentyn gadw at gyfarwyddyd yr anogwyr bob amser.
10.ÌýÌý ÌýMae gan y trefnydd yr hawl i ganslo unrhyw weithgaredd ar unrhyw adeg.
11.ÌýÌý ÌýRhaid i blant beidio â gadael yr adeilad oni bai bod y trefnydd yn rhoi caniatâd i wneud hynny.
12.ÌýÌý ÌýNi chaniateir esgidiau budr yn yr adeilad.
13.ÌýÌý ÌýMae iaith fudr ac anweddus yn cael ei gwahardd yn llym.
14.ÌýÌý ÌýNi chaniateir ymddygiad sy'n dramgwyddus neu'n tarfu ar eraill – cysylltir â'r rhieni os bernir bod hynny'n angenrheidiol ac efallai y gofynnir i'r plentyn fynd â'r plentyn adref.
15.ÌýÌý ÌýNid yw staff Chwaraeon Bangor yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am nwyddau electronig sy'n cael eu cludo i'r gweithgareddau.
Ìý